Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
Tri ffenswr o fri, Rhydian, Geraint ac Elgan C Ff. I Talybont
Ebrill 2009
Eleri James sy'n bwrw golwg dros ddigwyddiadau Clwb Ffermyr Ifainc Tal-y-bont ym mis Mawrth.

"Dechreuodd y mis yma mewn modd annaturiol iawn...gyda chyfarfod! Ond, 'roedd rhaid cael ein pennau at ein gilydd i gael gwneud paratoadau tuag at Ddiwrnod Maes y Sir.

Penderfynwyd ar y cystadlaethau y byddwn yn cynnig arnynt, pwy fyddai'n cystadlu a phwy fyddai'n ein cynorthwyo.

Fel mae'r mis wedi mynd heibio, cawsom gyfle i fynd draw i Gerrigtaranau i gael hyfforddiant da godro gyda Martin, i Gaergywydd, Bow Street am hyfforddiant ŵyn tew gydag Alun ac i Dy'n Graig am hyfforddiant barnu moch. Diolch yn fawr i deuluoedd Jenkins, Jones a Jenkins am eu hamser a'u croeso.

Nos Wener y 13eg, targedwyd cyn-aelodau'r Mudiad drwy drefnu Noson Rhowch Gynnig Arni i lawr yng Ngwesty Llanina, Llanarth. Llwyddwyd i gael tim at ei gilydd er gwaetha'r 'maternities' wyna. Cafwyd lot o sbort a bwriedir cynnal noson debyg yn y dyfodol i gyn-aelodau eto.

Tro Elgan a Morfudd, Tynant i ddweud eu hanesion am Seland Newydd oedd nos Fawrth, 17eg o'r mis. Anghredadwy oedd gweld cae oedd yn gant o aceri! Ond yn hela ni werthfawrogi'n fawr fod y ddau wedi dod nôl adre.

Serch mai dim and criw bychan ohonom ddaeth at ein gilydd ar y 24ain, trosglwyddwyd neges bwysig gan Ywain ap Dylan, sef Swyddog Prosiect Diogelwch y Ffyrdd Sir Ceredigion, am beryglon cyflymder a chyflwr ffyrdd. Er bod y pwnc yn un difrifol, mwynhawyd y noson yn fawr gan yr aelodau.

Bydd y tîm ffensio a Dewi'n mynd trwyddo i gynrychioli Ceredigion yn niwrnod maes Cymru a gynhelir yn Ynys Môn ar 25 Ebrill. Dymunwn bob lwc iddyn nhw.

Rhaid nodi hefyd bod rhai o'r merchcd hŷn wrthi'n paratoi drwy ymarfer tynnu'r gelyn. Bydd rhai o'r aelodau mewn tîm o glybiau mwngrel, hynny yw aelodau o sawl clwb!

Gala Nofio, Chwaraeon y Sir a'r Rali yw'r cystadlaethau sy'n dod lan yn fuan, felly bydd lot o waith yn mynd mewn i baratoi ar gyfer y rheini.

Ond dwi'n siŵr y byddwn yn ffitio lot o weithgareddau ychwanegol i mewn rhyngddyn nhw i gyd. Fel dwi wastad yn dweud, tarwch heibio ar nosweithiau Mawrth os y'ch chi awydd cymryd rhan neu gyfrannu tuag at ein gweithgarcddau."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý