Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Glo Mân
Rhes Gefn: Mel Morgan, Keith Davies a Denzil Davies. Blaen: Mrs Janet Morgan, Mrs Meleri Davies a Mrs Betty Davies Cylchoedd Cinio yn Dathlu Gŵyl Dewi
Ebrill 2007
Am y tro cyntaf yn eu hanes fe daeth Cylchoedd Cinio Cymraeg Rhydaman a Tybïe ynghyd i ddathlu Gŵyl Ddewi yng Ngwesty'r Hydd Gwyn, Llandeilo, Nos Iau, Mawrth 1af.

Llywyddwyd y noson gan Lywydd Cylch Cinio Rhydaman, Mel Morgan, Brynaman ac ef a groesawodd aelodau'r ddau Gylch Cinio, eu gwragedd a ffrindiau ar yr achlysur arbennig hwn. Cyfeiriodd y Llywydd yn deimladwy iawn tuag at John Davies, aelod yn y ddau Gylch Cinio, a fu mewn profedigaeth yn ystod yr wythnosau olaf ym marwolaeth ei annwyl briod Mair.

Y Llywydd hefyd a groesawodd ein prif westai a'i wraig, Keith a Meleri Davies, Caerdydd. Brodor o Rydaman yr Keith ac mae'n adnabyddus fel darlledwr cyson ar Radio Cymru. Yn ei anerchiad cyfeiriodd at y dylanwadau a fu arno pan yn ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Rhydaman ac Ysgol Dyffryn Aman, yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, yn athro drama yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth ac yna gyda'r cyfryngau. Cafwyd ganddo anerchiad diddorol a hwyliog.

Bu y noson yn llwyddiant mawr gyda chymdeithasu hyfryd ac mi roedd y bwyd yn flasus. Hyfryd oedd cael prif westai a oedd yn adnabyddus i gymaint. Diolchwyd am y cyfan gan Denzil Davies, Llywydd Cylch Cinio Tybïe.

Cynhelir cinio nesaf Cylch Cinio Cymraeg Rhydaman yn y Ganolfan Aman, Rhydaman, Nos Iau, Ebrill 12 yn brydlon am 7.15 o'r gloch pryd y bydd Miss Jane Wyn, Crymych yn brif westai.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý