Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Nene
Un o'r pyllau bach ar y Ponciau yn ystod Streic 1921
Mawrth 2004
Llawer o ddiolch i David E. Williams, Gresford (gynt o'r Rhos) am anfon y llun a'r wybodaeth isod i ni. (Papur bro Nene)
Mae'n lun, fel dywed David yn ei lythyr at y papur bro, yn gofnod pwysig o hanes cymdeithasol y Rhos.

Tynnwyd y llun ar y Ponciau (oes un o'n darllenwyr yn nabod y tai yn y cefndir ac yn medru lleoli safle'r pwll yn fwy manwl? Rhowch wybod i Swyddogion Nene os gwelwch yn dda.)

Mae David yn gallu cynnig enwau i'r ddau sydd ar ochr dde'r llun yn penlinio wrth ochr y plac yn ei wyneb du, mae John Mile (26 oed) a'r tu cefn iddo, efo'i law ar y plac, mae ei dad, John Mile (61 oed.) Mae Richie Mile, cefnder i'r ieuengaf o'r ddau John Mile yn y llun yn rhywle.

Roedd y pwll yn un o ugeiniau o byllau gafodd eu sincio ar y Ponciau yn ystod Streic 1921. Pyllau teuluol oedd y rhain, yn aml. Tybed ai Pwll Teulu'r Meiliaid oedd hwn? Byddai'r coliars yn rhoi enwau ar y pyllau hyn. Fel y gwelir ar y plac, "Damp Pit" oedd yr enw ar y pwll uchod ac mae'r drydedd linell yn nodi'r dyddiad "30th June 1921" ac oddi tano gwelir llun hen lamp y coliars. Ond oes unrhywun yn medru esbonio'r ail linell "of the 7th AT ..."? Beth ydy arwyddocâd y llinell? Mi fyddai David, a ninnau, yn falch o gael eglurhad. Gobeithio y medr rhywun ein helpu wir.

Roedd y ddau John Mile sydd yn y llun, yn byw mewn byngalo yn 7 Duke Street, Rhos. Roedd yr ieuengaf o'r ddau John yn ewythr i David Williams (roedd wedi priodi Sarah, chwaer tad David, yn 1932.) Tad David oedd Edward (Eddie Williams) a fu'n byw yn y Gornel ac yn gweithio yng Ngwaith Brics y Copi. Yn yr Hobin Cast y ganed John Mile (ieu.) ym 1894 a bu farw yn 1965. Bu'n gweithio yn yr Hafod ac roedd yn aelod amlwg iawn o Glwb Clomod (colomennod) y Rhos.

Yn ei ddyddiau cynnar chwaraeai bêl-droed i dîmau'r ardal. Roedd ei dad yntau'n Ffeiarman yn y gwaith glo ac fe'i ganwyd ef yn Rhos yn 1860. Does dim cofnod gan David o ddyddiau ei farwolaeth. Ei dad yntau oedd William Mile a gafodd ei eni yn y Rhos ym 1836, yn ôl cyfrifiad 1881. Llawer o ddiolch i David am y manylion uchod. Mae'n awyddus iawn i wybod a oes Cymdeithas Hanes yn y Rhos a hefyd a oes unrhyw gynlluniau ar y gweill i gyhoeddi llyfr ar Hanes a Phobl y Rhos a'r Ponciau.

Perthynas arall i David Williams oedd Ann y Farddones neu Bronfraith Hiraethog fel y'i gelwid. Cyhoeddwyd rywfaint o'i hanes gennym yn Nene. Oes gan unrhyw un ragor o wybodaeth amdani hi a'i gwaith? Roedd wedi gorffen barddoni cyn i Herald y Rhos gael ei sefydlu gan Richard Mills ym 1894 ac felly nid ymddangosodd llawer o'i cherddi yng ngholofnau'r Herald, efallai eu bod ar wasgar mewn hen gist yn atic rhywun neu'n bentwr yng nghefn rhyw ddrôr.

Os gall rhywun gynnig mwy o wybodaeth amdani, yna, rhowch wybod i bapur bro Nene.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý