Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Glo Mân
Llio Sulyn a Honey Llio'n marchogaeth i gasglu arian
Gorffennaf 2006
Fis Medi eleni bydd Llio Sulyn yn marchogaeth am 10 diwrnod o Borthaethwy i'r Fenni...

Mae pobl ardal Rhydaman yn gyfarwydd â Llio Silyn. Hi oedd yn bennaf gyfrifol am y cyflwyniad Ugain Mlynedd Ymlaen yn Theatr y Glowyr gyda ieuenctid yr ardal rhyw ddwy flynedd yn ôl.

Mae'n gefnogwr brwd o Amnest Rhyngwladol ac mae Rhyfel Irac wedi ei dwysbigo i farchogaeth yn enw'r mudiad hwnnw.

"Dw i wastad wedi cefnogi Amnest, ac yn aelod o'r mudiad. O'n i'n meddwl ei bod yn rheitiach hel arian i godi ymwybyddiaeth ac i helpu achosion carcharorion ledled y byd mewn llefydd fel Bae Guantanamo ac Abwgrabi."

Mae'n dilyn ôl traed ei thad. Roedd tad Llio, Silyn Huws, yn ddarlithydd Cymraeg yng Ngholeg Harlech ac yn heddychwr a wrthododd wneud gwasanaeth milwrol yn 1957. Mae'n enedigol o Benrhydeudraeth and erbyn hyn yn byw yn Llandyfan. Mae'n fam i bedwar o blant, yn cyfarwyddo cwmni aromatherapi 'Gwenllian' a gweithio gyda theatr ieuenctid.

Bwriad Llio yw cychwyn o Borthaethwy fis Medi ar daith am 10 diwrnod gan ddiweddu yn Y Fenni. "Dw i am deithio tipyn ar y ffordd fawr, yn ogystal â llwybrau marchogaeth fel bod pobl yn fy ngweld, ac mae croeso iddynt ymuno efo fi. Bydd lori yn fy nilyn a gallaf wedyn ei defnyddio fel swyddfa i hybu gwaith Amnest. Byddaf yn creu safle ar y we."

"Baswn wrth fy modd pe bai pobl yn fy nghefnogi drwy gasglu noddwyr, gallaf anfon ffurflenni drwy e bost...Bwriadaf greu arddangosfa hefyd ac ocsiwn o waith gwahanol artistiaid- boed yn feirdd, cerflunwyr ac ati. Dwi heb ofyn i bawb eto, ond hyd yn hyn mae'r ymateb wedi bod yn gret. Bydden yn creu rhywbeth arbennig ar themau Amnest."

Bydd Llio wedi trefnu bod ffarier ar gael rhag ofn bydd angen sylw ar ei chaseg "Honey". Bydd Llio a Honey yn galw yng Nghaernarfon; Porthmadog, Dolgellau; Machynlleth; Aberystwyth, Llanbed; Caerfyrddin, Rhydaman, Castell Nedd a'rFenni. Ffoniwch 01269 851870 am ffurflen noddi. Gellwch gysylltu â Llio Silyn drwy e bostio: andrew.ogof@btintemet.com


Cyfrannwch

Jade Lewis o Llandybie
Mae llio wedi helpu fi mas pan roeddwn wedi gwneud sioe, roedd yn help mawr i fi a rydw i yn diolchgar iawn i hi xxxxxxxxx


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý