Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Clawdd
Alun Davies Pobol Yr Ardal
Mehefin 2005
Portread o Alun Davies
Ym Mwlchgwyn y ganwyd Alun dros 80 mlynedd yn ôl - mab i ferch Plas 'Fronheulog' a'i dad yn fab y bwthyn. Brawd yr enwog 'TegIa'.

Wedi addysg yn ysgol Bwlchgwyn a Grove Park Wrecsam rhoddodd ei fryd ar yrfa fel plismon - ond gan nad oedd yn ddigon hen eisteddodd a phasiodd arholiad i'r gwasanaeth sifil, a chychwyn gyrfa yn Llundain yn yr adran Drafnidiaeth. Ychydig cyn y rhyfel gIaniodd cynlluniau'r M6 ar ei ddesg!

Pan oedd cymylau rhyfel yn casgIu daeth ei waith i ben ac anfonwyd pob un a ddymunai ymuno â'r llynges a'r Morlys (Admiralty). Bu'n gweithio ar brosectiau cyfrinachol eithriadol yno a bu'n rhan o dîm bach oedd yn gyfrifol a chysylltu efo Churchill pan aeth i gyfarfod Roosevelt.

Wedi'r rhyfel dychwelodd i'r Weinyddiaeth Drafnidiaeth a gweithio yn adran llongau tramor am gyfnod cyn ei ddyrchafu'n uwch Swyddog yn y Weinyddiaeth Fwyd (Ministry of Food) yng Nghaerdydd a Sir Benfro ac yn ddiweddarach yn Wrecsam.

Cafodd ei drosgIwyddo i'r Weinyddiaeth Lafur fel dirprwy oruchwyliwr rhanbarthol ac am y 25 mlynedd dilynol bu'n gweithredu fel Archwiliwr Cyflogau GogIedd a Chanoldir Cymru cyn ymuno ag A.C.A.S. fel Swyddog Cymrodeddu. Ymddeolodd yn 1980.

Pan yn Llundain priododd â Val yn 1945 a oedd hefyd yn gweithio'n y 'Morlys' a chanddi gysylltiadau â Llanelli. Fe'i bendithwyd â dwy ferch Luned (Dr Ainslee), sydd yn bennaeth Adran Gymraeg Ysgol Rhosnesni ac Eleri sydd mewn swydd yn Ysbyty Maelor ac un ŵyr.

Addysgwyd y ddwy drwy gyfrwng y Gymraeg yma a bu ef a'i wraig yn frwdfrydig dros addysg Gymraeg yn y fro yma dros gyfnod maith.

Y mae'n hynod ddiolchgar a dyledus i Val am ofalu bod y plant yn mynychu'r Ysgol Gymraeg yn enwedig tra'r oedd ef oddi cartref.

Wesle selog yw AIun - Bethesda Bwlchwyn, Chilten St. Llundain a chapel Penybryn, MwyngIawdd ac ers 30 mlynedd yng Nghapel Jeriwsalem Wrecsam - blaenor yn y ddau olaf dros 40 mlynedd i gyd. Fel y gŵyr aelodau a Swyddogion Capel Jeriwsalem mae'n hynod weithgar yno a hefyd ym mywyd Cymraeg y fro.

Ef oedd Capten Tîm Talwrn y Beirdd Bro Maelor am flynyddoedd a chyhoeddodd lyfryn "Talwrn Maelor" i godi arian at Eisteddfod yr Urdd yn 1996. Mae'r awen farddonol yn amlwg iawn yn ei gymeriad ynghyd â'i hiwmor chwaethus. Mae stôr o straeon digrif ganddo at bob achlysur. Mae'n cyfranu'n gyson i Barddas a Llafar Gwlad ac yn chwarae rhan bwysig gyda thîm Golygyddol ein papur bro Y Clawdd o'r cychwyn.

Wedi gyrfa hynod ddifyr a chofion arbennig am ei gampweithiau pan yn iau ar y meysydd golff a rygbi, pêl-droed a hoci (yr agosaf a fu i wireddu ei freuddwyd o fod yn blismon oedd chware rygbi yn erbyn 'Scotland Yard',) mae'n diddori ei hun drwy sgrifennu a dilyn ei hobi fel ffotograffydd amryddawn.

Llywyddodd y Babell Lên ar un achlysur yn Wrecsam yn 1977 yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac mae'n gyn-Iywydd Meibion Maelor a'r Cyngor EgIwysi Cymraeg Rhyddion ac yn aelod o nifer o bwyllgorau diwylliannol yn y fro. Yn y 1950au bu'n gadeirydd Cyngor Plwy MwyngIawdd.

Tra'n cael manylion gan AIun i'r erthygI hon, dyma fo'n sôn yn gellweirus "Gobeithio na fydd yn swnio fel teyrnged goffa i mi" - Rwyf yn falch o gadarnhau fod AIun yn fyw ac hynod iach fel y gwelir yn y llun ohono - ond anfonwn ein dymuniadau gorau i Val, ei wraig, sydd mewn iechyd bregus ar hyn o bryd yn Ysbyty Maelor.

Darlledwyd pennill o'i waith ar y Ö÷²¥´óÐã. yn ddiweddar sy'n enghraifft o'i ddawn ysgafnach. Y testun a osodwyd gan Huw Llywelyn Davies oedd "Plastic Surgery".

Hen ferch oedd Jane yn mynd yn hen
A'i hwyneb oedd yn sagio;
Cymerwyd croen o'i bola bras
ac ar ei gwep ei impio.

Ac ar nos Sadwrn wrth y bar
yn Nhafarn TÅ·'n Y Capel
Mae'n gwneud ei gore i fachu
drwy wincio efo'i bogel.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý