Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Nene
Mark Lewis Jones Gog yn creu trafferth yng Nghwmgwili
Ebrill 2006
Mae'r actor Mark Lewis Jones o'r Rhos yn ymddangos yn yr ail gyfres o Con Passionate - ac mae ei gymeriad eisoes wedi dechrau creu trwbwl ...
Mae cantorion Cwmgwili a Davina, eu harweinyddes herfeiddiol, wedi dychwelyd i S4C ar gyfer ail gyfres o'r ddrama boblogaidd Con Passionate.

Yn dilyn diweddglo dramatig y gyfres gyntaf, diau y bydd y côr yn gobeithio am gyfnod llai cythryblus. Ond mae un wyneb newydd i'r cwm yn sicr o ddod â thrafferth i'w ganlyn - i'r dynion ac i'r merched.

Mark Lewis Jones yw'r actor o Gog sy'n dod i blith yr Hwntws wrth i'w gymeriad Irfon symud gyda'i deulu i ardal Cwmgwili. Yn ddeintydd wrth ei waith, mae Irfon yn ymuno â Chôr Gwili ac yn ceisio cyflwyno un neu ddau o newidiadau i arddull y côr - newidiadau sydd ddim at ddant yr aelodau mwy traddodiadol.

"Mae Irfon yn dipyn o ben mawr," medd Mark, sy'n hannu o Rosllannerchrugog ger Wrecsam. "Mae o'n meddwl ei fod o'n gallu troi ei law at unrhyw beth a phan mae Davina yn gofyn iddo gymryd ymarfer, mae o'n ceisio cael y côr i symud a gwneud tipyn bach o ddawnsio.

"Dydi o ddim yn ddyn neis. Baswn i'n meddwl fod ganddo fo broblemau seicolegol. Ond mae'n lot o hwyl i chware cymeriad fel hyn. Mae'r cymhlethdodau yn ei wneud o'n fwy diddorol.

"Dw i wedi action cymeriadau fel Des yn The Bench; roedd o'n ddiawl mewn croen, ond yn y bôn roedd o'n hen foi iawn. Ond efo Irfon, mae o'n real bastard! Does dim byd yn neis ynddo o gwbwl!"

Mae Mark wedi action efo Russell Crowe yn y ffilm Master and Commander ond does fawr o wahaniaeth rhwng action mewn ffilmiau mawr ac action ar set Con Passionate. Unwaith mae'r camera'n dechrau troi, yr un job ydy o."

"Roedd yn brofiad diddorol cael bod ar anferth o set fawr, fel Troy, lle mae cannoedd o gast ond dydy'r scale ddim yn bwysig i fi, y peth pwysig ydy'r sgript a'r gwaith actio. Mae Cymru gystal ag unrhyw wlad arall yn y byd o ran cynhyrchu rhaglenni ond mae angen sgripts newydd a gwreiddiol yn Gymraeg yn lle cyfieithu; mae pethau'n datblygu a'r safonau'n codi'n gyson ar S4C."

Ar hyn o bryd, mae Mark yn gweithio ar ffilm newydd Daddy's Girl ac yna bydd yn dechrau ffilmio Small Country, addasiad o nofel Siân James o'r un teitl. Ffilm ddwyieithog, pedair awr o hyd ydy Small Country, a bydd yn ymddangos ar ffurf cyfres o bedair rhaglen, awr yr un ar S4C.

Fe dderbyniodd Mark ei addysg yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam ac mae o'n cyfaddef mai trwy lwc ac anogaeth ei athrawes ddrama y daeth i ymddiddori mewn actio. Yn fachgen ifanc yn y Rhos, mae Mark yn dweud yn onest nad oedd fawr ddim yn mynd â'i fryd.

"Doedd gen i ddim diddordeb mewn dim byd," meddai Mark. "Ond pan o'n i'n 16 oed roedd yr ysgol yn perfformio Culhwch ac Olwen. Roedd bod ar lwyfan yn rhywbeth newydd iawn i mi a wnes i fwynhau'r profiad."

Mae'n talu teyrnged i'w athrawes ddrama yn Ysgol Morgan Llwyd, Gwawr Dafis - Mason gynt - ac yn dweud mai hi a fu'n gyfrifol am hogi ei ddiddordeb mewn drama a'i annog i barhau. A dyna gychwyn ar yrfa ddisglair ar y teledu ac ar lwyfannau enwocaf Prydain.

Ac mae Mark wrth ei fodd o gae; bod yn rhan o'r ail gyfres o Con Passionate wedi iddo fwynhau'r gyfres gyntaf.

"R'on i'n dipyn o ffan o Con Passionate ac r'on i'n mor falch pan ges i wahoddiad gan y cynhyrchwyr, Teledu Apollo i fod yn rhan o'r al gyfres. Mae'r gymdeithas glos yn fy atgoffa I O FYWYD YN Y Rhos efo'r côr yn ganolbwynt i'r cyfan. Ond mae Côr y Rhos yn llawer mwy proffesiynol na Chôr Gwili sy'n rhoi pwyslais ar gymdeithasu!!" chwardda Mark.

"Mi roedd gen i lot o ffrindiau oedd yn canu efo Côr Meibion y Rhos a'r Orffiws ond wnes i erioed ymuno â'r un o'r ddau." Mark a Marathon Llundain Does wybod sut yn y byd mawr mae Mark yn llwyddo i gael amser o brysurdeb ffilmio ac actio i ymarfer ar gyfer rasys Marathon ond mae wedi rhedeg mewn sawl un er mwyn codi arian at achosion da. Y llynnedd cymerodd ran yn y Great North Run ac eleni mae'n rhedeg i godi arian i Apêl Noah's Ark. Ysbyty plant yng Nghaerdydd ydy Noah's Ar, yr unig Ysbyty Plant yng Nghymru gyfan. Mae mawr angen prynu offer ar gyfer yr Und Llygaid yn yr ysbyty a dyna pam y bydd Mark yn chwilio am bobl i'w noddi pan fydd yn rhedeg Marathon Llundain ddiwedd mis Ebrill.

Os bydd unrhyw un o ddarllenwyr Nene yn awyddus i noddi Mark - gallwch gysylltu â swyddogion y papur.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý