Ar ddechrau Gorffennaf roedd yn rhannu'r llwyfan efo Bryn Terfel yng Nghyngerdd Agoriadol Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
Efo Cerddorfa'r Hallé o dan arweinyddiaeth Gareth Jones cyflwynodd Llŷr ddau gonsierto, y naiII gan Rachmaninov a'r llaII gan Liszt.
Ymhen ychydig o ddyddiau medd LlÅ·r yn ymddangos efo Cerddorfa Ffilharmonig' Lerpwl am y tro cyntaf a hynny yn Neuadd Ffilharmonig' y ddinas yn chwarae 3ydd Consierto Beethoven o dan faton Owain Arwel Hughes.
Does dim rhaid dweud mai yn iaith Y Rhos y trafodwyd y gwaith ymlaen llaw!
Dridiau'n ddiweddarach roedd LlÅ·r yn hedfan i Minneapolis yn yr Unol Daleithau i gyflwyno'r un gwaith efo Cerddorfa Talaith Minnesota - y tro hwn dan arweinyddiaeth Osma Vanskii.
Wedi dychwelyd roedd dau ddatganiad - un yn ymyl Ipswich a'r llall yn Llundain. Ac yna cyflwynwyd yr un consierto ym Mhroms Cymru yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd.
Unwaith eto roedd hwn efo Cerddorfa Ffilharmonig Lerpwl ac Owain Arwel Hughes. .
Roedd newid cywair ar ddechrau mis Awst gan iddo fynd i'r Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe i feirniadu cystadleuaeth Ysgoloriaeth Towyn Roberts.
Yn dilyn roedd tri ymddangosiad yng Ngŵyl Gydwladol Caeredin yn Neuadd Usher.
Yn gyntaf chwaraeodd Bumpawd Schubert i biano a llinynnau, sef 'Y Brithyll.'
Yr oedd hyn efo Pedwarawd yr Hebrides sydd mewn gwirionedd yn grŵp o offerynwyr Ewropeaidd.
Wythnos yn ddiweddarach roedd i fynd yn ôl yno i chwarae 3ydd Consierto Beethoven efo Osma Vanska a Cherddorfa Talaith Minnesota.
Fodd bynnag dau ddiwrnod cyn hyn cafodd alwad ffôn. Roedd y soprano o America Dawn Upshaw, oedd i fod i ganu efo'r gerddorfa yn y Proms yn y Neuadd Albert, yn wael ac roedden nhw am i Llŷr gamu i mewn.
Roedd rhaid gadael y Neuadd yn yr egwyl er mwyn mynd i ddal awyren i hedfan i Gaeredin ar gyfer y noson ganlynol!
Gyda llaw, darlledwyd y cyngerdd yn fyw ar deledu Ö÷²¥´óÐã4 se Radio Tri. Yn 01 Hilary Finch yn y Times roedd y cyflwyniad yn 'life-enhancing!'
Ac fel mae Nene yn cael ei roi i'w wely mae Llŷr ar ei ffordd yn ôl i Gaeredin am y trydydd penwythnos yn ddilynol. Y tro hwn bydd yn cyflwyno sonata enfawr yr Hamrnerklavier gan Beethoven yn Neuadd Usher.