Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Clawdd
Amgueddfa Wrecsam Amgueddfa Wrecsam
Mawrth 2010
Mae'r amgueddfa ar gau ar gyfer ailwampio ar hyn o bryd. Mae Gareth Vaughan Williams yn edrych yn ôl ar hanes yr adeilad.

Mae Amgueddfa Wrecsam wedi ymsefydlu fel un o atyniadau mwyaf diddorol y dref nid yn unig oherwydd y creiriau parhaol sydd i'w gweld, fel Dyn Brymbo, ond hefyd am yr arddangosfeydd arbennig sydd yn dod drwy gydweithrediad â'r Amgueddfa Genedlaethol a'r Llyfrgell Genedlaethol.

Wrth fynd heibio'r Amgueddfa'n ddiweddar gwelais arwydd ar y drws yn dweud 'Ar gau ar gyfer ailwampio'. Mae'r Cyngor wedi derbyn grant o £950,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri tuag at y rhan gyntaf o'r gwaith. Mae cyfres wedi dechrau ar Radio Cymru dan y teitl 'Nid brics a mortar' yn trafod adeiladau sy' wedi newid eu swyddogaeth dros y blynyddoedd. Mae adeilad yr Amgueddfa wedi cael ei ail-wampio sawl tro.

Ym mlynyddoedd canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd llawer o anfodlonrwydd cymdeithasol a gwleidyddol ac roedd y wlad yng nghanol rhyfel fel y Crimea. Roedd milwyr ac arfau'n bwysig i gadw trefn. Pencadlys Milisia Brenhinol Sir Ddinbych, dan arweiniad Robert Myddelton Bidulph, yr Arglwydd Raglaw, oedd hen Neuadd y Dref yn High Street. Penderfynodd yr Ynadon y dylid adeiladu canolfan newydd ar gyfer y Milisia er mwyn cadw'r arfau'n ddiogel. Gofynnwyd i'r pensaer Thomas Penson baratoi cynlluniau ar gyfer pencadlys newydd yn cynnwys lle diogel ar gyfer arfau, gwarchodle, iard digon mawr i'r Milisia ymgynnull ac anheddau ar gyfer sarsiant major a 6 sarsiant.

Cafwyd tir yn Regent Street ac adeiladwyd y pencadlys yn debyg i gastell a thyrrau ym mhob cornel gyda ffenestri cul. Bwriadwyd cael ffos sych o amgylch yr adeilad a rhoi llenni o ddur ar y ffenestri. Symudwyd i mewn i'r Militia Barracks yn 1855. Bob blwyddyn roedd wythnos o ymarfer a byddai'r milisia yn gorymdeithio o amgylch y dref ac yn drilio ar y cae ras. Mae cynllun yr adeilad i'w weld yn glir ar fap ordnans 1872. Defnyddiwyd yr adeilad fel pencadlys hyd at 1877 pan adeiladwyd y baracs yn Hightown. Symudodd y Milisia i rannu baracs y Ffiwsilwyr Brenhinol.

Bu'r adeilad yn wag am ddwy flynedd ond erbyn 1879 roedd wedi'i ailwampio i fod yn Llys y Sesiwn Fach. Roedd hen Neuadd y Dref yn cael ei defnyddio gan yr heddlu ac roedd yn hollol anaddas ar gyfer y gwaith. Symudodd yr heddlu i'r safle newydd yr un pryd â'r Llys. Enw newydd yr adeilad oedd County Building. Cynhelid y llysoedd ar y llawr cyntaf; Llys y Sesiwn Bach, Llys Ynadon y Sir a Llys Barnwr y Sir. Uwchben y drysau ar y dde ac ar y chwith fe welir No 1 Court a No 2 Court. Adeiladwyd celloedd ar gyfer carcharorion. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd adeiladwyd iard ar gyfer yr ARP a dodwyd seiren ar y to ac mae yno o hyd ac yn cael ei defnyddio ar ddiwrnod y Cadoediad.

Roedd swyddfa'r Prif Gwnstabl yn y County Building ac ym mis Gorffennaf 1879 rhoddodd orchymyn i'w blismyn i dyfu barf a mwstas ac os nad oeddynt yn medru roedd yn rhaid siafio. Yn 1896 gwaharddodd blismyn rhag bod yn aelodau o gorau a mynychu ymarferion yn rheolaidd gan y byddai drwgweithredwyr yn ymwybodol o hyn ac yn cael cyfle i droseddu.

Bu'r County Building yn bencadlys yr heddlu hyd at 1976 ac mae'r lamp las, symbol enwog yr heddlu, uwchben y brif fynedfa o hyd. Mae llawer o gyn-blismyn yn cofio eu cyfnod yn gweithio yno a chefais sawl stori ddifyr gan Mr Winston Hughes. Cefais hyd i lun plismyn ceir yn 1955 yn sefyll yn rhes o flaen dau Vauxhall newydd a Wolsey, JUN 140. Wrth ochr y Wolsey mae Winston yn sefyll yn dalsyth, PS155 A W Hughes.

Yn 1995 ailwampiwyd yr adeilad unwaith eto pan gafodd ei brynu gan Gyngor Bwrdeistref Wrecsam a'i droi'n Amgueddfa. Edrychaf ymlaen at y newidiadau diweddara sy'n cynnwys estyniad o wydr ar flaen yr adeilad gyda chaffi, orielau arddangos a chyfleusterau dysgu. Gobeithir y bydd yr Amgueddfa'n ail agor yn gynnar yn 2011 - yn barod ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý