Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
Cwn Defaid Treialon Cwn Defaid
Medi 2006
Cynhaliwyd ein treialon eleni ar gaeau Cynnull Mawr, drwy ganiatâd caredig Hywel a Luned Williams, ddydd Mercher Awst 2il.
Roedd yn ddiwrnod braidd yn oer a gwyntog ond yn ddigon addas i dreialon - yn llawr gwell, yn wir, na thywydd crasboeth Gorffennaf.

Cafwyd y rhediad cyntaf ychydig wedi 7.30 y bore a'r olaf ychydig cyn saith o'r gloch yr hwyr. Doedd y defaid ddim yn rhy anodd i'w trafod ond roedd yn anodd cael ambell gi i groesi'r clawdd i'r cae pellaf a'r defaid yn tueddu i gymryd llwybr am y bwlch rhwng y ddau gae.

Ar ddiwedd y dydd diolchodd y cadeirydd, Enoc Jenkins, i Hywel a Luned am fenthyg y caeau a'r defaid i'r treialon ac i'r beirniad, Mr. Irwel Evans, Pentre Gwnnws, Tyngraig, Ystrad Meurig. Yna wedi diolch i'r llywyddion, Mr a Mrs John Hughes, Pencwm, gwahoddodd hwy i rannu'r gwobrau.

Enillwyd y cawg rhosynnau, er cof am Richard Edwards, Lletyllwyd, am rediad gorau'r dydd gan Eirian Morgan a'i gi Fred. Ef hefyd enillodd y dosbarth dull cenedlaethol. Fel y llynedd, Islwyn Jones a'i ast, Gael, enillodd y wobr er cof am Mary Edwards a Jenkin Morris, am y rhediad orau cyn hanner dydd. Ef hefyd enillodd y cwpan, rhoddedig gan y diweddar Iona Rowlands er cof am ei brawd, Evan Hopkins, am y rhediad orau yn y dull De Cymru.

Enillydd y dosbarth cyfyngedig i Geredigion a'r cwpan rhoddedig gan y diweddar Ken Jones er cof am D. J. Williams Cynnull Mawr, oedd John Price a'i gi Ben. Erwyd Howells a'i gi Black enillodd y dosbarth nofis yn y dull cenedlaethol a Martha Morgan a Becs y nofis yn y dull De Cymru. Erwyd Howells hefyd enillodd y gystadleuaeth leol a gynhaliwyd ar y nos Fawrth.

Cynhaliwyd cystadlaethau cneifio yn hwyr y prynhawn gydag Emyr Davies, Llety Ifan Hen, yn beirniadu. Y canlyniadau oedd: Cneifio â gwellau: 1. Ken Evans, Coedgruffydd; 2. Dafydd Jenkins, Tanrallt; 3. Enoc Jenkins; Tyngraig. Cneifio peiriant - agored: 1, Dilwyn Evans, Tynant; 2, Enoc Jenkins; 3, Rhydian Evans, Tynant. Cneifio - aelodau C.Ff.I: 1. Rhydian Evans; 2. Elgan Evans, Tynant; Cneifio - C.Ff.I dan 21: 1. Elgan Evans; 2. Sion Evans, Neuadd Fawr.

Cafwyd diwrnod llwyddiannus unwaith eto eleni, ond gyda'r treialon cenedlaethol Cymru yn dechrau yn fore trannoeth yn ardal Y Wyddgrug, daeth llai o gystadleuwyr na'r llynedd i Dalybont.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý