Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
Pel droed Clwb Pêl droed Ieuenctid Tal-y-bont
Tachwedd 2007
Am y tro cyntaf ers blynyddoedd bu'r tywydd yn ffafriol ar gyfer dechrau tymor newydd y Cynghrair.

Mae gan Dal-y-bont wyth tîm yn cystadlu eleni. Mae'r tîm dan 15 oed, dan reolaeth Dick Squires, wedi setlo lawr yn ystod yr wythnosau diwethaf drwy ennill yn dda yn erbyn Padarn a Llanilar, wedi dechrau simsan pan gollwyd y tair gêm gyntaf.

Mae gan Dal-y-bont ddau dîm yn y cynghrair dan 13 oed. Maent yn chwarae pêl-droed 11 bob ochr am y tro cyntaf. Mae Tal-y-bont A wedi cael dechrau gwych drwy ennill pump o'i chwe gêm gyntaf ac mae'r tîm B, sy'n flwyddyn yn iau, wedi ennill tair, colli un a chwarae dwy gêm gyfartal hyd yn hyn. Roedd yr un golled yn y 'derby' lleol yn erbyn Tal-y-bont A!

Yn yr adrannau i dimau dan 11 oed, chwaraewyd am Gwpan RAFA at ddechrau'r tymor. Wedi dechrau da, collodd Tal-y-bont yn y rownd gynderfynol o 1-0 yn erbyn buddugwyr y gystadleuaeth Cewri Un. Cafwyd perfformiad da gan y Teirw hefyd cyn colli drwy giciau o'r smotyn. O ganlyniad i'r llwyddiant yn y gystadleuaeth hon gosodwyd Tal-y-bont yn yr Uwch-gynghrair am y bedwaredd flwyddyn yn olynol - prawf bod Tal-y-bont yn parhau i gynhyrchu pêl-droedwyr o safon. Yn y chwe gêm gyntaf enillwyd dwy a chollwyd pedair. Mae'r Teirw yn chwarae yn Adran 1 ond, ar ôl ennill yn dda yn erbyn Penrhyn-coch ar y diwrnod cyntaf, collwyd y pedair gêm ganlynol. Mae lle i wella felly.

Mae Merched Tal-y-bont yn cystadlu yn yr ail adran. Ennill tair gêm, colli dwy ac un gêm gyfartal yw'r record hyd yn hyn. Byddai'r canlyniadau yn well oni bai fod tair merch, Nia Jones, Gwenno Evans ac Ellie Margrave Jones, yn chwarae i'r tîm cyntaf yn yr Uwch-gynghrair.

Mae'r Teriyrs yn cynnwys nifer o fechgyn sy'n chwarae mewn tîm am y tro cyntaf sef: Kieren Kelly, Rhodri Hughes, Gerallt Jenkins, Sion Nelmes, Taliesin Lamott, Matthew Edwards, Josh Mayhew a Bryn Dennis. Yn anffodus gosodwyd y tîm yn yr adran anghywir ar ddechrau'r tymor a chollwyd sawl gêm o sgoriau uchel. Ers hynny maent wedi symud i adran is, gan gystadlu'n dda yn y gêm gyntaf, cyn colli o drwch blewyn, 2-3. Mae gobaith felly am ddyddiau gwell i ddod.

Llongyfarchiadau i Hefin Hopkins, Ryan Thomas a Richard Jenkins sydd wedi cynrychioli Academi Aberystwyth ac Ysgolion Ceredigion y tymor hwn. Cafodd Richard hefyd yr anrhydedd o chwarae ym mhencampwriaeth y WSFA.

Llongyfarchiadau hefyd i Carwyn Hughes a gynrychiolodd Aberystwyth ym mhencampwriaethau HSBC (Tom Yeoman) y tymor hwn. Pob lwc i'r chwaraewyr a hyfforddwyr i gyd gan obeithio y bydd y tywydd teg yn parhau.

Brian Richards


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý