Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
Murlun yn Nhalybont Cynllun Creu Swyddi Lleol
Medi 2003
Mae Cyngor Cymuned Ceulanamaesmawr ac Ecodyfi wedi rhyddhau canlyniadau cychwynnol astudiaeth ar greu swyddi yn Nhal-y-bont.
Dengys yr astudiaeth fod galw am ofod ar gyfer swyddfeydd a gweithdai yng ngogledd Ceredigion. Mae'r Cyngor yn awr am gynnwys gweddill y gymuned yn y broses o benderfynu a ddylid darparu unedau addas yn y pentref ac os felly sut y dylid gwneud hynny.

Ychydig flynyddoedd yn ôl prynwyd adeilad gwag yn Nhalybont gan grwp o drigolion. Y bwriad oedd ei addasu ar gyfer pobl leol oedd yn awyddus i sefydlu busnesau. Aeth y Cynllun i'r gwellt, ond yn sgil pryderon presennol ynghylch codi tai mae'r syniad wedi ailgodi. Mae Cynghorwyr yn awyddus i greu cyfleoedd gwaith yn y pentref er mwyn cydbwyso unrhyw ehangu a all ddigwydd. Maent yn gwybod fod cael lleoliad addas am rent rhesymol yn bwysig iawn i bobl â chanddynt syniad busnes ac yn y gorffennol mae rhai pobl wedi gorfod gadael y pentref.

Gallai Tal-y-bont ffurfio menter gymunedol i ddarparu gweithdai a swyddfeydd, un ai trwy addasu adeilad neu adeiladu o'r newydd. Gyda nawdd ariannol gan Awdurdod Datblygu Cymru bu i ecodyfi (Partneriaeth Eco Dyffryn Dyfi) gyflogi ymgynghorwyr i hwyluso'r broses. Mae'r ffordd mae'r prosiect yn cynnwys y gymuned yn y broses o greu swyddi cynaliadwy yn gweddu'n dda ag amcanion ecodyfi. Partneriaeth Egin o Gaernarfon ywr ymgynghorwyr. Bu iddynt holi busnesau presennol ynghylch eu hanghenion datblygu, edrych am bobl â chanddynt diddordeb mewn cychwyn busnesau ac arweinwyr cymunedol.

Bu i Egin ganfod fod rhai busnesau presennol yn awyddus i ehangu ac y byddai rhai yn ystyried symud i Dal-y-bont er mwyn gwneud hynny. Byddai rhaid i weithdai fod o fewn cyrraedd rhwydd i'r A487 felly gwell fyddai cael lleoliad ar gyrion y pentref. Byddai rhaid i swyddfeydd fod o safon uchel, a gorau oll pe baent yn cydymffurfio â safonau ecolegol a byddai rhaid i unrhyw fusnes sy'n gobeithio denu twristiaid neu ymwelwyr wrth gyfleusterau parcio digonol.

Mae dau nod i ran nesaf y gwaith. Y cyntaf yw darganfod a oes yna bobl leol a fyddai'n awyddus i gychwyn busnes pe bai lleoliad addas ar gael. Yr ail yw canfod pa mor awyddus yw'r gymuned i weld y math hwn o ddatblygiad yn Nhalybont. Gyda hyn mewn golwg bydd digwyddiad cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Nhal-y-bont ar ddydd Llun 29 Medi, lle gall pobl gwrdd â chynghorwyr busnes, y trefnwyr a'r ymgynghorwyr yn ogystal â chael golwg ar syniadau cychwynnol ynghylch sut y byddai'r datblygiad yn edrych. Gwahoddir pobl hefyd i gysylltu ag ecodyfi ar 01654 703965.

Gwybodaeth bellach:
Andy Rowland, Rheolwr, Ecodyfi, ffôn: 01654 703965Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn 01970 832551Y Cynghorydd Harry James 01970 624688Gwilym Euros, Partneriaeth Egin 01286 677027 neu 07768 025630


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý