Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
Monica yn Sierra Leone Monica yn Sierra Leone
Ionawr 2007
Ym mis Tachwedd 2006, treuliodd Monica Lloyd-Williams fis yn Sierra Leone yn gweithio i'r RSPB a'u partner Cymdeithas Gwarchod Sierra Leone.
Roeddwn i yno i ymchwilio i addysg amgylcheddol yn y wlad, gan edrych ar lyfrau gosod Ysgolion Uwchradd a oedd wedi cael eu cynhyrchu a'u dosbarthu gan CSSL, gyda chefnogaeth RSPB yn y naw degau cynnar. Tua'r un amser a phan ddechreuwyd dosbarthu'r llyfrau, cychwynnodd rhyfel cartref ofnadwy a effeithiodd yn drychinebus ar y wlad. Cafodd miloedd o bobl eu lladd a'u hanafu, dinistriwyd pentrefi a bu raid i nifer o bobl ddianc am eu bywydau. Yn 2002 cyhoeddwyd bod y gwrthdaro ar ben ac ers hynny, gyda chymorth rhyngwladol, maent yn ailadeiladu cartrefi ac ysgolion.

Gweithiais yn bennaf yn y brif-ddinas, Freetown ond bum yn Kenema yn y Dwyrain am wythnos. Yma mae CSSL a RSPB yn y broses o sefydlu gwarchodfa yn fforest law Gola gan weithio gyda chymunedau lleol i ddarparu ffyrdd o gyd-fyw gyda'r goedwig. Ymwelais ag ysgolion Uwchradd ble mae'r athrawon yn hwyr yn cael eu talu ac yn dysgu dosbarthiadau hyd at 120 o ddisgyblion. Mae ysgolion uwchradd mor llawn fel eu bod yn gorfod gweithio sifftiau, y disgyblion ifancaf yn y bore a'r rhai hŷn yn y pnawn. Pan oeddwn yno, roedd y myfyrwyr wedi cynllunio a pherfformio dramâu anhygoel ar destunau amgylcheddol megis torri coed yn anghyfreithlon a hela a lladd mwncïod.

Yn Freetown ymwelais â'r Weinyddiaeth Addysg er mwyn gweld faint o bwyslais oeddynt yn ei roi ar faterion amgylcheddol wrth gynllunio'r cwricwlwm a beth oedd y problemau mewn addysg. Mae llawer ohonynt.

Yn anffodus, nid oeddwn yn gallu ymweld â'r ysgol yn Freetown sydd wedi gefeillio ag ysgol Tal-y-bont, gan fod Tom Cairnes, (a oedd yn yr ysgol gyda fy merch, Cathryn) allan o'r wlad y rhan fwyaf o'r amser yr oeddwn yno, ond llwyddais i'w gyfarfod i roi'r llythyrau a ddaeth o Ysgol Tal-y-bont ac i glywed am ei fywyd yn Sierra Leone. Dywedodd fod y plant yn ei ysgol yn mwynhau darllen y llythyrau'n fawr.

Cefais groeso mawr pan ymwelais ag ysgol arall a theimlais yn gartrefol pan ofynnwyd i mi pa dîm pêl-droed oeddwn yn ei gefnogi Man U neu Lerpwl! Cefais amser pleserus a diddorol yno. Gwnaethum ffrindiau newydd a chesglais wybodaeth a fydd yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu prosiectau i hybu ymwybyddiaeth ac i ymateb i faterion amgylcheddol sydd yn cael effaith ar fywyd pob dydd pobl Sierra Leone.

Monica Lloyd-Williams


Cyfrannwch

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý