Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Clawdd
Smot y Ci yn ymweld â meithrinfa Little Scholars Digwyddiadau'r Fenter Iaith
Ddiwedd Ionawr, cafodd Cylch Meithrin Hill Street a Meithrinfa Little Scholars yn yr Athrofa ymwelydd arbennig iawn, sef Smot y Ci, mewn taith a drefnwyd ar y cyd rhwng y Fenter a TWF, y mudiad sy'n annog rhieni i roi i'w plant y cyfle i gael addysg ddwyieithog.

Lleolir Swydfa'r Fenter yn Nhy AVOW, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam, a chafodd y Swyddog Datblygu gyfle yn ystod mis Chwefror i gyflwyno cyfres o sesiynau ar Ymwybyddiaeth Iaith i'r staff yno, gydag un arbennig i wirfoddolwyr o sawl mudiad ar Ddydd Gwyl Ddewi. Y gobaith yw y gellir adeiladu ar y sylfaen hon ar gyfer y dyfodol.

Bu sawl un o Wrecsam yn Eisteddfod y Dysgwyr, a drefnwyd gan Fenter Iaith Sir y Fflint, yn yr Wyddgrug ar 6 Chwefror, a bu llwyddiant hefyd, gydag Alison White, un o ddysgwyr dosbarth Ned Harris, yn cipio'r wobr gyntaf am Ddyddiadur Gwyliau. Rhaid i ni fod â chynrychiolaeth gryfach eto'r flwyddyn nesaf!

Ymwelodd yr Athro Colin Baker, Prifysgol Bangor, sy'n arbenigwr byd eang ar ddwyieithrwydd, â Wrecsam ganol Chwefror i gynnal seminar ar fagu plant yn ddwyieithog, dan nawdd TWF.

Dwyieithrwydd yn gyffredin

Un ystadegyn diddorol iawn a ddaeth i'r amlwg oedd fod 65% o boblogaeth y byd yn ddwyieithog, neu'n medru mwy na dwy iaith. Roedd hi hefyd yn galonogol i glywed mor iach yw sefyllfa Gymraeg yng nghyd-destun cyflwr ieithoedd lleiafrifol drwy'r byd - ond yn sicr nid oes lle ychwaith i laesu dwylo yn ein gwaith drosti.

Cynhaliwyd y Clwb Gwyliau eto yn Ysgol Plas Coch yn ystod yr hanner tymor, gyda disgo cyn hynny yn Ysgol Bodhyfryd, a gododd ymron i £200 ar gyfer y Clwb. Derbyniodd y Clwb hefyd grant o £500 gan Gronfa Cymorth Cyngor Wrecsam, a £2730 gan Arian i Bawb Cymru - a bydd angen pob dimau i osod y Clwb ar sylfaeni sicr pan fydd yn gorfod gweithredu'n annibynnol ar y Fenter Iaith o'r haf nesaf ymlaen.

Noson Gemau

Cafodd y Clwb archwiliad llawn gan Arolygi Safonau Gofal Cymru yn ystod yr hanner tymor, ac rydym yn disgwyl yr adroddiad (ffafriol, gobeithio!) o hwnnw yn ystod y dyddiau nesaf.

Aeth y Nosweithiau 3C yn eu blaenau, gyda Noson Gêmau dan arweiniad Cadeirydd y Fenter, Trefor Jones-Morris, fis Chwefror, a noson Gawl a Chân, gyda Richard Jones, Prifathro Ysgol Hooson, yn cyfeilio.

Ni fydd adloniant yng nghyfarfod Ebrill 9fed, gan mai Dydd Gwener y Groglith fydd hi, ond gwahoddir dysgwyr a siaradwyr rhugl i gwrdd am sgwrs gyda'r nos yn y Belmont. Ar Fai 14eg, Beirdd yn y Bar fydd hi, gyda Geraint Lovgreen a'i gyfeilion. Bydd tocynnau ar gael o'r Pasg ymlaen o Swyddfa'r Fenter.

Bu gan y Fenter arddangosfa yn Tesco ar 19 Chwefror, a chewch ein gweld eto yn Sainsbury's ar 7 Mai o ddeg tan chwech.

Sesiynau Siarad

Yn dilyn sawl cais gan ddysgwyr, mae'r Fenter wedi cychwyn Sesiynau Siarad yn Eglwys Efengylaidd Parc Borras, Ffordd Jeffreys (y drws nesaf i'r Cunliffe Arms), Wrecsam, 10.30 - 12.30 pob trydydd bore Sadwrn yn y mis - felly bydd y nesaf ar 17 Ebrill. Croeso i bob dysgwr i ymarfer a siaradwyr rhugl i helpu!

Bu'r Fenter yn rhoi hwb i ddathliadau Gwyl Ddewi Tafarn y Nag's Head, gyda balaws a gyflenwyd gan Fwrdd yr Iaith, a chafodd y Swyddog Datblygu'r cyfle i ddweud ei ddweud ar MFM y bore hwnnw.

Roedd hynny, wrth gwrs, yn gyhoeddusrwydd i'r Fenter, ond mae angen mwy, ac mae angen mwy o weithgarwch codi arian ym y flwyddyn ariannol newydd, felly os medrwch gynorthwyo gyda un neu'r ddau faes yna, cysylltwch â ni ar 01978 363791.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý