Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Clawdd
Sister Margaret Jones Pobl yr ardal: Margaret Jones
Mawrth 2006
Yn wreiddiol o Glyn Dyfrdwy ger Llangollen mae Margaret yn adnabyddus iawn yn Wrecsam ers sawl blwyddyn, nid yn unig yn Ysbyty Maelor ond yng Nghymdeithasau Cymraeg ein bro.
Fe'i ganwyd a'i magu yn ferch i Emrys a Mari Jones, "Frondeg", Glyn Dyfrdwy gyda'i brawd - Elfed.

Wedi ymadael ag ysgol gynradd Glyn Dyfrdwy fe'i haddysgwyd yn Ysgol Dinas Bran Llangollen cyn dechrau cwrs dechre nyrsio yn Wrecsam yn y "Tech" fel y'i gelwid y dyddiau hynny. Ym Medi 1968 dechreuodd ar gwrs hyfforddi nyrsus yn Strathalun ger Yr Orsedd, a phasio arholiad S.R. N. ar ôl tair blynedd.

Ar y pryd, ddechreuodd ei gyrfa yn nyrsio rhwng y ddwy ysbyty, fel oedd yn bodoli ar y pryd, sef yr hen ysbyty Coffa (sy'n Goleg Iâl erbyn heddiw,) ac ysbyty Maelor. Yn 1986 fel yr oedd yr Ysbyty Coffa'n cau a'i throsglwyddo i'r Maelor, bu farw ei thad.

Yn 1976 fe'i dyrchafwyd yn "Night Sister" (fel y galwyd y swydd) a bu'n gweithio ar ôl priodi Roger Jones o Gorwen ond, rhoddodd nyrsio i fyny yn 1978 tra'r oedd yn disgwyl teulu (sef Jane Angharad a anwyd yn 1979.)

Fe anwyd eu mab David ychydig wedyn ond parhaodd Margaret gyda'i nyrsio rhan amser ond yn gyfrifol yn ystod y nos am dair ward yn Ysbyty Maelor.

Gwobr arbennig - Nyrs y Flwyddyn
'Roedd y flwyddyn 1977 yn un gyffrous a phwysig ym mywyd Margaret. Fe'i dewiswyd yn Nyrs y Flwyddyn dros Gymru gyfan a chafodd brofiad anhygoel. Trefnwyd y gystadleuaeth gan gwmnïau Teledu Annibynnol a'r papur dyddiol 'Daily Express.'

Cyfarfu Margaret ag enwogion y cyfryngau ac enwogion y cyfnod, ac fe'i gwelwyd ar H.T.V. yn ennill y gystadleuaeth a chael ei "choroni." Cafodd gyfle i hedfan mewn awyren R.A.F. o Brize Norton ac fe gafodd wobr a thaith iddi hi a Roger ei gŵr i Sbaen, heblaw sawl cyfweliad a chyhoeddusrwydd.

Bu ei llun a'i hanes ar dudalen flaen y "Wrexham Leader" ac yr oedd colofn Gymreig gan y Leader y dyddiau hynny sef Colofn Crwydryn gan Tilsli y prifardd. Fel hyn yr adroddwyd yr hanes yn y "Leader" ar y pryd:¬

"Rhoddir gwobr Nyrs y Flwyddyn, nid am fedr ymarferol yn ei gwaith yn unig, ond am effeithiolrwydd, sirioldeb, caredigrwydd, uchelgais a phersonoliaeth yr ymgeisydd, a gwn fod Mrs Margaret Jones yn meddu'r nodweddion hyn i fesur helaeth iawn.

Y mae'n amlwg bod y tri beirniad yng Nghaerdydd yn cytuno, wrth ddyfarnu mai hi oedd yr orau o un ar bymtheg o ymgeiswyr oedd wedi eu dewis i'r prawf terfynol. Ymddengys nad oedd hi ei hun yn awyddus i ddod i'r gystadleuaeth, ac iddi wneud ei gorau i rwystro i'w henw fynd ymlaen, ond yr oedd yn rhy hwyr erbyn hynny i'w ffrindiau dynnu ei henw yn ôl a'r canlyniad oedd ei dewis yn Frenhines y Nyrsus trwy Gymru gyfan.

Y mae'n Gymraes go iawn a Chymraeg yw ei hiaith gyntaf. Ac erbyn y darllenir y geiriau hyn bydd Sister Margaret wedi ymddangos mewn prawf pellach i ddewis Nyrs Orau Prydain, ac ni allwn ond dymuno'n dda iddi. Ni wn am neb mwy haeddol i dderbyn y bendithion a ddaw iddi yn sgil ei buddugoliaeth, ac fe wn hefyd mai dewisach na mwynhau moethau iddi hi yw ymgeleddu'r cleifion."

Aeth Margaret yn ei blaen i'r gystadleuaeth am Nyrs Prydain Fawr ym Mirmingham a ddarlledwyd ar y teledu. Yn drist nid enillodd y wobr gyntaf ond daeth yn ail drwy'r wlad i gyd - go dda yn wir!

Mae Margaret yn hynod ddiwyd mewn sawl maes yn ei bro. Ers 15 mlynedd hi yw ysgrifennydd Capel Wesleaidd Jeriwsalem, ac yn Lywodraethwraig Ysgol Gymraeg Bodhyfryd Wrecsam ac Ysgol Plas Coch Wrecsam (ers ei hagor.) Bu'n aelod selog o gôr Parti'r Ffin, ac wrth ei bodd â chanu gwerin. Yn ei hamser hamdden prin, mae wrth ei bodd yn ymwneud â hen greiriau ac yn mynychu ffeiriau hen bethau i chwilota ac edrych am lestri "Gaudy Welsh" ayb

Hoff iawn gan Margaret hefyd yw ymweld â'i Mam a'i theulu ac ymweld â'i hen fro Glyn Dyfrdwy. Cymerodd Rogers ei gŵr ymddeoliad cynnar gyda'r swyddfa bost lle bu'n uwch - swyddog.

Mae eu merch Jane Angharad yn rheolwr prosiectau gyda chwmni cysylltiadau cyhoeddus rhaglenni teledu B.B.C e.e. "Pawb a'i farn ayb, gyda chwmni Momentwm Yr Wyddgrug.

Mae eu mab David yn Swyddog technegol gyda Astudiaethau Amgylchedd Cymru yng Nghaerdydd yn adran dŵr, daear a thir halog ac ar gychwyn cwrs gradd MSc micro-hydrology.

Tystia sawl un sydd wedi bod yn glaf yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac wedi cael profiad o ofal personol Margaret, yn ei chanmol am ei thynerwch a'i gofal ac yn arbennig ei phroffesionoliaeth effeithiol.

Rhoddodd bron i 40 mlynedd clodwiw i'n cleifion yma ac y mae Margaret yn gofidio am y diffyg cyfle ac amser sydd gan nyrsus heddiw i roi eu holl sylw i gleifion a llai o waith papur a llenwi'r ffurflenni.

Llongyfarchwn Margaret yn gynnes a diolchwn iddi am ei gwaith trylwyr a'i hymroddiad yn ein bro a'i chyfraniad ardderchog at Gymdeithasau Cymraeg y cylch. Dymunwn yn dda iddi hi a'i theulu i'r dyfodol a diolchwn iddi am barhau yn ein bro yn cyflawni rhan mor bwysig yn ein cylch.

Emlyn Edwards


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý