Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Glo Mân
Paul Gregory "Canu, dysgu, dyna sbri"
Ebrill 2003
Mae'r rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd â'r enw Paul Gregory, fel rhan o'r ddeuawd y Brodyr Gregory a'r Brodyr Bach. Mae Paul, erbyn hyn, yn troi ei sgiliau o ganu at gyfansoddi ...
Dyw hyn ddim yn newydd iddo, wrth gwrs, gan ei fod eisoes wedi ennill fel cyfansoddwr "Cân i Gymru" ddwywaith, gyda "Cam nesa" a "Rhyw ddydd."

Mae hefyd wedi cyfansoddi caneuon wedi'u hanelu at hybu iechyd a diogelwch plant. Rhyw ddeng mlynedd yn ôl cyfansoddodd gyfres o ganeuon a ddefnyddir gan Heddlu Dyfed Powys ar ddiogelwch y ffyrdd, ac yn ddiweddarach bu'n rhan o brosiect Y Cynulliad yn paratoi ymgyrch gwrth-smygu i blant, -"Cledwyn a mwg y Ddraig" a'i ganeuon bachog, ystyrlon yn anelu at wneud ysmygu yn wrthun i bobl ifainc.

Tra'n gweithio gyda'r Cynulliad a'r prosiect ar gyfer ysgolion, roedd Paul yn ymwybodol fod yna le i ganeuon newydd ar gyfer plant. Felly, aeth ati i gyfansoddi casgliad o ganeuon newydd sbon yn ymwneud â theimlad, symud a mynegiant. Teitl y cryno ddisg yw "Canu, dysgu, dyna sbri, Dyma' ch cyfle, ffwrdd a chi" Disgrifir y caneuon newydd, gwreiddiol yma fel rhai "addysgiadol a difyr" gan athrawon a rhieni a thrwyddynt anogir plant i gymryd rhan yn y llu o weithgareddau a ddarperir ym mhob cân. Cred Paul fod cael sbri yn rhan bwysig o'r broses ddysgu, ac mae'r caneuon hyfryd yma yn rhoi cyfle i'r plant fynegi'u hunain drwy symud, yn ogystal â gwella sgiliau cerddorol a geirfa.Gyda'r CD bydd llyfryn yn cynnwys geiriau pob cân.

Yn y dyfodol bydd Paul yn cynhyrchu CD, un yn y Gymraeg ac un yn Saesneg, ohono ef yn canu'r caneuon yma, ond cyn hynny, mae ganddo brosiect diddorol ar y gweill yn paratoi CD yn cynnwys cyfraniadau cerddorol gan ysgolion cynradd lleol y dalgylch yma. Bu'r ymateb yn arbennig o dda, ac erbyn hyn mae'r ysgolion cynradd lleol wedi recordio'r caneuon (un gân yr un) a bydd y CD arbennig yma ar werth cyn bo hir.

Dymuna Paul ddiolch i'r ysgolion am eu gwaith paratoi yng nghanol eu holl brysurdeb, a dymuna ddiolch hefyd i gwmnïau lleol fu mor hael yn noddi'r fenter.

E.D


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý