Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Nene
Peter o Stoke Cariad at yr iaith
Mehefin 2008
Er mai yn Stoke-on-Trent mae Peter Palmer yn byw mae'n dod i Rhos bob nos Lun i ddysgu Cymraeg!

Dyma ei hanes yn ei eiriau ei hun:

Peter Palmer dw i a dw i'n dŵad o Stoke-on-Trent. O'r ystafell wely yn fy nhŷ yn Bignall End, Stoke, dw i'n gallu gweld Moel Famau a bryniau Cymru. Mae gen i lawer o ffrindiau yng Nghymru a dw i'n mwynhau cerdded yn y wlad ac ar lan y môr yno. Hefyd, bob blwyddyn dw i'n mynd efo'r teulu i aros mewn carafan yn fy hoff le - Harlech. Mae'n wych!

Dw i''n hoffi Cymru, dw i'n hoffi'r bobl and dw i'n hoffi'r iaith Gymraeg. Dw i'n dŵad i Ysgol y Grango ar nos Lun i ddysgu Cymraeg. Cynllunydd adeiladau dw i a dw i'n cael tipyn o waith yng Nghymru felly dw i'n falch ac yn hapus i roi'r iaith Gymraeg ar fy fan.

Mae gen i hen lyfr yn y tŷ - geiriadur Cymraeg. Roedd fy nhaid, Richard, yn bregethwr Methodist. Ar ôl ymddeol yn gynnar, mi ddaru o dreulio amser yn mynd yn ôl i'w wreiddiau ysbrydol - Methodistiaeth Cymraeg. Roedd o'n mwynhau siarad efo pobl am eu cred yn Nuw - neu eu diffyg cred - ar hyd arfordir gogledd Cymru. Roedd o isio dysgu Cymraeg i gyfathrebu yn yr iaith o'r galon. Truan...mi ddaru o fethu. Dw i'n hoffi siarad efo pobl am eu cred yn Nuw hefyd. I siarad yn yr iaith o'r galon ydy'r peth gorau.

Hefyd dw i'n hoffi gweithio efo siaradwyr Cymraeg. Mae dysgu Cymraeg yn anodd iawn, iawn! Ond mae'n fraint yn wir. Mae Cymraeg yn ysbrydoli pobl i'r celfyddyd a'r farddoniaeth orau. Mae Cymraeg yn hardd iawn ac yn ysbrydoli'r bywyd gorau.

Dw i ddim yn credu mewn cenedlaetholdeb cul ond mae gan bobl o bob gwlad lawer i gyfrannu i'r byd. Trwy ddysgu Cymraeg dw i'n rhan fach o'r pethau da mae Cymru yn cynnig. Mae'n wych iawn!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý