Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
Hugh Morgan Autism Cymru
Ebrill 2006
Mai Leeding yn disgrifio gwaith Prif Weithredwr Autism Cymru, Hugh Morgan sy'n byw ym mhentref Taliesin i ddarllenwyr Papur Pawb.

Bydd darllenwyr Papur Pawb i gyd wedi clywed am Awtistiaeth ac Autism Cymru, yr elusen Gymreig sy'n rhoi cymorth a chefnogaeth i ddiofeddwyr a'u teuluoedd. Efallai fod rhai ohonoch wedi clywed fod Awtistiaeth yn Elusen y Flwyddyn S4C, ond faint ohonoch sydd yn gwybod fod Prif Weithredwr Autism Cymru Hugh Morgan yn byw yn ein hardal ni? Aeth Papur Pawb draw i Bencae, Taliesin, i'w gyfarfod a gofyn yn gyntaf beth yn union yw Awtistiaeth?

Esboniodd fod Awtistiaeth yn gyflwr sydd yn effeithio un o bob dau gant o'r boblogaeth. Mae gwahanol fathau o awtistiaeth glasurol ac uchel-weithredol, Syndrom Asperger - Syndrom Kanner, ac mae gan ddioddefwyr sawl nodwedd yn gyffredin. Effeithir ar eu gallu i ddeall eraill a chyfathrebu a nhw; i ddehonglu ymddygiad cymdeithasol sydd yn effeithio eu gallu i gydweithio ag eraill; ac i addasu eu hymddygiad i weddu i wahanol sefyllfaoedd. Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth yw'r term newydd i ddisgrifio unigolion sydd yn dioddef o'r cyflwr.

Cymru yw'r cyntaf o wledydd Prydain i fabwysiadu Strategaeth Genedlaethol i wynebu'r problemau hyn, ac mae Peter Hain wedi lawnsio partneriaeth awtistiaeth rhwng Cymru ac Iwerddon.

Bydd y misoedd nesaf yn brysur iawn , ar 13eg o Fai mae cyngerdd yn y Neuadd Fawr, 'Harmony in Autism', a bydd wythnos o ddigwyddiadau yn dechrau ar 11eg o Fehefin, dan nawdd S4C. Bydd grwpiau yn teithio o drefi Cymru sy'n dechrau gyda 'a' (a am Awtistiaeth, e.e. Abertawe), yn defnyddio gwahanol ffyrdd e.e beicio, marchogaeth, hwylio, o dan arweinyddiaeth sêr Cymru - bydd Aled Jones yn arwain grŵp o Amlwch, Sir Fôn, ac yn cyrraedd Aberystwyth erbyn y 15ed, lle bydd cyfarfod mawr ar lan y môr. Ar Fehefin l6eg bydd arwerthiant a chinio yng Nghaerdydd a bydd Mr Morgan yn cyflwyno Gwobrau Datblygu Awtistiaeth yn yr Amgueddfa Genedlaethol.

I ddianc rhag pwysau gwaith bob dydd mae Hugh yn chwarae gitar a harmonica gyda'r grŵp "The Accelerators". Yn ystod y flwyddyn gyntaf maent wedi chwarae llawer o gigs yng Ngogledd Ceredigion ond ei huchafbwynt (hyd yn hyn) oedd noson yn Hwlffordd, pan chwaraeodd yr enwog Stuart Cable gyda nhw mewn cyngerdd. Gellir eu clywed ar y rhaglen John Sambrook Blues ar Radio Ceredigion ar nos Lun.

Os hoffech gefnogi Austism Cymru, ewch i Aberystwyth ar Fehefin 15ed (gwyliwch am fanylion yn nes at yr amser), prynwch docynnau raffl, a chefnogwch ddigwyddiadau lleol.

Erthygl gan Mai Leeding


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý