Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
Rhai o staff y Lolfa Penblwydd Hapus 40!
Hydref 2007
Gwasg y Lolfa, Tal-y-bont yn dathlu deugain mlynedd eleni.

Yn nechrau'r ugeinfed ganrif roedd pentref Tal-y-bont yn enwog am y gweithfeydd mwyn a'r ffatrïoedd gwlân. Dau ddiwydiant ynghyd ag amaethyddiaeth oedd yn brif gyflogwyr yr ardal. Ganrif union yn ddiweddarach "Gwasg y Lolfa" sy'n rhoi Tal-y-bont ar y map ac yn brif gyflogwr y cylch.

Robat Gruffydd yn 1967Yng nghanol y chwedegau roedd Robat Gruffudd, yn ddiwaith, wedi ennill a gwrthod ei radd mewn Athroniaeth o Brifysgol Bangor ac wedi dyweddïo ag Enid sy'n enedigol o Aberystwyth. Roedd Enid yn athraws yn Ysgol Tal-y-bont ar y pryd ac ar ôl priodi symudodd y ddau i Droed y Rhiw yng ngwaelod y pentref. Roedd Robat a'i gyfaill Penri Jones eisioes wedi cychwyn y cylchgrawn arloesol Lol yn 1965 ac yn chwilio am gyhoeddwr. Cyd-ddigwyddiad ffodus oedd bod warws fawr yr Emporium ar osod tua'r un adeg a gwelodd Robat gyfle euraidd i wireddu breuddwyd o gychwyn busnes. Profodd yr Emporium i fod yn adeilad addas ar gyfer argraffu ac yno y ganwyd y Lolfa. Y llyfr cyntaf i'w gyhoeddi oedd Hyfryd Iawn, Eirwyn Pontshan. Tyfodd y wasg yn raddol a bu'n flaengar ac yn amrywiol iawn ei deunydd. Y Lolfa fu'n gyfrifol am greu cynnwrf wrth gyhoeddi posteri gwrth arwisgo'r Prins a hefyd gyhoeddi Papur Pawb, papur bro cyntaf Cymru a rhyw naw papur bro arall erbyn hyn. Yn nechrau'r wythdegau prynwyd yr Hen Orsaf heddlu ac yno mae cartref y Lolfa o hyd ar ôl sawl estyniad. Mae tua pedwar ar bymtheg ar y staff cyfredol. Ers y cychwyn cyntaf mae nifer ohonynt yn drigolion Tal-y-bont ac yn tu hwnt o ffodus o gael gwaith ar garreg y drws. Mae'r broses argraffu wedi newid a chyflymu llawer ers y cychwyn ac mae cynllun ar droed i fuddsoddi mewn peiriant arall fydd yn cyflymu'r cyfan ymhellach. Garmon, ail fab Robat ac Enid yw'r rheolwr cyffredinol a Lefi, y mab ieuengaf yw'r golygydd cyffredinol a Robat ei hun wrth law, lan star i gadw llygad ar y ddau. Garmon sy'n delio gyda phroblemau rhedeg y busnes o ddydd i ddydd gyda Paul Williams â chyfrifoldeb am reoli'r gwaith. Braf yw deall fod mwy o werthu ar y nofel Gymraeg heddiw na degawd yn ôl. Y rheswm dros dŵf mewn poblogrwydd yw'r to o awduron ifanc dawnus, yn eu plith Caryl Lewis a Bethan Gwanas. Gwerthwyd tua 4,500 copi o Martha, Jac a Sianco o gymharu â 1,000 o gopïau ar gyfartaledd. Mae'r wasg yn falch o gyhoeddi "Llyfr y Flwyddyn" dair blynedd yn olynol a nofel Caryl yn eu plith. Mae Arwel Griffiths, brodor o Eglwysfach ac sydd bellach yn byw ym Maes y Deri wedi bod yn rhan o'r tîm ers dwy flynedd. Mae dyletswyddau Arwel yn amrywio o ddreifio'r fan o gwmpas i fod yn gyfrifol am y plat cyn mynd lawr star i'r argraffty. "Mae'n grêt cael cerdded i'r gwaitih bob bore" meddai. Ers un mlynedd ar hugain bellach mae Ceri Jones, Brynawelon wedi medru cerdded i'w waith yn y Lolfa yn yr un modd. Mae Ceri yn anad neb wedi gweld newid mawr yn ei ddyletswyddau. Yn y cychwyn roedd yn gwneud pob dim gyda llaw, a oedd yn gofyn yn y pen draw am fwy o'u grefft na defnyddio'r cyfrifiadur heddiw. Er hynny, mae Ceri yn canmol y dechnoleg newydd ac yn falch o fod yn rhan o'r newid cyffrous ddaeth yn ei sgil. Dafydd Saer. Yn enedigol o Gaerdydd, mae wedi byw yn Nhal-y-bont ers tua saith mlynedd. Dechreuodd weithio i'r Lolfa fel Golygydd ac mae bellach yn ymgymryd â gwaith dylunio a chysodi yn ôl y galw. Morgan Thomos o Bentre Bach. Swydd Morgan yw gofalu bod llyfrau'r Lolfa ar gael yn y siopau. Fe yw awdur ac arlunydd cyfres Alun yr Arth. Annwen sy'n eich cyfarch yn siriol fel Rheolwr Swyddfa, hithau'n frodor o Langadfan, yn gweithio yn y Lolfa ers tair blynedd ac yn byw yn Brynfa. Mae Lefi a'i dîm golygyddol yn brysur iawn ar y funud yn paratoi gwledd i'w darllen dros y Nadolig. Syniad Enid oedd darbwyllo y darlledwr Chris Needs i gyhoeddi ei hunangofiant a chael y gyfrol honno yn barod yw'r dasg ar hyn o bryd. Mae'n argoeli i fod yn gyfrol ddiddorol ac yn syniad gwych i'r hosan Nadolig. Mae cyfrol am Stephen Jones a Robyn McBryde o'r byd rygbi hefyd ar y gweill a chyfrol swmpus am yr arlunydd Aneirun Jones sy'n cynnwys tua 100 o luniau lliw. Tua dwy flynedd ar gyfartaledd yw'r broses o baratoi llyfr o'r fath ac yn y camau cychwynnol hynny, mae hunangofiant Trebor Edwards ar hyn o bryd. I ddathlu'r deugain bu parti yn y Clwb Rygbi yn Aberystwyth ar 22 Medi, a chafwyd eitem o'r Lolfa ar raglen Wedi 7 - efallai i chi weld rhai o drigolion Tal-y-bont yn arddangos eu doniau dawnsio i'r genedl! Bu Hywel Gwynfryn a'r criw yn darlledu o'r Lolfa a bydd rhifyn Hydref 16 o'r Sioe Gelf yn rhan o'r dathliad. Bydd rhifyn Papur Pawb Hydref 2047 yn rhoi hanes y deugain mlynedd nesaf. Pob hwyl i'r Lolfa!

  • 'Cyfraniad Oes' i Robat Gruffudd

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý