Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
Car rali Huw Tre'r Ddôl a'r Rali
Rhagfyr 2006
Cyn cystadlu yn Rali Cymru 2006 ar ddechrau mis Rhagfyr, bu Huw Lewis, Tre'r Ddôl, cyd-yrrwr Gwyndaf Evans yn y gystadleuaeth, yn sgwrsio gyda gohebydd Papur Pawb am y sialens o'i flaen.
Mae'n debyg mai full speed ahead dylai'r thema fod y tro hyn oherwydd y gwrthrych yw Huw Lewis, Tre'r Ddol ac mae Huw at fin cymeryd than yn Rali Cymru. Fe fydd Huw yn gyd-yrrwr i Gwyndaf Evans o Ddolgellau ac yn ogystal â chystadlu yn Rali Cymru ma'r ddau yn gobeithio casglu mwy o bwyntiau ym mhencampwriaeth Ralïo Prydain. Ar ôl cystadlu mewn cyfres o ralïau dros y tymor mae Gwyndaf a Huw ar hyn o bryd ar y bedwaredd safle yn y bencampwriaeth gyda siawns dda o ennill.

Fe fydd Rali Cymru 2006 yn cael ei rhedeg dros 222 milltir gan gychwyn o Gaerdydd ar y cyntaf o Ragfyr ac yna dros y ddau ddiwrnod nesaf fe fydd y ceir yn gwibio dros 17 cymal yn Ne a Gorllewin Cymru, chwech cymal ar ffyrdd grafel y Comisiwn Coedwigaeth a dwy ar weundir ar fynydd Epynt, gyda phob cymal yn cael ei defnyddio ddwy waith. Ac yna ar ben hyn ar y dydd Sadwrn ceir cymal arbennig Caerdydd ar lawr Stadiwm y Mileniwm. Y cymal agosaf i'r ardal hon yw Trawscoed ar ddydd Sul y trydydd o Ragfyr - cymal olaf y rali fel mae'n digwydd.

Fel gyda pob camp rhaid paratoi ac yn ôl Huw mae na ddwy agwedd i hyn. I gychwyn rhaid ymarfer ar y cymalau- ma nhw eisoes wedi gyrru ar hyd bob cymal ddwy waith - dim mwy na 35 milltir yr awr - i gyfarwyddo a'r troeon a wyneb y ffordd. Er fod Gwyndaf a Huw yn 'chwarae adref' fel petai ac yn hen gyfarwydd â'r cymalau dyw hyn ddim yn rhoi llawer o fantais. Mae taith y rali wedi cael ei ddefnyddio o'r blaen ac felly yr un mor gyfarwydd i yrwyr o Ffrainc neu Denmarc.

Wrth ymarfer mae Huw yn gwneud nodiadau manwl - pace notes - ac yn galw y rhain allan i Gwyndaf wrth iddyn nhw gystadlu. Er fod y nodiadau'n bwysig mae Huw yn sylweddoli y gallai pethau fod wedi newid cryn dipyn pan fyddan nhw ar y cymal go iawn. Mae'r tywydd yn gallu effeithio ar wyneb y ffordd ac yn naturiol wrth i un car ar ôl y llall sgrialu at draws y grafel mae'r wyneb yn torri i fyny - a'r bois mawr yn y gêm sy'n cael y fantais o fynd gyntaf.

Yn ail, rhaid paratoi'r car. Mae'r ddau yn cystadlu mewn Mistubishi Evo - car gyriant pedair olwyn y gallech chi a fi fynd allan a phrynu, ond mae un Gwyndaf a Huw dipyn yn wahanol i'r model welech chi yn y garej. Dim ond un car arall yn y rali - Subaru - sydd â gyriant pedair olwyn ac yn ôl Huw mae hyn yn gallu bod yn fantais sylweddol - yn arbennig os fydd y tywydd yn wlyb.

Cwmni o'r Trallwng sy'n paratoi'r car gan wneud rhywfaint o newidiadau i'r corff a'r peiriant. O ganlyniad mae'r car yn- gryfach ac yn medru gwrthsefyll y gyrru caled ond mae'n debyg mai'r ychwanegiad pwysicaf yw'r gell ddiogelwch - safety cage - tu mewn i'r car. Mae hyn oll yn golygu fod y car yn werth rhwng £80,000 a £90,000. At hyn fe fydd tîm cynnal o rhyw wyth yn cynorthwyo'r ddau drwy gydol y rali - newid y teiars a trwsio fel bo'r angen. Dengys hyn oll fod cystadlu ar y lefel hyn yn fusnes drud iawn ac mae Gwyndaf a Huw yn derbyn sponsoriaeth gan gwmni Hankook - cwmni teiars o Korea. Er fod y nodded yn hanfodol mae Huw yn cyfaddef ar unwaith nad yw e'n agos at y miloedd a werir gan y timau mawr megis Ford a Citroen.

A felly, mae'r paratoi drosodd a dyna Gwyndaf a Huw ar linell gychwyn un o'r cymalau a dyna wrth gwrs y prawf go iawn. Anodd dychmygu'r profiad - ond yn eich meddwl eisteddwch am eiliad yn sedd Huw fel cyd-yrrwr. Swyddog y rali yn eich cyfri lawr 4,3,2,1 ...ac yna mewn storm o sŵn a chwmwl o grafel i fwrdd chi. Nawr, fel ymhob camp mae'n debyg, mae'r adrenalin yn llifo a does gyda chi ddim amser i feddwl am ddim ond cynorthwyo'r gyrrwr i gadw at yr hewl. Does gyda chi ddim amser i feddwl am y coed yn melltio heibio rhyw fodfeddi i ffwrdd, does gyda chi ddim amser i feddwl am y dibyn islaw a does gyda chi ddim amser i feddwl fod y car yn troi am y chwith a llwybr y ffordd yn mynd at y dde! Hyn oll ar gyflymdra o dros gan milltir yr awr! Dyw Huw ddim yn meddw hyn oll oherwydd i fod e'n gwybod fod e yn nwylo saff a medrus a rhagoriaeth Gwyndaf yn ôl Huw yw i fod e'n yrrwr llyfn - wastad yn gosod y car ar y llinell iawn ac felly yn medru cadw at gyflymdra cyson - dyma'r ffactor uwchben pob peth arall sy'n gwneud gyrrwr da. Hefyd gan fod e'n brysur yn darllen y nodiadau does gan Huw ddim amser i sylwi rhyw lawer a cyn iddo fedru tynnu anal bron mae'r cymal drosodd.

Un peth arall dyw Huw ddim ond yn cael cip arnyn nhw yw miloedd a fydd yn mynd i wylio'r rali. Huw ddim yn gweld felly ond Gwyndaf yn gorfod gweld y cyfan ac yn aml yn dweud ar derfyn y cymal, welest ti hwnna yn sefyll yn y lle twp na? Mae na ddamweiniau wedi digwydd yn y gorffennol a dyna ym marn Huw yw un o'r prif resymau - gwylwyr yn sefyll mewn llecyn sy'n i rhoi nhw a'r cystadleuwyr mewn peryg.

Mae Huw wedi bod yn ralïo ers 1978 ac felly wedi bod wrth y gêm am bron deng mlynedd at hugain. A nawr, a fe wedodd hyn mae e'n dechrau teimlo ei oed ac eto fel ymhob camp, fe all fod gan gystadleuwyr ifanc rhyw fath o edge sy ddim gan y bois hyn. Ond wedyn, ar unwaith mae'n cydnabod fod ysgol brofiad yn ysgol bwysig ac bod hen law wrth y llyw, ac wrth y map yn medru dangos ambell i dric i'r lleill.

Beth bynnag ddaw i'r ddau yng nghoedwigoedd Cymru yn 2006, mae Huw yn tybio mai dyma'r tro olaf y bydd e'n cystadlu yn Rali Cymru. Ond wedyn mae e'n ychwanegu'n syth - os wna nhw ennill ei dosbarth - ac mae gyda nhw siawns dda - fe fyddan nhw'n cael mynediad rhad ac am ddim i Rali 2007.

Ar derfyn ein sgwrs, rwy'n gofyn i Huw os oedd ofn arno fe weithiau? A'r ateb profoclyd? Ti wedi gweld lliw yng ngwallt ond wyt ti! Wel, beth bynnag ddaw, gawn ni weiddi i Gwyndaf a Huw - un o dim ond chwe tîm o Gymru - Go Gwyndaf Go! ac ar yr un llais Hwyl Huw, Hwyl!

Cafodd Gwyndaf a Huw gychwyn da iawn i'r Rali ac ar derfyn y diwrnod cyntaf roeddent yn bedwerydd yn eu dosbarth. Yna ar y cymal cyntaf ar y dydd Sadwrn yng nghoedwig Crychan, torrodd y gêr bocs ac er fod y ddau wedi llwyddo i ail ymuno â'r Rali, roedd gormod o amser wedi ei golli. Fodd bynnag, roeddent yn fuddugol yn y Mitsubishi Evo Challenge ac felly yn cael cystadlu yn Rali y flwyddyn nesaf yn rhad ac am ddim. Gwell lwc yn 2007!

GIE


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý