Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Glo Mân
Grant Williams a sgoriodd 301 o bwyntiau yn ystod y tymor Pencampwyr Tycroes
Mai 2007
Dyma ddiwedd tymor rygbi ac un llwyddiannus iawn i Glwb Rygbi Tycroes.

Wedi gormes hir a chaled, fe gipiwyd pencampwriaeth Adran 5 Gorllewin Undeb Rygbi Cymru ganddynt.

Sefydlwyd y clwb 'nôl yn 1911 ac er ennill dyrchafiad sawl tro yn yr hen Undeb Rygbi Gorllewin Cymru a chael dyrchafiad ddwy waith drwy ail drefnu'r gynghrair, dyma'r tro cyntaf i'r clwb ennill y bencampwriaeth a dyrchafiad trwy eu hymdrechion hwy eu hunain.

Ar y daith enillwyd 22 gêm a chollwyd dim ond dwy. Sgoriwyd 744 o bwyntiau gan ildio ond 174 yn rhoi gwahaniaeth o 570 - y gorau yng Nghymru eleni. Croeswyd y llinell am 103 o geisiau gan ildio ond 23; yn tanlinellu fod yr amddiffyn llawn mor gadarn a chywirdeb yr ymosod. O'r cyfanswm hwn sgoriodd y cefnwr Grant Williams 301 o bwyntiau ac er cystal yw'r gamp hon sgoriodd fwy y llynedd ond chwaraewyd mwy o gemau.

Er enwi un chwaraewr mae e' ond yn un mewn carfan gadarn sydd wedi perfformio' n llwyddiannus trwy gydol y tymor. Mae'r garfan yn gymysgwch o `hen bennau' (yn aml ar bâr o goesau sy'n hynach) a ieuenctid sydd wedi asio â'i gilydd yn hyfryd oddi ar y cae yn ogystal ag arno. Yn wir, wrth gyfeirio at y bois ifanc hyn mae' n werth tynnu sylw at y ffaith fod bron hanner y tîm wedi chwarae ochr yn ochr ers eu bod yn wyth mlwydd oed.

Y gwir yw fod Clwb Tycroes heddiw yn elwa ar y system o greu chwaraewyr o dalent lleol trwy roi'r cyfleusterau a'r hyfforddiant yn gynnar yn eu bywydau. Mae 'Academi Tycroes' yn cynnwys pum carfan ifanc sef - dan 9, dan 10, dan 11, dan 13 a dan 14. Mae pwyllgor cryf yn datblygu'r rhan bwysig hwn o'r clwb ond mae bob amser angen mwy o rieni i weithio ar ddiwrnodau'r gemau (bore Sul gan amlaf) ac i gynorthwyo gyda rhedeg a hyfforddi'r rhan werthfawr yma o'r clwb.

Pwy a ŵyr, efallai ymhlith y ieuenctid sy'n chwarae i Dycroes heddiw y daw sêr y dyfodol a fydd yn chwarae gyda'r Sgarled neu'r Gweilch. Nid yw'n amhosib y gall rhai ohonynt fod yn sêr y tîm cenedlaethol. Pwy a ŵyr? Un peth sy' n sicr, mae Clwb Rygbi Tycroes yn gwneud eu gorau i ddarparu'r cyfleusterau a'r cyfleoedd i geisio gwireddu'r freuddwyd hon.

Wrth gwrs mae'r ymdrechion yma i gyd yn gostus ac i'r diben hwn rydym yn ddiolchgar i'n noddwyr a'n cefnogwyr sydd wedi'n cefnogi ar hyd y blynyddoedd. Wrth ddiolch iddynt hoffwn estyn croeso mawr i noddwyr a chefnogwyr newydd i ymuno â ni i wella ar y cyfleusterau ac i sicrhau fod 'na ddyfodol i rygbi yn y gymuned. Dewch yn llu i flasu croeso'r clwb ac i brofi'r pleser o weld ieuenctid (a rhai yn hynach) yn rhoi gwledd wrth chwarae ein gêm genedlaethol.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý