Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Nene
Llwyddiant LlÅ·r a'r piano
Medi 2003
Mae misoedd yr haf fel arfer yn gyfnod o ymlacio a gwyliau. Ond i LlÅ·r Williams o Pentrebychan fe fuon nhw'n eithriadol o brysur eleni. A llwyddiannus.

Ychydig ddyddiau cyn i'w waith yn yr Academi Gerdd yn Llundain ddirwyn i ben am y tymor fe glywodd ei fod wedi cael ei ddewis gan y Ö÷²¥´óÐã i fynd fel 'Artist y Genhedlaeth Newydd'. Ar y cynllun hwn y mae'r Ö÷²¥´óÐã yn dewis chwech o gerddorion ifainc yn offerynwyr, cantorion a chyfansoddwyr o bob cwr o'r byd ac yn eu noddi am ddwy flynedd gan drefnu cyngherddau byw ac yn y stiwdio iddyn nhw.

Eisoes fe drefnwyd datganiadau yn Neuadd Wigmore Llundain- Neuadd y Dref Leeds a Chaerdydd a pherfformiad o Gonsierto Rhif 5 gan Beethoven efo Cerddorfa'r Ö÷²¥´óÐã. Ac fe fydd y rhain yn cael eu darlledu naill ai'n fyw neu'n ddiweddarach. Wedyn ar ddiwedd mis Mehefin fe aeth Llyr i Gaerdydd fel cyfeilydd swyddogol i Gystadleuaeth Canwr y Byd.

Roedd y gystadleuaeth ar ei newydd wedd y tro hwn gyda'r ymgeiswyr (yn ogystal â'u rhaglenni operatig) yn cyflwyno rhaglen gyflawn o ugain munud yr un i gyfeiliant piano. Fel arfer dydy'r cyfeilydd ddim yn cael fawr o sylw. Ond nid y tro hwn!

Yn ôl adolygydd y Guardian "yr oedd y sawl fu'n dilyn y brif gystadleuaeth yn unig wedi colli uchafbwynt cerddorol yr holl wythnos, sef chwarae Llŷr Williams."

Roedd barn y beirniad cerdd adnabyddus Hilary Finch yn y Times yn fwy canmoliaethus fyth. Meddai : "Roedd cyfeilio LlÅ·r yn agoriad llygad i mi. Fe berfformiodd o bob cerddor arall o'r golwg - ond ei fod yn llawer gormod o gerddor i adael i hynny ddigwydd."

Wythnos union yn ddiweddarach roedd Llŷr yn ei ôl yng nghyffiniau Caerdydd - fel unawdydd y tro hwn i gloi Gŵyl Machen Isaf. Mae'r Ŵyl hon yn cael ei chynnal mewn hen eglwys fach sy'n dyddio'n ôl i'r drydedd ganrif ar ddeg ond mae ei hacwsteg yn cael ei ystyried yn well na'r un adeilad arall yn Ne Cymru. Unwaith eto roedd y beirniad cerdd yn bresennol.

Yn ôl y South Wales Argos yr oedd Cymru o'r diwedd wedi cynhyrchu pianydd clasurol o bwysigrwydd rhyngwladol. Roedd Rian Evans yn y Guardian yn cytuno, a chan gyfeirio at ei dechneg disglair, ei sensitifrwydd a'i allu meddyliol, fe broffwydodd hi y byddai ei ymddangosiad yng Ngŵyl Caeredin yn lansio gyrfa ddisglair o'r radd flaenaf.

Cyn Caeredin, fodd bynnag, yr oedd gan Llŷr dri chyngerdd arall - yn chwarae Consierto Cyntaf Beethoven efo Cerddorfa Siambr Cheltenham yng Ngŵyl Gerdd y dref honno ac yn rhoi dau ddatganiad, y naill y tu allan i Market Harborough ar y nos Fawrth a'r llall drannoeth am un ar ddeg y bore yn King's Lynn. Roedd hyn yn gadael tipyn llai na phythefnos i roi sglein ar raglen hollol wahanol ar gyfer Caeredin.

Roedd y datganiad hwn yn Neuadd y Frenhines, ac yn od iawn yr unig amser i LlÅ·r fod yng Nghaeredin o'r blaen oedd fel bachgen ysgol, ar gyfer datganiad piano gan un o'i arwyr, Richard Goode, yn yr union neuadd honno. Gyda llaw, hen gapel wedi ei droi'n neuadd gyngerdd foethus ydy Neuadd y Frenhines i ddal naw cant. Ac er yr holl atyniadau eraill oedd ymlaen yn y ddinas ac er bod yr holl ddatganiad yn cael ei ddarlledu'n fyw roedd bron i wyth cant a hanner o docynnau wedi eu gwerthu.

Un darn, sef Sonata A fwyaf D.959 gan Schubert yn unig oedd yn yr hanner cyntaf, ond mae'n parhau am dri chwarter awr! Yn yr ail hanner Faschingsschwank aus Vien gan Schumann a thri darn gan Liszt. Roedd yr ymateb ar ddiwedd yr hanner cyntaf yn ddigon o ryfeddod efo bonllefau o brafos ond ar y diwedd roedd y lle'n ferw gwyllt. Fel y dywedodd adroddiad yn yr Evening Standard: "Neidiodd gwragedd parchus Caeredin yn eu dillad dydd Sul o'u seddau a stampio'u traed fel pethau o'u co a gweiddi am encores. Ddaru ni i gyd!" A rhaid oedd ufuddhau a chafwyd Impromptu tawel gan Schubert. Ond doedd hynny ddim yn ddigon a chafwyd ddarn tanllyd Etincelles (Gwreichion) gan Moszkowski.

Wedyn roedd cyfle i gael tipyn o seibiant i ymlacio mewn bwthyn i fyny yn un o benrhynnau mwyaf diarffordd ar Ynys Skye ac ymhell o gyrraedd pob papur newydd a ffôn. Dim ond wedi dod adre' i Bentrebychan a derbyn y post y deallwyd am yr effaith yr oedd ei ddatganiad wedi ei greu.

Roedd y papurau newydd yn llawn canmoliaeth. Y tro hwn roedd Hillary Finch yn y Times o leiaf yn gwybod beth i'w ddisgwyl ond hyd yn oed wedyn roedd hi yn synnu at ei "ddeallusrwydd cadarn, ei ddychymyg chwim a'i galon agored ynghyd â'i dechneg a'i fedrusrwydd di-ben-draw yn ei alluogi i greu cerddoriaeth gyfarwydd ymddangos fel rhywbeth newydd."

Ategwyd ei barn hi gan ei chyd-ohebydd, Paul Driver, yn y Sunday Times. Yn ôl hwnnw wrth edrych yn ôl dros yr wythnosau gyntaf yn ei chyfanrwydd datganiad Llŷr oedd y cyngerdd mwyaf llwyddiannus a boddhaol o'r cwbwl. Yn ôl y Scotsman roedd Llŷr "fel chwa o awyr iach, yn hollol rydd oddi wrth hen syniadaeth a rhethreg wag. Fe ddatgelodd Sonata enfawr Schubert fel campwaith sy'n cyfuno mawredd Alpaidd efo dwyster dieflig sy'n rhwygo'r galon. Roedd symudiad cyntaf Williams yn llawn golygfeydd mynyddig, roedd ei andantino tyner fel petai wedi ei danio â deinameit, ac i ac i gymalau darniog y diweddglo fe gyfleodd y syniad bod adeilad cawraidd y sonata ei hun yn annigonol ac ar fin chwalu'n deilchion."

"Diamwnt enfawr mewn datganiad cyntaf disglair!" oedd pennawd Fiona Maddox yn yr Evening Standard. Meddai: "Mae datganiadau cyntaf yn rhy aml yn cael eu hanwybyddu ynghanol disgleirdeb yr Ŵyl Ryngwladol enfawr. Ond weithiau y mae'r cyngherddau bore yn Neuadd y Frenhines ac a ddarlledir yn fyw ar Radio 3 yn darganfod gêm. Yn achos y pianydd Llŷr Williams rydyn ni'n dal i geisio diffinio union fesuriadau a gwerth y diamwnt enfawr a saethwyd i'n plith... Fe roddodd y Cymro bach ysgafn a diymhongar hwn raglen uchelgeisiol i ni.

"Yn y Sonata hwyr gan Schubert, sy'n fynegiant aruchel o gynghanedd, melodiedd a beiddgarwch strwythurol, fe gyfunodd o farddoniaeth a gwylltineb i'r fath raddau nes gwneud i'r gynulleidfa ddal ar eu hanadl...Yn y tri darn gan Liszt fe ddatgelodd chwarae o fath gwahanol: cynnil, crisialaidd, coeth a oedd yn ymddangos yn hollol naturiol a diymdrech, ansoddeiriau na ddefnyddir yn aml iawn am y cyfansoddwr dieflig o ddyrys a chordeddog hwn. Mewn gair na ddylid ei ollwng allan o'i gawell ond ar adegau prin iawn yr oedd Williams yn syfrdanol."

Ond efallai mai'r adolygiad mwyaf canmoliaethus oedd yr un yn yr Herald. Roedd hyn yn annisgwyl gan ei fod wedi ei ysgrifennu gan Michael Tomelty, sef mae'n debyg, yn uchel iawn ei safonau ac yn chwedlonol am fod yn bigog ac yn finiog tu hwnt. Agorodd ei sylwadau trwy ddweud : Mae hi'n siŵr fod pob cyfarwyddwr Gŵyl yn gweddïo y bydd un digwyddiad - dim ond un - yn ei raglenni fydd yn taflu rhywbeth annisgwyl a rhyfeddol i'r golau.

Ddoe, i Brian McMaster, i Å´yl Rhyngwladol Caeredin, i bob un ohonon ni oedd yn y gynulleidfa yn Neuadd y Frenhines, ac i bawb oedd yn gwrando ar radio 3 y Ö÷²¥´óÐã, fe ddigwyddodd y rhyfeddod prin hwnnw. Ar ei ymddangosiad cyntaf yng Nghaeredin fe roddodd y pianydd o Gymro, LlÅ·r Williams, bwerdy o ddatganiad. Datganiad oedd yn cynnwys un o'r perfformiadau mwyaf gafaelgar y gallaf i gofio ei glywed erioed."

Ac wedi dadansoddi ei berfformiad yn fanwl meddai i gloi: "Beth sydd gan Williams sydd yn ei wneud o mor arbennig? Mae'r ateb yn syml. Popeth! Mae cadernid deallusol ei chwarae yn gwneud i'ch ymennydd chi chwalu yn enwedig pan lifa pelydrau o'r barddoniaeth mwyaf tyner ac aruchel fel petal o unman oddi ar y dudalen. Mae ei rym yn syfrdanol. Ei loywder yn ddigymar. Ei angerdd yn ysgubol. Ei dynerwch yn ddigon i doddi'r galon. Mae'n gymysgedd brenhinol o'r cerddor strwythurol a'r greddfol. Mae'n rheoli ffurf gyflawn darn mor llwyr a phob un o'i fanion lleiaf. Mae'n gallu cyrraedd ymhell bell o dan wyneb y gerddoriaeth a chyfleu enaid a chalon yr ysbrydoliaeth. Mae o'n rhyfeddod! Ac fe fydd y cof am y profiad hwn yn aros efo fi am amser maith iawn."

Yn wyneb y fath gymeradwyaeth dydy hi ddim yn syndod deall bod cynigion wedi bad yn llifo i mewn i roi datganiadau a chyngherddau ledled Prydain, Ewrop a hyd yn oed yr Unol Daleithiau gan gynnwys nifer gyda cherddorfeydd blaenllaw. Ac mae ei ddyddiadur yn dechrau llenwi am y ddwy neu dair blynedd nesaf.

Anrhydedd Ychwanegol
Ond mae'n siŵr mai'r anrhydedd fwyaf oedd y ffaith bod ei ddatganiad wedi ei ddewis i dderbyn Gwobr y Beirniaid. A thra roedd Llŷr yn ymlacio yn heulwen a smwclaw Skye roedd swyddogion Gŵyl Ryngwladol Caeredin yn chwilio amdano ymhobman i fyny ac i lawr y wlad ac yn ceisio gwneud trefniadau i'w hedfan yn ôl i'r brifddinas i'w wobr gael ei chyflwyno iddo fo'n ffurfiol mewn seremoni yn Neuadd Usher.

Yn lle hynny fe ddaeth yr Herald Angel (delw ar ffurf angel ac yn debyg o ran ei faint a'i liw o leiaf i Oscar!) drwy'r post. Efo'r adolygiadau.

Ar hyn o bryd mae LlÅ·r yn paratoi ar gyfer ymddangosiad cyntaf arall, sef yn Ystafell Purcell ar y South Bank yn Llundain ar Hydref 24ain.

Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau iddo.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý