Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
Cyfrol Erwyd
Hydref 2005
Cyfrol hir-ddisgwyliedig Erwyd Howells am fugeiliaid y canolbarth yn cyrraedd y wasg.

Yn ddiweddar daeth cyfrol hir-ddisgwyliedig Erwyd Howells o'r wasg ac efallai i rai ohonoch gael cyfle i brynu copi yn sioe Tal-y-bont. Mae Good Men and True yn llafur oes o ymchwil manwl a chofnodi hanesion difyr trigolion y mynydd-dir.

Ceir ynddi gipolwg ar ddull o fyw unigryw bugeiliaid y Canolbarth yn ymestyn o Fachynlleth i Gwm Elan. Pobl oedd rhain a gyfrannodd cymaint i'r gymdeithas wledig a chred Erwyd ei bod yn bwysig eu bod yn cael eu cofio a'u mawrygu.

Ar brynhawniau gwlyb y gaeaf bu Erwyd yn pori drwy ddeugain mlynedd o'r Welsh Gazette yn y Llyfrgell Genedlaethol. Bu'n ffodus o wneud tâp llafar o rai o'r cymeriadau ac adnabod nifer o'r bugeiliaid yn bersonol a'u disgynyddion. O gael y cyfan at ei gilydd llwyddodd i greu cyfrol hynod ddarllenadwy.

Ceir ynddi nifer o luniau difyr a gwahanol, ynghyd â llungopïau o ddogfennau. Enghraifft dda yw'r llun ar dudalen 200 o ŵr a gwraig Lluest Fach, Ponterwyd yn dal pladurau coes syth. Diddorol oedd deall fod y goes bladur fwaog y gwyddom amdani yn llawer mwy llafurus i'w defnyddio na rhain.

Neulltir pennod i sôn am stormydd eira mawr y ganrif ddiwethaf a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r caledi mawr a'r colledion ddaeth yn eu sgil. Yn naturiol mae pennod am ddiwrnod cneifio ar y mynydd a lluniau diddorol o'r achlysur pwysig hwn yng nghalendr y bugail.

Pwy arall fyddai'n neilltuo pennod i sôn am fwyd diwrnod cneifio a rôl bwysig y gwragedd i fwydo'r cneifwyr niferus. Ceir cofnod o'r wledd a fyddai'n cael ei pharatoi a hynny mewn cyfnod lle'r oedd yr adnoddau mor brin. Meddylier am fwydo 200 o gneifwyr llwglyd ddiwrnod cneifio Nant-stalwen a hynny yn hollol ddi-drafferth.

Pam ysgrifennu llyfr yn Saesneg?
Cred Erwyd ei bod yn bwysig i ddisgynyddion y gwerinwyr hyn - llawer ohonynt bellach yn ddi-Gymraeg - i gael y cyfle i ddarllen am eu cyn-deidiau. Mae'n cydnabod yn ddiolchgar gyfraniad nifer ohonynt i'r gyfrol a'u diddordeb heintus ynddi. Rheswm digon dilys dros ysgrifennu yn yr iaith fain, mae'n siŵr.

Ar ôl ysgrifennu llyfr swmpus ar y bugeiliaid cred Erwyd y dylid hefyd gydnabod cyfraniad mawr gwragedd y mynydd. Her i rywun i fynd ati i ysgrifennu a gobeithio y bydd y gyfrol honno yn gweld golau dydd yn fuan o Gapel Madog hefyd.

Mae'r argraffiad cyntaf wedi eu gwerthu ac ail argraffiad ar fin dod o'r wasg, tystiolaeth fod cyfrolau fel hyn yn hynod boblogaidd.

O.N. Mae gan Erwyd gysylltiad teuluol ag ardal Papur Pawb, ganwyd ei hen-dadcu, Dafydd Mason yn Nolgelynen, Cwm Ceulan yn 1860.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý