Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Glo Mân
Neuadd Goffa Llandybie Neuadd Goffa Llandybie yn dathlu
Rhagfyr 2005
Yn ystod mis Tachwedd dathlodd Neuadd Goffa Llandybie ei phen blwydd yn bedwar ugain mlwydd oed.

Gosodwyd y garreg sylfaen gan y Col. D. Watts-Morgan SOMP ar y 27ain o Ragfyr 1924. Agorwyd y Neuadd yn swyddogol gan Ei Arglwyddiaeth Iarll Cawdor ar Dachwedd 5ed 1925.

Ar y gofeb sydd ym muriau'r neuadd wrth y mynediad ysgrifennir: 'Rhoddwyd safle y neuadd hon a'r maes chwarae cyfagos i gyhoedd Llandybie gan Y Gwir Anrhydeddus John Duncan Vaughan Iarll Cawdor i goffau hunan aberth ysblennydd GwÅ·r Llandybie a gollasant eu bywydau yn Y Rhyfel Mawr 1914 - 1919. Agorwyd y neuadd gan Ei Arglwyddiaeth Iarll Cawdor. Tachwedd 5ed 1925'.

Cynhaliwyd cyngerdd mawreddog llwyddiannus i ddathlu'r achlysur. Dros yr wyth deg mlynedd diwethaf bu llawer iawn o gyngherddau yn y Neuadd, heb sôn am ddramâu, dawnsfeydd, gemau bingo a phartïon o bob math - gyda mudiadau y pentref i gyd yn defnyddio'r cyfleusterau.

Ym 1946 agorwyd sinema a mawr oedd pleser y plant o gael y cyfle i weld `Flash Gordon' ar fore dydd Sadwrn, heb orfod mynd yr holl ffordd i'r 'Palas' yn Rhydaman i weld yr anturiaethau diweddaraf!

Cynnal Eisteddfod Genedlaethol arbennig
Efallai mai uchafbwynt hanes y neuadd hyd yn hyn oedd cynnal yr unig Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yn ystod yr Ail Rhyfel Byd, ym mis Awst 1944. Cofia Mr Eurfyl Davies, Heol Blaenau un noswaith arbennig yn haf cynnes 1944 wrth chwarae yn blentyn yn yr hwyr tu allan i'r neuadd, gyda'r drysau i gyd yn agored, glywed, Côr Byddin Gwlad Pwyl yn canu caneuon gwerin eu gwlad i dorf yr Eisteddfod.

Mae'n siŵr bod llawer o bobl ag atgofion neu luniau o'r neuadd. Da byddai rhannu yr atgofion a'r lluniau gyda darllenwyr Glo Mân.


Cyfrannwch

Llandybie
Dwi wedi bod yn y neuadd newydd ar ol iddo gael ei wneud i fyny ac mae'n neis iawn y tu fewn ac mae'r adeilad ychwanegol wedi gwneud gwahaniaeth ond dwi'n credu bod rhaid i'r 'placs' fynd nol ar y wal. Neuadd Memorial Llandybie.

Geoffrey Anderson o Landybie
Efallau fy mhod yn un o oedolion henaf y pentref all ddwueud ei fod wedi cyfrannu ychydig tuag at Eisteddfod Genedlaethol yn Llandebie yn 1944. Ar y pryd rown rhyw 18 blwydd oed yn was golier yn lofa Cross Hands pan gefais wahoddiad i fod yn un o bedwar ystiwardau swyddogol drwy'r wythnos.Allaf dwyn i gof dim ond dau o'n cydweithwyr sef y diweddar Mr William Davies a Mr J Jarvis.I fod yn berfaith onest rown mor brysur yn symud hwnt ac yma o gylch a tu fewn i'r neuadd a rhoi help llaw i dipyn o bawb cefais dim llawer o gyfle i fwynhau y gwyl un eu hun. Roedd, heb amheu, yn anrhydedd unigol i mi ac rwyf yn ymfalchio yn y ffaith fy mhod wedi cyfrannu i hanes yr hen bentref anwyl yma.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý