Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Clawdd
Menai Owen Jones Diolch a Dymuniadau Da!
Medi 2005
Mae'n siwr y basai'n darllenwyr yn hoffi ymuno a'r "Clawdd" i ddymuno yn dda i Menai Owen Jones yn ei swydd newydd fel swyddog codi arian i Dy Gobaith Croesoswallt a Chonwy.
Bu Menai'n ddiwyd ac effeithiol iawn tra'n Swyddog codi arian i'n Hosbis leol, Ty'r Eos am dros flwyddyn.

Mae Ty Gobaith yn Hosbis sy'n arbenigo mewn cynorthwyo plant ag afiechydon difrifol. Pob bendith i Menai yn ei Swydd bwysig newydd mewn porfeydd eraill.

Rhoddodd y Clawdd gyfle i Menai ddisgrifio ei chyfrifoldebau yn ei swydd newydd swydd sy'n wahanol iawn i'r rhan fwyaf o swyddi yr ydym ni fei Cymry yn gyfarwydd â nhw. Dyma'r hyn roedd gan Menai i ddweud am ei swydd:

Fe'm apwyntiwyd fel Swyddog Codi Arian yn y Gymuned gyda Hospis Ty'r Eos ym mis Mawrth 2004. Ffocws y swydd yn gyffredinol oedd gweithio o fewn y gymuned i godi arian a chodi ymwybyddiaeth o'r Hospis a'i gwasanaethau. Mae sawl agwedd gwahanol i'r math yma o swydd.

Un agwedd mwynheais yn fawr oedd cyd-weithio gyda chylchoedd cyfeillion yr Hospis ar hyd a lled Gogledd Ddwyrain Cymru. Roedd y grwpiau yn gefnogol iawn i mi yn ystod fy amser gyda Thy'r Eos.

Yn ystod yr un-fis-ar-bymtheg byrlymus bum yn gweithio gyda'r Hospis, cefais fwynhad o'r gwaith ac ystod eang o brofiadau a sialensiau newydd e.e. trefnu nifer o gyngherddau a ffeiriau.

Bellach ers yr haf, rwy'n Drefnydd Apeliadau Gogledd Ddwyrain Cymru a Swyddog Caer gyda Hospisis Plant Hope House. Fel elusen, mae gennym ddwy hospis, Hope House yng Nghroesoswallt a Thy Gobaith yng Nghonwy.

Rydym yn cynnig gofal arbennig i blant sydd yn dioddef o salwch terfynol ac yn rhoi cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i deuluoedd sy'n wynebu'r boen o golli eu plentyn annwyl.

Daw plant i'r hospisis o ardal eang iawn yn cynnwys Gogledd a Chanolbarth Cymru, draw i Swydd Caer ac i lawr i Swydd Amwythig.

Pan ddechreuais fy swydd gyda Hospis Plant Hope House, cefais gyfle i gymryd rhan mewn sawl 'shift' gofal yn Hope House a Thy Gobaith. Gwelais drosof fy hun y gofal arbennig a gaiff pob plentyn a pha mor hanfodol yw'r gwasanaethau a gynigiwn fel elusen i'r plant a'u teuluoedd.

Anghenion y plentyn a'u teulu yw ein blaenoriaeth, boed hynny'n golygu darparu ar gyfer amgylchiadau teuluol unigryw neu ddarparu gofalwr/wraig sy'n siarad Cymraeg. Rhown bwyslais ar wneud y gorau o fywydau byr a gwerthfawr.

Mae fy swydd newydd yn rhoi cyfle i mi ehangu fy ngorwelion ac ymwneud gyda phob agwedd o godi arian, megis gweithio â chwmnïau a helpu i drefnu gweithgareddau mawr fel ein Dawns Fawr Deng-mlwyddiant yng Ngwesty'r Grosvenor yng Nghaer.

Caf bleser mawr yn fy swydd, rwy'n teimlo ei bod hi yn fraint cael gweithio i elusen fel Hospisis Plant Ty Gobaith.

Mae digon o sialensiau a phrofiad newydd i'w cael - yn sicr mae pob diwrnod yn wahanol!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý