Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Glo Mân
Planedau Edrych tua'r sêr a'r planedau
Chwefror 2003
Dim ond i chi godi eich llygaid i'r awyr ar noson glir yn ystod y mis hwn, ac fe fyddwch yn gweld dwy o'r planedau mwyaf sy'n cylchu ein haul gyda ni.

I fyny yn nghyfeiriad y de- tua thri chwarter y ffordd i fyny'r awyr fe gewch gip ar y blaned Sadwrn - 'Saturn'. Ar hyn o bryd mae hi heb fod ymhell o Orion yr Heliwr yng nghytser Tawrws - y Tarw. Mae'n debyg bod yr Heliwr yn enwog trwy'r byd gan ei fod yn gwisgo gwregys o dair seren ('Mintaka', 'Alnilam', ac 'Atnitac') sy'n disgyn un ar ôl y llall o'r dde i'r chwith o amgylch ei wasg dychmygol.

Wrth ei ysgwydd chwith mae seren anferthol ei maint a chochlyd ei lliw o'r enw 'Betelgeuse', a draw lle byddai ei ben glin dde mae clamp o seren ddisglair wynias o'r enw 'Rigel'. Codwch eich llygaid nawr ychydig i'r chwith ac fe welwch bod ffurf V fawr ar gael yn yr awyr - mae ar ei hochr ar hyn o bryd. Dyna ben y tarw sy'n closio'n eithaf agos at Orion ac yn barod i roi corniad iddo.

Yna, sylwch ar un seren fawr felynaur ei lliw gerllaw'r tarw. Dyna Sadwrn. Mae hon yn blaned enwog iawn oherwydd ei bod yn arddangos cyfres o gylchoedd o'i hamgylch. Dywed gwyddonwyr wrthym mai darnau mân o iâ a llwch yw eu cynnwys, a'u bod yn cael eu dal yn eu lle gan ddisgyrchiant y blaned enfawr honno.

Nid Sadwrn gyda llaw yw'r unig blaned yng nghylchdro'r haul sydd â chylchoedd o'i hamgylch. Dywed Gwyddonwyr wrthym - ar ôl iddynt gael cyfle i astudio gwybodaeth ddaeth yn ôl atom o Voyager - bod rhai eraill o'r planedau allanol cuddiedig yn gwisgo modrwyau hefyd, ond na allwn ni eu gweld.

Diolch am y blaned Iau
Y blaned arall sydd yn tanbeidio ar nosweithiau clir i fyny yn y Dwyrain yw Jiwpiter, sef Iau, a enwyd ar ôl brenin y duwiau Rhufeinig. Mae Iau yn blaned enfawr enfawr enfawr. (Fe allai ein byd ni ffitio i mewn sawl gwaith drosodd i'r storm fawr enfawr o smotyn coch sydd ar waelod y blaned gawraidd hon.) Yn wir, pe bai ond ychydig fwy o faint fe allai fod wedi cynnau a bod yn ail haul ei hunan. Nwy yw holl gynnwys Iau - fel Sadwrn a dweud y gwir - ac mae disgyrchiant Iau mor enfawr nes ei bod yn tynnu pob math o ddarnau o gomedau a chreigiau a meteorites ati hi ei hun.

Yn wir, onibai am Iau fe fyddai llawer mwy o bethau wedi taro'r ddaear ac wedi ei dinistrio sawl gwaith drosodd bellach, ac fe fyddai'r Armageddon go-iawn, ddigwyddodd, medden nhw, i'r deinosoriaid - wedi ein difetha ninnau'n llwyr. Felly diolch am Iau! Ar hyn o bryd mae Iau yn codi gerllaw cytser y Llew, Leo - fe allwch weld hwnnw'n glir yn y dwyrain gan bod ffurf cryman yn pwyntio i'r dde arno. Mae'r llew ar ei orwedd gyda llaw, couchant ys dywed y Ffrancwyr.

Sêryddwyr Arabeg
Enw'r seren ddisglair lle byddai ei fwng yn cyfarfod ei war yw Algieba, a than hynny lle byddai ei gesail flaen mae Regulus, a lle byddai ei ben-ôl mae seren fawr o'r enw Denebola -ystyr hynny yn Arabeg yw cynffon gyda llaw. (Enwyd llawer o sêr gan yr Arabiaid gan mai hwy oedd y seryddwyr cyntaf o bwys. Os gwelwch chi Al yn dechrau enw seren fe allwch fod yn sicr mai Arabeg oedd y seryddwr a'i henwodd, Al yw Yr / The yn Arabeg). Wel, gerllaw y llew anferth yn y gorllewin, yn wir rhyngddo ef ac arwydd distadl y Cranc Cancer - y mae Iau ar hyn o bryd yn tanbeidio.

Un peth bach arall wrth orffen. Os byddwch chi'n syllu ar seren ac yn ei gweld yn tywynnu, yn sbarclo fel diamwnt, s'dim ots pa faint yw hi, seren yw hi mewn gwirionedd oherwydd mae ganddi ei thanwydd ei hunan ar ffurf Hydrogen a Helium. Ond os ydych chi'n edrych ar rywbeth sy'n llonydd ei oleuni ac heb sbarco, fe allwch fod yn hollol sicr mai planed ydych chi'n edrych arni. O ie, mae'r gair Planed yn dod o'r Groeg am grwydryn - wanderer, oherwydd er bod y sêr yn symud yn ôl y tymhorau, maen nhw'n cadw'r un ffurfiau bob amser. Ond mae'r planedau yn teithio fan hyn a fan draw am eu bod llawer yn nes atom.

Flwyddyn nesaf fe fydd Iau i mewn ym mola'r llew yn rhywle, neu ger ei ben, neu yn ei geg efallai, ac fe fydd Sadwrn wedi symud i mewn i gytser (constellation) 'Gemnini', yr efeilliaid. Cofiwch edrych i fyny weithiau!

Einir Jones


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý