Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Clawdd
Cofgolofn Testun trafod: mewnfudwyr
Gorffennaf 2008
Mae yna lawer o sôn am fewnfudwyr o wlad Pwyl yn dod i Wrecsam yn ddiweddar, ond ym mynwent y dref mae yn bosib gweld tystiolaeth bod cymuned Pwylaidd wedi bod yn bresennol yn y dre ers blynyddoedd cyn hyn.

Gyda chymaint o drin a thrafod mewnfudwyr ar y cyfryngau y dyddiau hyn - a sylweddoli cymaint sy'n ein bro ni, yn enwedig o wlad Pwyl - mae'n deg i gofio y rhan bwysig a gymerodd y Pwyliaid tra'n ymladd yn erbyn y Natsiaid ar ein hochr ni yn yr Ail Ryfel Byd 1939-45.

Efallai y cofiwch i'r Almaenwyr gipio eu gwlad cyn i'r rhyfel gychwyn. Bu nifer ohonynt yn enwog am eu dewrder drwy'r rhyfel a chafodd nifer eu gwobrwyo. Wedi'r rhyfel, daeth llawer ohonynt i'n hardal a chodwyd yn Llannerch Banna ysbyty i'r Pwyliaid - a dilynodd teuluoedd y rhai fu'n ymladd ar ein hochr ni, i gartrefu yn ein bro.

Os ewch i Fynwent y Dref, yn Ffordd Rhiwabon, fe welwch y gofgolofn yn y llun, ac arni mewn Pwyleg, Saesneg a Chymraeg y geiriau:

"Er cof am y milwyr Pwylaidd a'u teuluoedd na chawsant ddychwelyd i wlad Pwyl Rydd, ac sydd yn gorffwys yma ac mewn mynwentydd eraill yng Nghymru."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý