Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
Taliesin Cymuned ynni cynaliadwy?
Chwefror 2007
"Ydych chi eisiau Taliesin a Thre'r Ddôl i fod yn gymunedau ynni cynaliadwy?"
A beth am Dal-y-bont clywir rhai ohonoch yn datgan.

Dyma thema cyfarfod a gynhaliwyd at 22 Ionawr yn y Llanfach Taliesin. Trafodwyd ffyrdd y gallai Taliesin a Tre'r Ddôl ymateb yn lleol i'r her fyd-eang yn y newid hinsawdd sydd ar droed a'r prinder posib a ddaw yn sgil tanwydd ffosil.

Roedd tua 25 o bobl yn y cyfarfod a gafodd ei gadeirio ar y cyd rhwng Polly Henderson ac Andy Rowland o Ecodyfi. Fe gyflwynodd Andy arolwg o'r problemau ynni sydd yn ein hwynebu ni a'r strategaethau gwahanol a allai ein helpu. Er enghraifft esboniodd am ffyrdd i ni leihau'r defnydd o ynni yn ein tai, yn ogystal â chynlluniau ynni adnewyddol mwy o faint a fyddai'n addas i bentrefi a chymunedau bychain.

Fe esboniodd Bev Thorndyke, Ecodyfi, y syniad `ôl-troed-eco', yw ein ffordd i ni fesur faint o dir sydd angen arnon ni i fyw yn gynaliadwy. Er enghraifft, petai pawb yn y byd yn defnyddio a gwastraffu cymaint â ni yng Nghymru, mi fasai angen 2.5 planed er mwyn cynnal ein dull ni o fyw. Fe gynigiodd Bev arwain gweithdy petai pobl â diddordeb ar y pwnc yma.

Y prif siaradwr arall oedd Duncan Kerridge, sy'n byw yn Eglwys Fach. Mae e'n ymddiriedolwr Cymuned Adnewyddadwy Bro Ddyfi. Sefydliad cymunedol yw hwn sydd wedi llwyddo gosod dau dwrbein gwynt cymunedol ym Mro Ddyfi. Esboniodd sut mae'r broses wedi gweithio yno a hefyd fe gyflwynodd rhai technegau eraill megis boeler pelets coed.

Trafodwyd wedyn y manteision a'r anfanteision i'r strategaethau gwahanol yma a pha un, os o gwbl, hoffai pobl weld yn cael eu datblygu o fewn eu cymuned nhw. Calonogwyd Polly Henderson, y trefnydd, o glywed cyfraniadau deallus ac i sylweddoli bod cymaint o wybodaeth arbenigol yn y pentref yn barod. Penderfynwyd cynnal cyfarfod arall yn fuan er mwyn dechrau dod â chynllun ynghyd o'r holl syniadau a godwyd.

Am fwy o wybodaeth neu i ymuno â rhestr post y grŵp, byddai croeso i unrhyw un gysylltu â Polly Henderson ar 832369.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý