Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
Medi James Bygythiad i Swyddfeydd Post
Mehefin 2003
I'r rhai hynny sy'n derbyn pensiwn neu lwfans o unrhyw fath dros gownter eu Swyddfa Bost lleol mae newidiadau ar fin digwydd a all fygwth dyfodol y gwasanaeth pwysig hwn.

Mae'r Llywodraeth am i bawb gael eu harian wedi'u dalu i mewu i gyfrif banc. Popeth yn iawn mewn trefi lle mae banciau ar gael yn hwylus a phawb a chyfrif banc. Ond beth am yr ardaloedd hynny lle nad oes banc cyfleus?

Mae'r Swyddfa Bost yn adnodd holl bwysig i nifer fawr o bobl mewn ardaloedd gwledig megis dalgylch Papur Pawb boed yn riant ifanc neu'n berson mewn oed nad yw am deithio i Aberystwyth yn feunyddiol i dderbyn eu holl anghenion.

Mae pensiynwyr eisoes wedi derbyn llythyr yn esbonio'r newidiadau hyn a'r opsiynau sydd ar gael iddynt, ond deallwn fod yr wybodaeth a'r ffurflen eisoes yn achosi penbleth i rai.

Dylai pob un sydd am weld eu swyddfa bost a'u siop leol yn ffynnu sicrhau eu bod yn dewis y sustem Cyfrif Cerdyn Swyddfa'r Post Cerdyn plastig yw hwn fydd yn disodli'r llyfr lwfans rydym wedi arfer ei lofnodi a'r post yn ei stampio bob wythnos. Mae'r drefn yn hwylusach i'r cwsmer unigol ond ar yr un pryd bydd yn gofalu na fydd y post lleol ar ei cholled yn ariannol. Os ydych am ragor o wybodaeth pan dderbyniwch lythyr yn cyflwyno'r opsiynau newydd holwch staff eich swyddfa host leol.

Felly y peth i'w gofio os ydych am fod yn gefn i'ch post lleol ac am ddal i gael eich arian dros y cownter heb fynd i'r dre - yna dewiswch y Cyfrif Cerdyn Swyddfa'r Post.

Medi James


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý