Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Clawdd
Golygfa o Vietnam Elen Moore yn Vietnam
Wedi cychwyn fy negfed wythnos yma yn Hanoi, prifddinas Vietnam, mae'n anhygoel edrych yn ôl ar yr holl bethau yr wyf wedi eu gweld, clywed, teimlo a phrofi o fewn cyfnod mor fyr.

Yn ystod yr wythnosau a'r dyddiau cyn imi ddod, nid oeddwn yn credu beth oedd ar fin digwydd; yr oedd yn teimlo yn hollol fel breuddwyd! Pan wnes i gyfarfod Sarah fy mhartner dysgu yma (o Stratford Upon-Avon), Orna (o Iwerddon) a Jen (o Baris) darganfyddais eu bod yn teimlo yn union fel yr oeddwn i.

Ond pan wnaethom ddod oddi ar yr awyren, allan trwy'r wal o wres i sefyll ar strydoedd gwallgof Vietnam fe wnaeth ein taro am y tro gyntaf lle yr oeddwn i.

Cawsom ein cyfarfod yn y maes awyr gan eneth o'r enw 'Blue' a oedd yn astudio yn un o'r prifysgolion yn Hanoi. Yna, fe aethom i le o'r enw Bach Khoa sydd ar gyrion y ddinas i aros am ychydig o ddyddiau cyn symud i fewn i'n cartrefi newydd.

Arferion bwyta

Yr oedd brecwast ar y bore cyntaf ychydig yn wahanol i hynny yr oedd pob un ohonom wedi arfer ei gael adref. Ar y fwydlen yr oedd porc neu gig eidion gyda noodles neu 'spring rolls' ychydig yn ormod i'r stumogau ei dderbyn am 7 o'r gloch yn y bore!!

Ar ôl hynny fe wnaeth Blue trio ein bwydo ar bob adeg posib ... dyma pryd fe wnaethom ddysgu nad oedd pobl yn Vietnam yn derbyn pan rydych yn dweud 'na' i fwyd; maent yn derbyn nad ydych eisiau bwyd wedyn ond yn dod ag o beth bynnag!!

Wrth gerdded hyd y strydoedd prysur fe wnaeth pawb droi i wylio popeth yr oeddwn yn ei wneud, yn sibrwd ac yn pwyntio atom. Er bod hyn ychydig yn ofnus i gychwyn, fe ddaeth pawb i arfer gyda'r sylw -ar ôl ychydig o ddyddiau yma.

Nid ydynt yn syllu yn gas; maent yn hynod o groesawgar ac fel arfer eisiau cyfle yn unig i ddweud 'hello, how are you?!' ac ymarfer eu sgiliau Saesneg.

Chwarae charades

Ar ôl tua tri diwrnod o ddechrau dod i arfer gyda bywyd yn Hanoi fe aethom i weld ysgol Marie Curie, lle yr ydym yn dysgu, am y tro cyntaf ac i gyfarfod gyda'r Prifathro. Nid oeddwn yn gwybod hyd yn hyn fy mod am fyw o fewn yr ysgol, a all fod yn swnllyd iawn am 7 yn y bore gyda phlant ym mhobman a swn y gloch bob hanner awr!!

Dim ond un o'r bobl sy'n gweithio yn yr ysgol sydd yn siarad Saesneg sydd yn gallu bod yn anodd ar adegau ond yn bendant wedi gwella ein sgiliau 'charades'!! Fe wnaethon ni gychwyn dysgu ar y dydd Llun ar ôl cyrraedd, y diwrnod ar ôl symud i fewn i'r ysgol a oedd ychydig yn ofnus gan nad oeddwn yn siwr iawn o beth oedd am ddigwydd. Y mae'r ysgol lle yr ydym yn dysgu tua 7km oddi wrth ein cartref a all fod yn siwrne wallgof ar adegau!!!

Teimlaf fel pysgodyn bychan ar gefn fy meic ymysg yr holl bysgod eraill, yn ofni'r ceir a'r bysiau sydd yn teimlo fel morfilod enfawr wrth iddynt yrru heiblo! Ar ôl cyrraedd yr ysgol rhaid reidio ein beiciau trwy'r holl blant yn chwarae yn gweiddi gyda gwên enfawr yn gorchuddio eu wynebau, 'Hello Miss Elen! Hello Miss Sarah!!'

Profiadau yn y dosbarth

Er ei fod yn deimlad od fod ar ochr arall y sefyllfa fel athrawes, a minnau newydd adael ysgol fy hun, mae'n rhaid dod i arfer gyda'r sefyllfa yn sydyn iawn. Rydym yn dysgu plant o 12 i 14 mlwydd oed yn yr ysgol, ac er bod rhai yn gallu bod yn swnllyd a direidus ar adegau y mae'r mwyafrif yn hynod o annwyl.

Y mae'n anodd ar adegau dysgu dosbarth o 30 o blant, y gorau ohonynt efo Saesneg bendigedig ac eraill yn methu siarad gair, ond rydym yn dod i arfer gyda'r sefyllfa erbyn hyn.

Y mae ymwybyddiaeth pob un ohonynt o enwau llefydd ym Mhrydain yn dda iawn. Ond nid tan iddynt enwi 'Sheffield Wednesday' a 'Manchester United' fel enwau llefydd wnes i ddod i ddeall mai cariad at bêl droed ac nid daearyddiaeth oedd y rheswm dros hyn!!

Yr oedd yn bleser gweld bob pob un ohonynt yn gwybod lle a beth oedd Cymru ac mai Caerdydd oedd y brifddinas.

Yn anffodus nid oedd pawb wedi clywed am Wrecsam, ond erbyn hyn mae pob un ohonynt yn gwybod amdani, wedi gweld nifer o luniau ac hyd yn oed gallu dweud rhywbeth yn debyg i frawddeg yn y Gymraeg!!

Dianc o'r ddinas

Ar ein penwythnosau rydym yn aml yn cymeryd mantais o'r cyfle i ddianc o'r ddinas fawr i weld llefydd eraill o amgylch Gogledd Vietnam. Yn gyntaf fe aethon ni i Sapa, sydd yn ardal yn y Gogledd sydd yn ffinio â Tsiena.

Gan fod Sapa gymaint i'r gogledd yr oedd y tywydd yn hynod o oer pan aethon yno i aros, ac roedd ein hotel yn debycach i orsaf sgïo yn yr Alps na rhywle y buasech yn disgwyl ei weld yn Asia!!

Ar ein diwrnod cyntaf yno cawson ni ein cymeryd mewn Jeep at waelod mynydd er mwyn mynd ar 'trek' i weld y golygfeydd bendigedig. Cyn gynted ag y gwnaethon ni ddod allan o'r car cawsom ein amgylchynu gan bobl o'r 'Red Zao Tribe.'

Roeddent yn gwisgo gwisgoedd coch llachar traddodiadol gyda gemau arian ym mhobman ar eu cyrff a rhai efo symbolau paent ar eu wynebau wedi eu creu gan baent brown. Yr oedd pob un ohonynt yn dweud 'helo' ac yn gofyn cwestiynau inni am ein cefndir a theulu yn syth.

Cefais fraw i weld gymaint o Saesneg y gall pob un ohonynt siarad gan eu bod yn byw bywyd mor draddodiadol yn y mynyddoedd heb eu cyffwrdd gan MTV neu McDonalds.

Fe wnaeth pob un ohonynt gerdded gyda ni i fyny'r mynydd, o blant tua 6 mlwydd oed i ferched tua 60oed!

Mwy am y siwrne y tro nesa' ...

Elen Moore


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý