Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Clawdd
Rhai o'r tîm 'Clawdd' newydd
Mawrth 2009
Wrth gyflwyno'r Clawdd newydd, rhaid yn gyntaf ddiolch a thalu teyrnged i'r tîm sydd wedi bod wrthi am un mlynedd ar hugain, ers 1988 pan sefydlwyd Y Clawdd, am eu gwaith caled dros yr holl flynyddoedd.

Mae'r oriau y mae'r tîm hwn wedi eu treulio yn ysgrifennu a gosod, ymhell dros gan cyfrol o'r papur, gyda siswrn a glud, yn ddi-rif.

Mae'r tîm yn parhau i gydweithio gyda'r golygyddion newydd, a hoffen ni ddiolch iddyn nhw am eu cydweithrediad a'u cyngor gwerthfawr dros y cyfnod trawsnewidiol hwn wrth symud i system electronig o osod y papur.

Mae nifer o bobl wedi cyfrannu'n helaeth at y papur dros y blynyddoedd, gormod i enwi pawb, ond diolch yn fawr i chi i gyd!

Mae hi wedi cymryd chwe mis o waith caled, o oresgyn problemau technegol, a chydweithio trefnus rhwng nifer o bobl, ond heddiw rydym yn falch iawn o allu cyflwyno Y Clawdd ar ei newydd wedd!

Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau'r ffurf newydd fodern sydd, rydym yn gobeithio, yn mynd i apelio at ein darllenwyr ffyddlon, a hefyd denu tanysgrifwyr newydd, yn enwedig ymysg Cymry Cymraeg iau ein hardal.

Os hoffech gyfrannu mewn unrhyw ffordd, neu gynnig syniadau neu sylwadau, byddwn yn falch iawn glywed gennych chi, a chysylltwch ag un o'r golygyddion ar bob cyfrif.

Rydym yn bwriadu sefydlu gwefan yn y dyfodol agos, fel bod y papur yn gweithredu fel dolen gyswllt rhwng Cymry'r ardal, rhywbeth sydd mor bwysig er mwyn cadw'r iaith yn fyw yn ein cymunedau.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý