Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
Gwenallt Llwyd Ifan Nabod
Mai 2009
Gwrthrych Nabod y tro hyn yw Gwenallt Llwyd Ifan, enillydd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1999 ac un o feirniaid Eisteddfeod Genedlaethol Meirion 2009.

Ar brynhawn Gwener wythnos Eisteddfod Genedlaethol Môn yn 1999 enillwyd y gadair gan fachgen ifanc sy nawr yn byw yn Nhal y Bont ac eleni yn Eisteddfod Meirion degawd yn Hwyrach fe fydd yr un person yn un o dri a fydd yn beirniadu cystadleuaeth y gadair. Dal i bendroni a meddw pwy yw e?Wel ei enw wrth gwrs yw Gwenallt Llwyd Ifan, Llys Awel acfe yw gwrthrych Nabod y tro hyn.

Wrth i ni gychwyn ein sgwrs fe es i nôl a Gwenallt i'r pnawn Gwener byth gofiadwy hwnnw a gofyn pryd gath e wybod mai fe oedd yn fuddugol?

A'r ateb er mawr syndod yw iddo bron a methu cael gwybod! Ar yr adeg hynny roedd Elis y mab yn bedair blwydd oed ac yn fachgen bach hynod o daclus.

Rhyw fore ma' lythyr yn cyrraedd y tÅ· yn Ninbych lle'r oedd y teulu'n byw ar y pryd ac ynddo dau docyn i seddau cadwedig yn y pafiliwn a'r neges fod y tocynnau yn ymwneud a gwybodaeth a ddanfonwyd mewn llythyr blaenorol.

Dim cliw da neb am y llythyr cyntaf ac wedi mawr chwilio, a cael fod Elis taclus wedi taflu'r llythyr holl bwysig i'r bin!

Beth bynnag, fe'i cafwyd yn ddiogel a Gwcnallt a'i wraig Delyth yn mynd i'r pafiliwn a chael eu tywys i'w seddau. A dyma ddod at yr ail helynt! Mewn rhyw bum munud dyma ail stiward yn dod at Gwenallt a dweud bod y ddau yn y seddau anghywir! Gorfod symud a chael fod 'na ddau arall yn barod yn y seddau penodol - rheiny'n cael eu symud a Gwenallt a Delyth yn cymryd eu lle.

Wrth gofio am y pnawn mae Gwenallt yn cydnabod ei fod yn hynod o nerfus yn barod a bod camgymeriad y seddau ddim yn help o gwbl.

Galwyd ei ffugenw - Carreg Seithllyn - gan yr archdderwydd ac ar alwad y corn gwlad dyma'r foment fawr a Gwenallt yn sefyll. Erbyn iddo gamu i'r llwyfan roedd y nerfau wedi diflannu ac fe fwynhaodd y seremoni'n fawr a chael y cyfan yn gymharol hawdd tan adeg canu Hcn Wlad Fy Nhadau ar y tcrfyn. Rocdd teimladau cryfion a'r emosiwn yn rhedeg yn rhydd ond mewn ychydig roedd e allan yn yr awyr iach yn derbyn llongyfarchion ei gyd-feirdd a'i deulu.

Mae'r gadair nawr mewn lle parchus yn Llys Awel ac mac'n gadair hardd a diddorol. Fei'i gwnaed o ddarn o un goeden dderw and mae ynddi hefyd ddarnau o goed tywyllach o Zaire yn Affrica - dau gwlwm sy' bron yn ddu ar y cefn a'r nod cyfrin ar y pen blaen.

Er ei fod yn brifardd ac yn ymddiddori'n fawr mewn llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg, gwyddonydd yw Gwenallt o ran addysg a hyfforddiant. Gadawodd yr ysgol uwchradd yn Nhrcgaron a mynd i wcithio i fferm y Weinyddiaeth yn Nhrawscoed.

Oddi yno aeth i Brifysgol Caerdydd a graddio mewn Biocemeg a bu'n dysgu gwyddoniaeth mewn sawl ysgol uwchradd tan ei benodi'n bennaeth ar ei hen ysgol yn Nhregaron.

Pryd felly aeth'e ati i ddysgu'r gynghanedd? Fe gychwynnodd Gwenallt ymddiddori yn y grefft yn 1993, dechrau dysgu ei hunan drwy ddilyn y gyfrol Anghenion y Gynghanedd a mynd wedyn i ddosbarth John Glyn Jones yn Ninbych.

Mae'n cydnabod, fel sawl un arall fod teithi'r meddwl gwyddonol, mathemategol yn medru bod yn gymorth wrth ddysgu'r gerdd dafod.

Yn 1994 bu farw ei dad-cu ac fe gyfansoddodd Gwenallt gerdd goffa iddo ac ennill ei gadair gyntaf am y gerdd yn Eisteddfod Llen Y Llannau yn Llansannan.

Mae wedi ennill amryw o gadeiriau ers hynny ac yn bendant fod cystadlu yn bwysig iddo - am ddau reswm. Mae'n berson cystadleuol and yn bwysicach mae cystadlu yn arwain at feirniadaeth sydd yn ei dro'n arwain at wella a mireinio'r grefft.

A dyma ddod at rywbeth sy'n gwreiddiol yn ei farn ef - medrwch chi fod yn gynganeddwr pen i gamp ond dyw hynny ddim yn eich gwneud yn fardd. Medr y gynghanedd fod yn feistres neu yn llaw forwyn ac mae bardd yn llawn sylweddoli mai'r ail ac nid y cyntaf sy'n ei wneud yn fardd.

Bellach mae Gwenallt wedi cyflwyno crefftau'r gerdd dafod i griw yma yn Nhal y Bont ac fe glywir tim y pentref yn aml yn ymgiprys ar raglen Talwrn y Beirdd.

Ei ddiddordcbau amser hamdden yw pysgota a saethu. Ac yntau ond yn naw rnlwydd oed dechreuodd pysgota ar y fferm adref a gwella ei sgiliau drwy fynychu dosbarthiadau castio a chlymu plu o dan arweiniad Moc Morgan.

Dyma le down ni unwaith eto at yr elfen gystadleuol. Bu'n aelod chwe gwaith o dîm pysgota Cymru ac yn bencampwr dwy waith yng nghystadleuaeth pysgota plu Prydain.

Teithiodd gyda thîm Cymru i'r Ffindir i gymryd rhan ym mhencampwriaeth y byd; yr hyn mae Gwenallt yn cofio'n arbennig yw chwarae criced yno am ddau o'r gloch y bore!

A hithau'n ganol haf yn y Ffindir roedd nos a dydd yr union yr un fath ac felly beth oedd yn fwy naturiol na gêm o griced? Erbyn hyn prif atyniad pysgota yw cyfle i chwilio am a chael tawelwch meddwl a hyn yn ei dro yn estyn cyfle i'r awen i alw heibio.

Gyda llaw, ei ffugenw yr steddfod Môn - Carreg Seithllyn - carreg enfawr gerllaw un o lynnoedd Teifi yw hon - un o hoff lecynnau pysgota Gwenallt.

Mae saethu a hela yn rhan o'i gefndir, a'i fagwraeth - traddodiad teuluol yn ymestyn nôl dros sawl cenhedlaeth.

Er iddo gydnabod ei fod yn shot eitha da ei brif bleser yw gweld yr helgi yn gweithio a bob tro y bydd yn mynd i saethu bydd yn ffyddlon. Cadi wrth ei ochr.

A nawr yn Eisteddfod Meirion mae'n croesi'r ffens fel petai a rhoi beirniadaeth yn hytrach na'i derbyn.

Fel y bydde chi'n disgwyl ni chafwyd gair ymhellach and rhaid i Gwenallt a'i gyd-feirniaid orffen eu gwaith a chyflwyno'i dyfarniad erbyn canol Mai.

Am y gweddill rhaid aros tan brynhawn Mawrth a'r seremoni cadeirio yn y Bala - a chymryd wrth gwrs y bydd na gadeirio!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý