Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Clawdd
Y rhaeadr gen Y Bers Enwau'r Ardal:
Yn ddiweddar gwelais gyfeiriad at lecyn o'r enw Gegin rhwng Coedpoeth a Bwlchgwyn a bod yna haenen o lo'n codi'n raddol o gyfeiriad Coedpoeth rhwng uchder o 750 - 800 troedfedd tuag at Gegin.

Mae yna dÅ· o'r enw hwn wrth y groesffordd ar heol Pen Palmant - Brymbo lle mae'n croesi'r ffordd i Fwlchgwyn (y Miners Arms, gynt) ond gallwn feddwl ei fod yn dynodi ardal fach gynt gan fod y mapiau cynnar yn nodi llecyn o'r enw cegin - ddu, dros y ffordd i ffermdy'r Hen Gegin heddiw (yn uwch i fyny na Phen Palmant.)

Nid yw'r elfen cegin yn digwydd yn aml, ond ceir rhai enghreifftiau yma ac acw. Yr ystyr gyffredin i 'cegin', wrth gwrs, yw ystafell ar gyfer darparu bwyd mewn tŷ' ond mae'n bosib fod ystyr arall yma. Mae yna air arall 'cegin', amrywiad ar cain, 'ceing', cefnen neu drum' sy'n digwydd mor gynnar â 'r G12fed.

Yn ôl Geiriadur y Brifysgol dyma a geir, o bosib, yn yr enwau Carnau Cegin a Cerrig Cegin rhwng Llandeilo a Llangadog yn Sir Gâr. Buasai'r ystyr cefnen neu drum' yn gweddu'n iawn yn yr enw dan sylw.

Tarddiad posib

Ceir hefyd afon o'r enw Cegin yn codi yn Ffynnon Cegin Arthur i'r de-orllewin o Ddinas Dinorwig ym mhlwyf Llanddeiniolen ac yn rhedeg heibio i Bentir, Glasinfryn, a Bangor i Fenai yn Abercegin, yn awr Porth Penrhyn.

Honna R. J.Thomas mai'r gair cyffredin 'cegin' sydd yma a bod yr enw wedi deillio oddi wrth y ffynnon y tardda'r nant ohoni, sef Ffynnon Gegin Arthur.

Ond mae'n ddigon posibl fod enw'r nant yn bodoli cyn iddo gael ei gysylltu â'r chwedl am Arthur a'i fod yn dynodi nant yn llifo i lawr o'r grib. Mae Iwan Arfon Jones yn ei lyfr Enwau Eryri yn awgrymu y gallai ystyr cegin fod yn "ffrwd swnllyd, fyrlymus,' yn ystafell goginio,' yn drum cefnen' neu hefyd yn goeden gegin dderw' (stunted oak, lesser germander.')

Anodd torri'r ddadl rhyngddynt.

Mae R. J. Thomas yn cyfeirio at ffurf fachigol bosibl yn yr enw Hendre Geginan yn Nanheudwy (Dyffryn Llangollen) a cheir Ceginan yn enw nant fechan sy'n rhedeg i Gerdin ger Llandysul, Ceredigion. Mae'n bosib hefyd mai'r gair 'cegin' a geir yn Goginan ger Capel Bangor gan fod Keginon yn digwydd ymhlith y ffurfiau cynnar.

Problemau gydag enwau

Ystrydeb yw dweud fod enwau lleoedd yn gallu peri trafferth yn aml a chafwyd enghraifft o hyn yn y Daily Post yn ddiweddar mewn llythyr oddi wrth un C. Owen o Riwabon.

Cwyno roedd e am yr arwydd 'Croeso i'r Werddon' (sef canolfan siopau newydd Wrecsam) ac yn ei gymryd fel 'welcome to Ireland'.

Rhaid cyfaddef mai digon hawdd yw cymysgu 'gwerddon', y werddon 'lle gwyrdd, ffrwythlon' ag enw'r ynys Iwerddon ond nid oes cysylltiad rhyngddynt ag eithrio o ran ystyr. Mae yna wahaniaeth rhwng Croeso i'r werddon' a Croeso i Iwerddon,' y ddau'n gwbl gywir a gobeithio na lwyddodd y llythyrwr i gael yr arwydd wedi'i ddileu!

Yn y gorffennol, rydym wedi llongyfarch Cyngor Wrecsam ar eu polisi goleuedig ynglyn ag enwau lleoedd yr ardal, gan roi'r ffurfiau Cymraeg sy'n cyfateb i'r rhai Saesneg, yn arbennig gydag enwau'r strydoedd a'r lonydd.

Ond pam yn y byd na roisant yr enw Cymraeg ar Newbridge, sef Cefn Bychan (ar yr hen ffordd allan am Y Waun)? Rwy'n ddiolchgar i Dewi Rowlands (Llangollen) am nodi'r posibilrwydd imi fod yr OSM wedi cymysgu pethau drwy roi Cefn Bychan yn enw Cymraeg ar Newbridge yn y De. Sgwn i?


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý