Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Glo Mân
Hazel Chrles Evans Hanes Hazel ym Mhatagonia
Mawrth 2004
Hanes Hazel Charles Evans - athrawes gyntaf o Gymru i fynd i'r Andes, a'i hymgyrch dros Ganolfan Gymunedol i Esquel.
Hanes Hazel Charles Evans - athrawes gyntaf o Gymru i fynd i'r Andes, a'i hymgyrch dros Ganolfan Gymunedol i Esquel.

Wyneb cynharol newydd i Landybie yw wyneb Hazel Charles Evans gan mai ond y llynnedd y symudodd hi yno i fyw o ardal y Bryn Llanelli. Yn ddieithr i'r cylch, ond nid yn adnabyddus ychwaith ymhlith gwragedd Cwm Aman a Chwm Gwendraeth gan iddi ar un adeg fod yn ysgrifennydd y Zenana dros Gymru (Mudiad Cenhadol y Bedyddwyr, Adran y Chwiorydd) yn Llywydd y De (Mudiad Chwiorydd yr Annibynwyr) ac yn llywydd Rhanbarth Myrddin o Fudiad Merched y Wawr.

Ym 1997 ar ôl ymddeol o'i swydd fel athrawes yn Ysgol Gyfun y Bryngwyn, Llanelli, fe'i penodwyd gan y Cyngor Prydeinig i fynd i ddysgu Cymraeg yn Esquel a Threvelin yn Nhalaith Chubut, Ariannin. Hi oedd yr athrawes gyntaf o Gymru i fynd i'r Andes ac yn ystod y ddwy flynedd bu hi yno mi fu'n dysgu'r Gymraeg fel mamiaith i'r to hŷn a'r canol oed ac fel ail-iaith i'r ifanc ac i'r plant.

Roedd y myfyrwyr a ddeuai i'r dosbarthiadau yn amrywio'n fawr o ran eu hoed, o deirblwydd hyd at bedwar ugain!

Amrywiant hefyd o ran lliw eu croen a'u cefndir. Rhai o dras Eidalaidd neu Almaenaidd, eraill yn Arabiaid neu yn Sbaenwyr tra bod ychydig yn frodorion Indiaidd - "Perchnogion gwir y tir" ys dywedodd un o feirdd cadeiriol y Wladfa. Roedd y mwyafrif mawr, serch hynny, o dras Gymreig - naill ai yn drydedd, yn bedwarddd neu yn bumed cenhedlaeth.

Yn ystod ei chyfnod fel athrawes ym Mhatagonia bu Hazel, (neu Aisel fel y'i bedyddiwyd gan y gwladfawyr) yn gofalu bod drws Selon, Esquel ar agor ar y Sul. Gwasanaeth Cymraeg gydag ambell air o Sbaeneg nawr ac yn y man ar gyfer newydd ddyfodiaid. Cymun ar y Sul cyntaf o'r mis a dosbarth Beiblaidd ar y Sul olaf pan ddechreuwyd hefyd yr arfer o ddod â bwydydd i'r capel er mwyn eu dosbarthu rhwng plant y stryd.

Cyn ymadael ym mis Mawrth 1999 derbyniwyd wyth aelod newydd, yn eu plith, merch ifanc o dras Eidalaidd ac o gefndir pabyddol, ie, Sandra de Pol a ddaeth yn ddiweddarach i Gymru ac i Gwm Gwendraeth.

Wedi i'w chyfnod yn yr Andes ddod i ben ac ar ôl dychwelyd adref gwnaeth Hazel apêl am gymorth i godi Canolfan Gymraeg, yn nhref Esquel ac aeth o gwmpas i annerch cymdeithasau o bob math gan lythyru papurau bro yn eu tro a chylchoedd cinio a chorau ledled Cymru. Mi fu rhai o ddarllenwyr selog Glo Mân a Phapur y Cwm yn hael iawn eu cyfraniad wrth gefnogi'r ymgyrch 'Brics i Batagonia.

Erbyn hyn mae'r Ganolfan ar ei thraed ac yn wledd i'r llygad. Da yw dweud ei bod yn cael ei defnyddio'n gyson ar gyfer cynnal dosbarthiadau Cymraeg. Dyma'r lle i gymdeithasu, i swpera, i gynnal nosweithiau llawen ac i dderbyn ymwelwyr o Gymru. Yma hefyd yn ogystal ag yn y Festri sydd bellach yn Ysgol Gymraeg y ceir llyfrgell a ffilmgell. Gwireddwyd y freuddwyd.

Dychwelodd Hazel i'r Ariannin yn 2001 ac fei derbyniwyd yn aelod o Orsedd y Wladfa yn y Gaiman lle cafodd hithau ymhlith eraill ei harwisgo â'r 'ruana' glas. Ar y 25ain o Fawrth 2002 fe gafodd y fraint o agor y Ganolfan yn swyddogol a hynny yn wyneb yr holl anawsterau economaidd a fu bron â diffodd y fflam yng nghalonnau Cymry'r Wladfa.

Ym mis Ionawr eleni, derbyniodd wahoddiad gan eglwys Anenwadol Brotestanaidd Seion Esquel i ymuno â hwy i ddathlu canmlwyddiant yr achos. Dechreuodd y dathliadau ar y 24ain o Ionawr gyda Chyngerdd yn y Ganolfan Gymraeg. Yna, Cymanfa ganu drannoeth yn Nghapel Seion a'r lle yn orlawn. Ar y 29ain dadorchuddiwyd arddangosfa o hen luniau yn ymwneud â hanes y capel a'r teuluoedd hynny a'i mynychai o'r cychwyn cyntaf. Trowyd y festri sydd bellach yn gartref i'r ysgol Gymraeg yn amgueddfa fechan oedd yn werth ei chael dros dro. Ar yr un noson hefyd cynhaliwyd cyfarfod arbennig ('Y Ganolfan eto dan ei sang) i gyflwyno llyfr 130 o dudalennau am hynt a helynt y capilla Seion rhwng 1904 a 2004.

Ar y 30ain o Ionawr dadorchuddiwyd cofeb a phlannwyd coeden yn y man lle y codwyd yr adeilad cyntaf oll a fu nid yn unig yn gapel ond yn ysgol hefyd. Am bump o'r gloch yr un prynhawn aeth nifer o ddisgynyddion y Cymry i'r fynwent ar gyrion y dref i gynnal gwasanaeth coffa yn yr awyr agored lle yr aethpwyd ati i ganu a gweddïo gan ddarllen enwau yr aelodau cyntaf oll a hynny yng nghysgod y coed am ei bod yn 30 gradd a mwy y prynhawn hwnnw o haf!

Ar yr 31ain o Ionawr am un ar ddeg y bore, a'r haul yn danbaid eto, cynhaliwyd defod ddinesig y tu allan i'r capel. Codi'r ddwy faner. Canu, cyfarch, gweddïo. Yna hel atgofion ym mhresenoldeb Maer y Dref a phwysigion y Dalaith. Gyda'r prynhawn daeth pobl yn llu i eistedd wrth y byrddau a chafwyd te Cymreig - yr holl ddanteithion wedi'u paratoi gan ferched gweithgar y gymdeithas. Dim bwydydd parod na bara clatsh!

Dydd Sul y cyntaf o Chwefror gwasanaethwyd gan Miss Mair Davies Trelew. Gwasanaeth dwyieithog oedd hwn. Ar y Sul dilynol cynhaliwyd oedfa Gymraeg o dan ofal Hazel Charles Evans.

Capel Seion ar ei newydd wedd. Yn wynebu cannrif newydd, ond yn aros ennyd i gofio'n ddiolchgar am yr hyn a fu, i gofio ac i fawrhau llafur ei gweinidogion gynt, a'r Parchg. David J. Peregrine, Bethesda Tymbl ymhlith y mawrion. Wythnos lawn o ddigwyddiadau. Wythnos i'w chofio yn wir. Pen blwydd llawen, Seion, a llawer iawn ohonynt!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý