Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
Sue a Bob Williams Sioe Talybont trwy lygaid y Llywyddion
Medi 2007
Bob a Sue Williams, Llywyddion Sioe Talybont 2007 yn edrych yn ôl ar ddiwrnod i'w gofio.

Gan na fum innau at bwyllgor Sioe Talybont ers rhai blynyddoedd bellach, teimlais mai haws oedd rhoi fy argraffiadau o weithgareddau'r dydd heb fod yn rhagfarnllyd.

Yn sgîl clwy'r Traed a'r Genau hawdd fyddai i'r pwyllgor fod wedi cymryd camau i beidio a chynnal sioe eleni fel y gwnaeth amryw eraill, ond nid felly y bu. Y penderfyniad oedd cario ymlaen a diolch iddynt am hwnnw.

Dim gwartheg, dim defaid a dim geifr ond eto Cae y Llew Du yn llond o bob math o ddiddanwch at gyfer pawb. Roedd y dorf yn lluosog a'r pres at y giat i fyny yn sylweddol ers llynedd, y tywydd yn rhannol gyfrifol am hyn mae'n siŵr.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a roddodd o'u hadnoddau a'u hamser i sicrhau llwyddiant y sioe. Wn i ddim sawl person a ddywedodd wrthyf yn ystod y dydd eu bod yn hoffi dod i Sioe Talybont oherwydd y croeso a gafwyd yno ac mae hyn yn dweud y cyfan am y pwyllgor ac ymroddiad diflino ei haelodau.

Hoffwn innau ar ran y ddau ohonom ddiolch am yr anrhydedd o gael bod yn llywyddion. Cawsom ddiwrnod dedwydd, difyr a chofiadwy iawn, y swyddogion yn edrych ar ein holau fel brenhinoedd, `VIP' treatment' o'r radd flaenaf.

Yn ystod 2006-7, bum yn llywydd Cymdeithas y Gwartheg Duon ac yn sgil y swydd honno bu'n rhaid i mi fynychu tua deunaw o sioeau ledled Cymru a Lloegr hefyd. Credwch fi, mae Sioe Talybont cystal os nad gwell na llawer ohonynt, mae graen ac ôl gwaith ar bob rhan o'r cae.

Llongyfarchiadau mawr a hir oes i Sioe Talybont.

Bob a Sue Williams

Mae canlyniadau'r Sioe yn rhifyn Medi 2007 o Papur Pawb.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý