Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
Dafydd ap Gwilym (Aled LlÅ·r) yn syllu mewn syndod ar ei fam (Geraint Jenkins, Cerrigcaranau) Clwb Ffermwyr Ifainc - Creu Pantomeim
Mawrth 2006
Pantomeim criw Clwb Ffermwyr Ifanc Tal-y-bont oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth y sir.
"Ers dechrau'r flwyddyn bu'r clwb yn paratoi yn ddiwyd tuag at y gystadleuaeth adloniant, a gynhaliwyd yn Theatr Felinfach, rhwng 20 a 27 Chwefror. Creu pantomeim oedd y dasg, a bu 13 o glybiau'r sir yn cystadlu. Beirniaid y gystadleuaeth oedd Ifan Gruffydd, Tregaron a'i wraig Dilys.

Elen Pencwm, ynghŷd â rhai o arweinyddion ac aelodau'r clwb, a greuodd sylfaen y stori. Yna aeth Elen ati i ysgrifennu'r panto "Dafydd ap Gwilym a'r busnes cariad 'ma". Yn ogystal, bu wrthi yn ddyfal yn ein hyffroddi, gyda chymorth rhai o'r arweinyddion eraill. Llawer o ddiolch iddi hi a'r criw am eu amynedd a'u parodrwydd. Hefyd, rydym yn ffodus ac yn wirioneddol ddiolchgar i Ruth Jên am greu cefndir lliwgar a thrawiadol.

Panto traddodiadol yw'r cynhyrchiad yn y bôn, yn ymwneud a'r bardd Dafydd ap Gwilym, sy'n dathlu ei ben blwydd yn ddeunaw mlwydd oed. Dim and on peth sy'n ei boeni - does ganddo ddim cariad! Felly, dyma ymweld a Gwrach Cors Fochno, yn y gobaith y gall hi ei helpu ...! A dyna ddechrau ar y trafferthion!

Bu'r clwb yn cystadlu ar y nos Iau gyda chast o oddeutu 40!! Cafwyd llawer o hwyl yn perfformio ac roedd ymateb y gynulleidfa yn rhagorol. Ar y nos Wener, cyhoeddwyd enwau y tri clwb a oedd yn cael gwahoddiad i ail-berfformio yn y ffeinal ar y nos Lun - Llanddewi-brefi, Pontsian a Thal-y-bont. Felly, ar y nos Lun, yn ôl eto i Felinfach i roi tro arall at ein panto. Erbyn hyn, roedd y cast wedi ymlacio ac yn ysu i ddiddanu cynulleidfa newydd. Rhoddwyd beirniadaeth ar y clybiau i gyd fu'n cystadlu, ac roedd Ifan Gruffydd yn ganmoladwy iawn o safon a osodwyd trwy gydol y gystadleuaeth ac yn rhyfeddu at allu'r actorion, yn enwedig y rhai dan 16 oed.

A'r canlyniadau?

Yn gyntaf, yr unigolion. Llongyfarchiadau mawr i Elen Pencwm a'r criw ar ennill cwpan y Cynhyrchydd Gorau ac i Aled LlÅ·r am gael cwpan yr Actor Gorau dan 26 oed.

Roedd y cast i gyd ar binnau drain erbyn hyn, ac wedi hir ddisgwyl, daeth y canlyniadau. Dyfarnwyd Pontsian yn 3ydd, Llanddewi-brefi yn 2i1 a Thal-y-bont yn fuddugol!!!"

Erthygl gan C J


Cyfrannwch

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý