Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Clawdd
Eunice Ymweliad â Phatagonia a'r Ariannin
Mawrth 2005
Fy ymateb cyntaf i'r posibilrwydd o ymweld â Phatagonia oedd fy mod i'n rhy hen, fod y lle'n rhy bell ac y byddai'n ormod o gynnwrf.

Roeddwn i'n anghywir ym mhob achos. Treuliodd Eunice a minnau fis yn yr Ariannin ac ni wnaethom unwaith ddweud 'Fyddai'n well gen i fod adre!'

Roedd yn brofiad hyfryd, yn enwedig pan oeddem ni ymhlith Y Gymreig, yn gwrando ar Archentwr o'r bedwaredd genhedlaeth yn siarad Cymraeg ac yn swnio fel pe bai wedi dod syth o Ruthun.

Roedd Grahame, ein mab iau, wedi bod ar ymweliad â Phatagonia gyda'r gwaith rai blynyddoedd yn ôl, ac mi fynnodd y dylen ni gymeryd y cyfle o fynd i'r Ariannin pan ddaeth y siawns.

Ym mis Hydref y llynedd aethom ni yng nghwmni Ann-Marie a Tito Lewis ac 16 o rai eraill, yn bennaf o Dde Cymru, i gyd yn siaradwyr Cymraeg, gan hedfan o Gatwick drwy Madrid i Buenos Aires. Yn ystod y mis fe deithion ni o Buenos Aires yn y Gogledd i Ushuaia yn yr Antartic, ac o Gorllewin i'r Dwyrain o Esquel yn yr Andes i Borth Madryn ger Penrhyn Valdes.

Yn Buenos Aires fe wnaethon ni ymweld â'r Plaza de Mayo, y Casa Rosada, La Boca, Palermo, Recoletta (bedd Eva Peron) ac aethom i siopa yn Avenida Florida, gan lwyddo hefyd i wasgu i fewn i'r amserlen daith i weld sioe Tango un noson.

Hedfan wedyn i Bariloche, ar y ffin gyda Chile, a threulio rhai dyddiau yn Esquel (Cwm Hyfryd) a Threvelin lle cawson ni groeso Cymreig cynnes yn y Ganolfan Esquel, sy'n gysylltiedig â Chapel Seion ar Stryd Rivadavia. Aethom i wasanaeth yn Seion hefyd ar y Sul, lle bu un o'n parti, y Parchedig Byron Davies o Ben-y-bont ar Ogwr, yn arwain. Un o'r uchafbwyntiau oedd ymweliad ag "Ysgol Gymraeg yr Andes."

Yn Nhrevelin fe gwrddom â Vincent Evans "Y Gaucho Cymreig" a'i gymydog, y ffarmwr Mr. Rowlands. Roedd y ddau yn rhugl eu Cymraeg a'u Sbaeneg ond heb air o Saesneg rhyngddyn nhw. Ganed taid Mr Rowlands yn y Bala. Aethom hefyd i'r amgueddfa yn nhŷ John Daniel Evans, a gweld bedd ei geffyl Malacara (mae'r enw'n golygu 'wyneb hyll'). Hwn oedd y ceffyl a achubodd fywyd John Evans rhag yr Indiaid a oedd wedi lladd y tri Chymro oedd yn ei gwmni. Mae Malacara yn cael ei barchu gan Gymry a Sbaenwvr fel ei gilydd.

Pan wnaethom ni alw yn Amgueddfa Melin Trevelin roedd yn llawn o drugareddau Cymreig, ond sut yn y byd ddaru organ bedal o "Cranes of Regent Street Wrexham" gyrraedd yr Andes yn hwyr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ?!

Y stop nesaf oedd Trelew wedi taith saith awr ar draws yr anialwch yn dilyn llwybr yr afon Camwy i mewn i'r Dyffryn lle wnaethom ymweld â Dolavon, Gaiman a Threlew. Arhosodd y parti yn Nhrelew gan fynychu "Eisteddfod y Wladfa" lle bu Elinor Bennett yn brif feirniad. Daeth corau i gymryd rhan o mor bell i ffwrdd â Buenos Aires, ac fe aeth y cystadlu ymlaen tan dri o'r gloch y bore. Cynhaliwyd seromoni'r Orsedd yn y Gaiman, gyda'r orymdaith yn dechrau yng Nghapel Bethel lle aethom yn nes ymlaen i'r Gymanfa Ganu.

Ein harosiad nesaf oedd Puerto Madryn, lle glaniodd y Cymry yn 1865 a lle maent wedi eu coffau gyda cherflun enfawr a enwir 'Y Gymraes' ac un arall yn dangos 'Indiad' yn croesawu'r diethriaid. O borthladd bychan Puerto Pyramides aethom ar fwrdd llong i fynd i wylio morfilod ym môr Iwerydd. Wedi hynny, aethom i Caleta Valdes, gan ddringo i lawr y clogwyni, a gweld cartref y morloi eliffant mawreddog, eu 'harems' a'u teuluoedd.

Y daith nesaf oedd i El Calafate er mwyn aros mewn cabannau pren, i fynd ar daith gerdded ym Mharc Cenhedlaethol Los Glaciares ac i weld y rhewlif symudol enfawr Perito Moreno.

O El Calafate i lawr i'r Antartic i "Ddiwedd y Byd" a "Tierra del Fuego" er mwyn aros yn Ushuaia (tref fwyaf deheuol y byd). Tra'r oedden ni yno, cawsom y cyfle i gael taith ar hyd sianel y Beagle, yn agos at y ffin gyda Chile a chyda mynyddoedd ysblennydd ar bob ochr.

Yn ôl i Buenos Aires unwaith eto, ac yn ôl adre at ein Gwladfa ein hun.

Gan: Oswald Davies.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý