Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
John a Karen Thomas Garej Ffwrnais Yn Cau
Hydref 2008

Wedi 37 o flynyddoedd, mae'r pwmp petrol yn Ffwrnais wedi sychu yn sgîl ymddeoliad John a Karen Thomas.

Nid prinder petrol yw'r rheswm am y sychder, nac effaith yr holl haul a gawsom yr haf yma (!), ond yn hytrach ymddeoliad John a Karen Thomas.

Ers y 1af o Orffennaf 1972, bu'r ddau yn rhedeg Garej 'Artist Valley' yn y pentref, ond yn anffodus nid oedd modd gwerthu'r fusnes fel y mae, ac felly ar ddiwedd Medi 2008 daeth diwedd cyfnod yn hanes y garej a'r ardal gyfan.

Yn ogystal a gwerthu tannwydd a chynnig gwasanaeth atgyweirio a chynnal, roedd y garej hefyd yn rhedeg siop yn gwerthu nwyddau amrywiol a phapurau newydd. Ers rhai blynyddoedd bellach, y garej oedd yr unig fusnes oedd yn darparu i anghenion trigolion Ffwrnais, Eglwysfach a Glandyfi, ac felly bydd ei chau yn golled fawr i'r ardal.

Gwelwyd llawer tro ar fyd ers 1972. Y pryd hynny, 34 ceiniog y galwyn oedd pris petrol. Dros y blynyddoedd sylwodd John fod y gwerthiant tannwydd yn lleihau wrth i foduron gynyddu eu effeithioldeb, tra fod mecanwaith y ceir yn cymlethu yn aruthrol. O gwrdd a'r cyhoedd o ddydd i ddydd mae ganddynt amryw o atgofion digri a dwys.

Yr un mwyaf ysgytwol oedd pan fu cwsmer farw tra'n cael petrol. Digwyddodd hyn flynyddoedd yn ôl, yn y cyfnod pan John fyddai'n gweithio'r pwmp.

Llwyddwyd i ymdopi â'r sefyllfa anodd yma, ac ni chafwyd digwyddiad tebyg iddo byth wedyn.

Daeth llawer i berson enwog heibio'r garej, yn eu plith Sir John Mills, yr actor John Thaw, yr aml-dalentog Rolf Harries ac wrth gwrs Robert Plant (aelod o'r band Led Zepelin sy'n berchen Dolgoch, yng Nghwm Einion).

Dymuna John a Karen ddiolch i'w holl gwsmeriaid am eu cefnogaeth â'u cyfeillgarwch dros y blynyddoedd.

Hoffai Papur Pawb hefyd fanteisio ar y cyfle yma i ddiolch iddynt hwythau am eu gwasanaeth i'r ardal, ac am werthu Papur Pawb i drugolion Ysgubor y Coed. Dymunwn yn dda iddynt yn eu hymddeoliad.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý