Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Glo Mân
Emillydd y Goron a'r Gadair yn yr Eisteddfod Ysgol Eisteddfod Ysgol Gymraeg Rhydaman
Mawrth 2007
Unwaith eto eleni, bu cystadlu brwd yn Eisteddfod Ysgol Gymraeg Rhydaman.

Bu'r staff wrthi'n brysur ers wythnosau yn paratoi, a'r disgyblion gweithgar yn cyfansoddi barddoniaeth, ysgrifennu rhyddiaith, ymarfer eu llawysgrifen a chyflawni campweithiau celf a chrefft yn ogystal a dysgu caneuon, darnau barddoniaeth a dawnsfeydd newydd.

Roedd y plant o'r lleiaf i'r hynaf wrth eu bodd yn cystadlu a'u perfformiadau graenus wedi diddanu pawb. Rydym fel ysgol yn ddyledus i'r beirniaid Mrs Rachel Arnold (beirniad llawysgrifen), Mrs Eira Davies (beirniad barddoniaeth a rhyddiaith), Mrs Gill Evans (beirniad llawysgrifen). Mrs Olwen Richards (beirniad canu), Mrs Maijorie Rogers (beirniad llawysgrifen a chelf) a Mrs Ann Thomas (beirniad llefaru). Rydym yn gwerthfawrogi eu caredigrwydd a'u parodrwydd i gynorthwyo'r ysgol bob amser.

Bu'r cadeirio a'r coroni yn llwyddiant mawr a nifer o ddisgyblion yn cymryd rhan yn y seremoni. Y ffanfferwyr eleni oedd Cai Glover, Morgan Hill, Elis Jenkins, Gwaredd Jones, Rhys Owen, Cellan Wyn a Sion Wyn (disgyblion blynyddoedd 5 a 6). Tywysyddion enillwyr y gadair a'r goron eleni oedd, Alex Naiomi ac Owain Morgan, ac Elan Daniels a LlÅ·r Morgan (disgyblion blwyddyn 4). Cyflwynwyd y gadair a'r goron i'r buddugwyr gan Mrs Jean Huw Jones, ffrind ffyddlon a hael i'r ysgol. Enillydd y goron eleni oedd Mabli Pritchard, ac enillydd y gadair oedd Ioan Llyr Thomas.

Fel arfer roedd cystadlu brwd rhwng y tri llys eleni eto sef Llys Llywelyn Fawr, Llys Owain Glyndŵr a Llys Hywel Dda, ond y llys buddugol eleni oedd Llys Llywelyn Fawr.

Llongyfarchiadau mawr i'r disgyblion oll am eu cyfraniadau.

Mae cyfansoddiadau enillydd y gadair a'r goron i'w gweld yn rhifyn mis Mawrth o Glo Mân.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý