Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
Mrs Menna Jones Cyhoeddwr Cynnar
Mai 2006
Hanes cyhoeddwr cynnar o ardal Tal-y-bont; y Parch Robert Jones (Trebor Aled).

Ymhen blwyddyn fe fydd Gwasg y Lolfa yn dathlu ei phenblwydd yn 40 mlwydd oed. Ond tybed faint o drigolion yr ardal sy'n ymwybodol nad dyma'r fenter gyhoeddi gyntaf i ddeillio o Dal-y-bont?

Un cystadleuydd posib am y anrhydedd honno yw'r Parch Robert Jones (Trebor Aled) a gyhoeddodd lyfr ar ei liwt ei hun mor bell yn ôl â 1908, sef ddetholiad o'i gerddi mewn cyfrol swmpus 200 tudalen ('Pleser a Phoen'; sef casgliad o gerddi yn y llon a'r lleddf ) a hynny tra oedd yn weinidog Capel Tabernacl. Wrth gwrs, doedd dim gwasg i'w chael ym Mans y Tabernacl a thalodd Trebor Aled i'r gwaith gael ei anfon at wasg 'Y Cymro' yn Yr Wyddgrug.

Yn y cyfnod dan sylw roedd hi'n beth eithaf cyffredin i awduron gyhoeddi eu gwaith eu hunain ac yn yr un modd roedd hi'n arferiad pur gyffredin i awdur gasglu enwau tanysgrifwyr cyn mentro cyhoeddi. Mae hyn hefyd yn wir am 'Pleser a Phoen' oherwydd yng nghefn y gyfrol mae rhestr o dros 130 o danysgrifwyr. Wrth bori drwy'r rhestr hon mae'n ddiddorol sylwi pwy yw'r tanysgrifwyr hyn. O gofio mai brodor o Lansannan oedd Trebor Aled nid yw'n syndod bod yn agos i chwarter o'r tanysgrifwyr yn hannu o Lansannan neu'r cyffiniau, a gan ei fod yn byw yn Nhal-y-bont pan gyhoeddwyd y llyfr nid yw'n syndod chwaith bod y tanysgrifwyr lleol hefyd yn niferus / 16).

Ymhlith y tanysgrifwyr hyn roedd D.J. Arter, Bon Marche, Tre'rddol, David Evans, Penpompren a'r Parchg David Evans, Y Mans, W T Evans, Bryn Gryffdy, R.T. Griffiths, Melin Talybont, Dr John James, Y Fagwyr, Miss H.M. Jones, Ysgol Eglwysfach, Richard Jones, Golden Key a Richard Jones, 1, Birkenhead Street, E.J. Owen, Allt Goch, Owen David Owen, Berthlwyd, Richard Philips, Llwynglas ac Evan Williams, Birkenhead Street.

Hefyd ymhlith y tanysgrifwyr roedd Thomas Richards, Ynys Tudur (Dr Tom, Hanesydd a Prif Lyf Coleg Prifysgol Bangor yn ddiweddarach) a Richard Morgan, brodor o'r pentref a oedd erbyn 1908 yn ysgolfe Llanarmon yn Iâl. O gofio i Trebor Aled dreulio cyfnod fel gwerthwr llyfrau i gwmni cyhoeddi cyn troi at y Weinidogaeth nid yw'n syndod bod ganddo danysgrifwyr ledled Cymru, Glannau Mersi, Llundain a mannau eraill yn Lloegr. Anfonwyd o leiaf 3 copi at danysgrifiwyr tramor (yn Yr Almaen, Yr Unol Daleithiau a Colombia).

Tybed a oes unrhyw un o ddarllenwyr Papur Pawb yn gwybod a oes copi y tanysgrifiwyd iddo'n lleol wedi goroesi? Un sydd â chopi o'r gyfrol ers rhyw ugain mlynedd yw John Evans Bryn y Wawr. Cafodd John y llyfr yn rhodd gan gymydog iddo, Meg Despard, Brynfa, am ei fod yn ymddiddori mewn llyfrau. Ond nid yw'r copi hwn ymhlith y rhai y tanysgrifiwyd iddo gan fod yr awdur wedi sgwennu ynddo mewn llawysgrif ddestlus, 'Oddiwrth yr awdur Mehefin 17, 1910' sef dwy flynedd wedi iddo gael ei gyhoeddi. Awgryma hyn mai rhodd oedd y copi hwn a hynny mae'n debyg i Annie Frances, Pontygeifr gan fod ei henw hithau wedi ei sgwennu ar yr un dudalen.

Pan ymddangosodd peth o hanes y Parch Robert Jones yn rhifyn Chwefror 2006 o Papur Pawb fe sylweddolodd John bod cysylltiad rhwng y llyfr oedd yn ei feddiant a'r cerrig beddau teuluol yng nghefn y mynwent y Tabernacl yr oedd yn gyfarwydd â nhw gan ei fod wedi bod wrthi droeon yn clirio'r fynwent. Trwy gyd-ddigwyddiad ffodus pan dalodd Mrs Menna Jones, Henllan ger Dinbych, sef nith i Trebor Aled â bedd ei hewythr am y tro cyntaf yn ystod yr haf llynedd fe'i gwelwyd gan John a chafodd Mrs Jones weld bod o leiaf un copi o lyfr Trebor Aled wedi aros o fewn y pentref a hynny lai na chanllath i'r man y'i cyhoeddwyd yn agos i gan mlynedd yn ôl.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý