Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Nene
Y diweddar Glyn Thomas Bwrsari newydd i fyfyrwyr
Mehefin 2002
Yn ystod Seremoni Wobrwyo a gynhaliwyd yng Nghanolfan Archimedes, Wrecsam, gan Brifysgol Cymru, Bangor, ddydd Gwener, 10fed Mai, cyhoeddwyd fod Adran Dysgu Gydol Oes y Brifysgol (sef yr hen Adran Efrydiau Allanol) wedi sefydlu cynllun fydd yn goffâd i'r diweddar Mr Glyn Thomas, Rhos.
Cynllun yw hwn ar gyfer myfyrwyr sydd yn byw yng ngogledd ddwyrain Cymru ac yn astudio ar gyfer graddau rhan-amser yn y ganolfan yn Wrecsam.

Cynnig cymhorthdal
O dan y cynllun hwn bydd yr adran yn medru cynnig cymhorthdal o'i hadnoddau ei hun i ymgeiswyr sy'n cael eu hystyried yn haeddiannol, ond sydd am wahanol resymau yn methu bodloni rheolau'r cymorth cyhoeddus sydd ar gael. Dyfernir cymhorthdal o'r fath yn enw Bwrsari Glyn Thomas.

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Mr Gwynn Matthews, Tiwtor Cydlynol y Gogledd-ddwyrain, fod y Bwrsari cyntaf eisoes wedi ei gynnig yn ystod y flwyddyn academaidd bresennol.

Ymdrechu'n egnïol dros addysg
Mynegodd ei foddhad personol am y dull ymarferol hwn o goffáu gwr a oedd wedi ymdrechu mor egnïol dros addysg oedolion am flynyddoedd maith.

Gweithiodd Mr Thomas ei ffordd i fyny o'r pwll glo i stydi'r prifathro, meddai Mr Matthews, ac ef fyddai'r cyntaf i gydnabod ei ddyled fawr i ddosbarthiadau'r WEA a 'r Adran Allanol. Llawenydd mawr i holl gyfeillion Glyn Thomas fyddai gweld myfyrwyr yr ail-gynnig yn cael hwb ymarferol yn ei enw ef.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý