Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Clawdd
Heddlu ar geffylau A allwn eu fforddio?
Mawrth 2008
Ydych chi wedi gweld y marchogion newydd sydd o gwmpas y dref eto? Mae'r plismyn yn eu lifrai melyn yn smart iawn ac mae'r ceffylau eu hunain yn werth eu gweld.
Fe'u gwelwyd yn marchogaeth ar hyd y ffordd ger Ysgol Fictoria ychydig o wythnosau'n ôl a roeddent yn destun edmygedd y cyhoedd, mae'n wir. Ond a oeddent yn cyflawni unrhyw bwrpas sy'n gwestiwn arall. Gallem feddwl mai'r unig adeg y bydd eu hangen mewn gwirionedd fydd yn ystod gemau pêl-droed ar y Cae Ras a phur anaml y bydd hynny'n digwydd oherwydd cyn lleied sy'n mynd i gefnogi'r Dreigiau y dyddiau rhain.

Rhaid gofyn y cwestiwn felly, a ellir cyfiawnhau'r gost o £200,000 i sefydlu'r gwasanaeth ac yna £100,000 i'w redeg yn flynyddol? Go brin, gellid meddwl, a hynny yn wyneb y ffaith fod Pwyllgor Heddlu'r Gogledd wedi gofyn am godiad 0 5% yn yr arian a gant o'r trethi cyffredinol i redeg y gwasanaeth plismona yn y' gogledd yma.

Hefyd mae'n debyg y bydd y Pwyllgor yma yn gofyn am £100 mil yn ychwaneg eleni dim ond i gwrdd â'r gost o geisio integreiddio'r pymtheg mil o fewnfudwyr estron sy wedi ffeindio'u ffordd i Wrecsam yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Cofiwch chi, mae'n braf gweld plismyn iawn o gwmpas y lle, er bod y rheini ar gefn ceffyl. Gallem feddwl fod y mwyafrif ohonynt yn gaeth i'w desgiau y dyddiau hyn, yn ceisio cael gwared o'r mynydd o bapur sy'n eu llethu bron, llawer ohono'n ymwneud a mân droseddau y mae'n rhaid i'r plismyn eu cofnodi er mwyn cwrdd â thargedau penodedig.

Mae'r stablau ym Mlasdy Erddig ac fe ddadorchuddiwyd plac yno yn ddiweddar gan Richard Brunstrom ar yr achlysur gan Ledi Gladstone, Cadeirydd Clwyd Riding Centre. Cynhaliwyd cystadleuaeth i blant ysgol yr ardal roi enwau ar y pedwar ceffyl-heddlu. Yr enwau buddugol oedd:

Alfie/Taliesyn; Storn/Pwyll; Cocoa/Pryderi a Dusty/Rhiannon.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý