Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Clawdd
Cartwn 'Michael' y cymeriad ailgylchu Cynllun ailgylchu newydd Wrecsam
Dechreuodd cynllun arbrofol Ailgylchu gyda Michael (Recycle with Michael) ddechrau Gorffennaf mewn pum ardal o fewn ardal y Cyngor Sir.

Bwriad y cynllun yw annog trigolion yr ardaloedd i ailgylchu eu gwastraff tÅ· a hynny trwy wahanu eu gwastraff yn barod i'w gasglu.

Mae'r cynllun yn cynnwys chwe mil o dai yn Y Waun, Gresffordd, Garden Village, New Broughton a Bryn Offa, ac ardal Sydallt/Gwersyllt/Brynhyfryd. Mae hyn yn cyfrif am bron i ddegfed rhan o ardal y Cyngor.

Bagiau plastig i ailgylchu

Mae pob tŷ yn yr ardaloedd hyn wedi derbyn bagiau plastig - rhai gwyrdd ar gyfer papurau newydd, cylchgronau, llyfrau ffôn ac yn y blaen, a rhai pinc ar gyfer poteli a bagiau plastig a metelau fel tuniau.

Maen nhw hefyd wedi derbyn bin newydd, un gwyrdd ar olwynion, i gasglu glaswellt a sbwriel o'r ardd ac yn y blaen. Fe fyddan nhw'n defnyddio'r bin olwynion du presennol i gael gwared o'r gwastraff sy'n weddill.

Mae'r bin gwyrdd a'r bag gwyrdd yn cael eu casglu un wythnos a'r bag pinc yr wythnos ganlynol.

Gan nad oes gennym ganolfan adennill adnoddau eto yn Wrecsam sy'n medru delio â gwastraff sydd wedi ei wahanu a'i baratoi ar gyfer ailgylchu, mae trefniant dros dro gyda Chyngor Caer i dderbyn ac ailgylchu'r plastig, metel a phapur ac i wneud compost o'r gwastraff gardd.

Bob blwyddyn, mae ardal Wrecsam yn creu dros 500,000 tunnell o wastraff, gan gynnwys gwastraff masnach, busnes, diwydiant, adeiladu ac amaeth.

Niweidio'r amgylchedd

Mae Cyngor Wrecsam yn casglu 80,000 tunnell o sbwriel domestig - dros dunnell o bob ty - a dim ond 2.4% o hwn sy'n cael ei ailgylchu ar hyn o bryd gyda 97.6% yn mynd i dyllau yn y ddaear lle bydd yn pydru gan greu problemau arogl a nwy sy'n niweidio'r amgylchedd ac yn llygru sianeli dŵr - sy'n wastraff llwyr o adnoddau prin y ddaear ac eto'n costio'n ddrud i'w gladdu.

Mae'r cynghorau'n cael eu beirniadu'n llym am wastraff ac yn cael eu gorfodi gan ddeddfwriaeth Ewropeaidd a Phrydeinig i ailgylchu mwy.

Mae'r dreth claddu (landfill tax), sef £13 am bob tunnell o wastraff sy'n cael ei gladdu, yn un ymdrech gan y llywodraeth i berswadio'r cynghorau i newid ac mae'r dreth yn codi bob blwyddyn.

Ond mae casglu a gwahanu sbwriel i'w ailgylchu yn costio mwy na chasglu gwastraff cymysg a'i gladdu ac nid yw gwerth yr hyn sy'n cael ei ailgylchu yn talu am y costau ychwanegol!

Ffodus i dderbyn grant

Mae Wrecsam wedi bod yn ffodus i dderbyn grant o £1.4 miliwn gan y Cynulliad tuag at gostau ailgyIchu dros y tair blynedd nesaf a dyma sut y bu modd cynnal yr arbrawf.

Ond er hyn dim ond digon o arian sydd yma i weithredu'r cynllun yn 10% o dai'r Sir. Bydd angen gwario llawer mwy i ymestyn y cynllun i bob tÅ· yn y Sir.

Ond mae grant y Cynulliad hefyd yn talu am ddau swyddog addysg ailgylchu i addysgu plant yr ysgolion lleol am bwysigrwydd ailgylchu a gwarchod y blaned i genedlaethau'r dyfodol.

Mae'n rhaid newid agweddau pobol fel eu bod yn gweld nad oes rhaid gwastraffu adnoddau a'u bod yn derbyn bod rhaid i ni greu llai o wastraff yn y lle cyntaf a bod yn rhaid i bawb ailgylchu cymaint â phosib o'r gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu.

I'r rhai ohonom nad ydym yn cael ein cynnwys yn yr arbrawf, mae Safleoedd Amwynderau Dinesig (Civic Amenity Sites) Acton, Queensway, Brymbo a Phlas Madoc yn derbyn gwastraff ar gyfer ei ailgylchu ac mae nifer o fannau fel Sainsbury, Tesco ac Asda yn casglu poteli, caniau, papur, dillad, sgidiau ac yn y blaen.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý