Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Clawdd
Adfeilion yr hen waith dur Lle gwyrdd lle bu llygredd
Mae gobeithion bron a'u gwireddu i adfywio hen safle gwaith dur Brymbo a chreu gwaith i oddeutu 1,000 o bobl.

Sonnir am £8 miliwn o arian cyhoeddus mewn lle yn barod i'r fenter i adennill y fro ddirwasgedig i greu nifer o ffatrïoedd a 300 o dai newydd. Bwriedir creu ffordd gefn i'r safle 240 acer i gysylltu Tanyfron â Brymbo ac i'r A483 a phriffordd osgoi tref Wrecsam.

Mae Paul Roberts (Prif swyddog datblygu economaidd cyngor Bwrdeistref Wrecsam) yn cyfaddef nad oes llawer i'w weld yn cymryd lle yn y fro ar hyn o bryd. Mae'r holl gynllunio a threfnu yn bwrw ymlaen yn y cefndir.

Cofio'r colli swyddi

Trist yw cofio am y golled o 2500 o swyddi a gollwyd ers cyfnod anferth Gwaith Dur Brymbo a chollwyd y gweddill o'r gweithlu o 1,200 yn nechrau'r 90au pan ddymchwelwyd y melinau dur a'i allforio i China lle y bu'r cyn-weithwyr yn cael eu cyflogi i ail adeiladu eu gweithdai a'u gwneud eu hunain yn ddi-waith yr un pryd!

Mae'r WDA wedi clustnodi y rhan helaeth o'r £8m i ail-hawlio'r tir diffaith a llogi peiriannau enfawr i symud tir ac i sicrhau nad oes llygredd ar ôl.

Edrych ymlaen

Edrychwn ymlaen yn eiddgar i'r fenter enfawr uchelgeisiol hon i wella ein hardal a chreu nid yn unig fwy o waith a thai ond i wella ein hamgylchedd gwerthfawr.

Mae rhan o'r fro sef dyffryn "Y Moss" oedd unwaith yn hagr a diffaith yn awr yn ddyffryn hardd a thirlun deniadol a chwrs golff a llwybrau cyhoeddus.

Dymunwn y gorau am y dyfodol i'r fro sydd yn haeddu gwelliannau ar ôl aros cyhyd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý