Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Clawdd
Y parc diwydiannol lle y bwriedir i'r llosgydd gael ei adeiladu Pwnc llosg
Go brin fod yna neb yn Wrecsam nad ydyn nhw wedi clywed am y llosgydd y caiff o bosibl ei adeiladu o fewn y Sir yn y dyfodol.

Ers bron i ddwy flynedd erbyn hyn mae yna sôn a dadlau a thipyn o rincian dannedd wedi bod ynglyn â'r mater:llythyrau ac erthyglau lu yn y Wasg, nifer o gyfarfodydd ac yn ddiweddar deiseb a gyflwynwyd i'r Cyngor ac i'r Cynulliad ar ran y TCC yn cynnwys 13,000 o enwau'n gwrthwynebu'r cynllun.

Agwedd anghwrtais y Cyngor

Mae protest a mynegi gwrthwynebiad fel hyn yn ddigon derbyniol ac yn rhan o'r broses ddemocrataidd ac mae'n amlwg fod yna wrthwynebiad cryf i gynlluniau'r Cyngor. Ond ar yr un pryd rhaid dweud fod agwedd y Cyngor tuag at yr ymgyrch a'r ddeiseb wedi bod braidd yn anghwrtais gan nad oedd neb o'r Cyngor ar gael ar y diwrnod i dderbyn y ddeiseb yn swyddogol.

Beth bynnag am hynny, mae'r broblem o gael gwared ar sbwriel neu wastraff yn un sy'n mynd i'n poeni am flynyddoedd lawer. Yn syml oherwydd ein bod yn cynhyrchu mwy a mwy ohono (cynnydd o 6% bob blwyddyn) a bod safleoedd tir lenwi'n mynd yn brinnach.

Yn y dyfodol agos bydd rhaid i'r Cynulliad a'r Cynghorau ddatblygu strategaeth gyfansawdd a chynhwysfawr i gael gwared ar sbwriel masnachol a domestig. Rhan hanfodol o unrhyw gynllun fydd ailgylchu, ond yn sicr ni ellir ailgylchu popeth a bydd rhaid edrych yn fanwl ar ddulliau eraill o waredu gwastraff yn cynnwys llosgyddion.

Claddu gwastraff mewn tyllau

Ar hyn o bryd, dim ond 5% o 1 miliwn o dunelli o wastraff domestig dros Gymru gyfan a ail gylchir; cleddir y gweddill mewn tyllau yn y ddaear ar draws gwlad.

Sut bynnag y bydd y broblem yn cael ei datrys, mae'n amlwg bod yn rhaid rhoi'r gorau i'r arfer o gladdu gwastraff yn y ddaear, fel y mae safle Nant y Gwyddon yn y De wedi profi.

Mae tyllau tir-lenwi o'r fath yn sicr wedi cyfrannu at y llygredd hylif-cemegol sydd wedi llifo i mewn i'n hafonydd ac wedi peri gostyngiad dybryd yn y pysgod yn eu dyfroedd.

Hefyd fe ollyngir deiocsins gwenwynig i'r awyr wrth losgi'r nwy methan a ddaw o grombil y domen, cynddrwg ag unrhyw beth a all yrrir yn ystod y broses losgi.

Rhaid cydnabod nad yw'r un dull o waredu gwastraff yn gwbl ddiogel rhag llygredd o ryw fath; yr hyn sydd eisiau ei sicrhau yw'r dull mwyaf effeithiol a'r un a bair y lleiaf o ddrwg i'r amgylchfyd.

Ymweld â Sweden

Yn ddiweddar, ymwelodd Sue Essex, Gweinidog yr Amgylchfyd yn y Cynulliad, â Sweden i weld sut maen nhw'n taclo'r broblem yno drwy ailgylchu a llosgi.

Yr hyn a'i trawodd yn fwy na dim oedd y diffyg consrn ymhlith y bobl am unrhyw nwyon gwenwynig yn dianc i'r awyr, a hynny oherwydd y rheolau llym ynglyn ag echdynnu'r elfennau drwg cyn caniatáu i unrhyw beth fynd allan i'r awyr.

Yn sicr, mae'r ffordd rydym yn trin ein gwastraff yn mynd i newid i'r dyfodol a bydd rhaid i ni'r cyhoedd wneud ein rhan drwy wahanu'n sbwriel mewn bagiau neu finiau gwahanol fel y gellir ailgylchu'r rhan helaeth ohono.

Bydd unrhyw gynlluniau'n sicr o ddilyn cyfarwyddiadau bras a geir gan y Cynulliad sy'n blaenoriaethu'r dulliau fel hyn:
creu llai o wastraff yn gyffredinol
adfer ac ail-gylchu
compostio i greu defnydd ar gyfer gerddi a thirlunio
llosgi ac adfer ynni o wastraff
llosgi cyfan (mass burning)
neu dirlenwi dim ond pan nad yw'n bosibl gwaredu drwy un o'r dulliau eraill.

Cyfuniad o sawl dull

Gallwn feddwl mai'r ateb fydd cyfuniad a sawl dull er mwyn sicrhau ffordd effeithiol a glân o gael gwared ar wastraff. Drwy wneud hyn, a thrwy adfer, ailgylchu a chompostio fe ellir sicrhau bod tua hanner ein gwastraff yn cael ei ail-ddefnyddio'n bwrpasol.

Yng Nghyngor Wrecsam, mae cais cynllunio HLC am Ganolfan Ailgylchu Adnoddau (sy'n cynnwys ailgylchu, compostio a llosgi i greu ynni) wedi bod gyda hwy ers yr Haf diwethaf.

Roeddent wedi gobeithio ei drafod yn llawn erbyn mis Chwefror ond oherwydd i'r ymateb fod mor gryf fe fydd angen mwy o ymgynghori er mwyn sicrhau atebion cyflawn.

Y cwmni'n cyflwyo eu cais

Yn y cyfamser, mae'r cwmni wedi cyflwyno eu cais IPPC (Integrated Pollution Prevention Control) i Asiantaeth yr Amgylchfyd sy'n cynnwys Asesiad o Effaith Amgylcheddol, ac Asesiad o Effaith ar Iechyd, a bydd rhaid i'r Asiantaeth drefnu cyfleoedd i'r Cyhoedd i drafod ac ymgynghori.

Bydd manylion ynglyn â'r broses ymgynghori i'w cael yn fuan oddi wrth yr Asiantaeth. Disgwylir iddyn nhw benderfynu ar y cais o fewn pedwar mis a basai'n sicr o fantais i'r Cyngor lleol gael gwybod beth yw'r penderfyniad hwnnw, pa un a yw'r Asiantaeth yn barod i ganiatáu permit neu beidio, cyn bod y Cyngor ei hun yn gwneud penderfyniad terfynol ynglyn â'r cais cynllunio sydd o'u blaen.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý