Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Glo Mân
Y daith gefeillio i Pouldergat
Rhagfyr 2008
Mae Pwyllgor Gefeillio Cwmaman wedi bod yn trefnu ar gyfer taith i'r efeilldref, Pouldergat yn Llydaw.

Bu Priscilla Jones a Phwyllgor Gefeillio Cwmaman wrthi'n ddyfal am flwyddyn gyfan yn ein cyfarfodydd misol yn yr Angel yn Nhircoed yn paratoi am ein hymweliad gyda'n gefeilldref, sef Pouldergat yn Llydaw.

O'r diwedd, gwawriodd y dydd mawr ar Fore Llun, y 25ain o Hydref, wrth i ddau ddeg dau ohonom ymuno â bws y Brodyr Williams, yng ngofal Clive y dreifiwr a'i wraig, ym Mhont Abraham. Cawsom daith hwylus ar yr M4 i Fryste ac oddi yno lawr i Lanfa'r Fferi yn Plymouth.

Bu'r môr yn eithaf esmwyth ar y daith dros nos draw i Lydaw er gwaethaf pryderon Catrin, a oedd yn dueddol i ddioddef wrth 'mal de mer', ymadrodd y Ffrancwyr am salwch y môr. Yn wir, chafodd neb amser i deimlo'n sâl am fod y cabaret bywiog ar fwrdd y llong yn mynd ymlaen tan oriau mân y bore. Roedd yno ryw D.J., a oedd yn eithaf tebyg ei ddull i 'Jonsi' ar Radio Cymru, yn trefnu cystadlaethau canu rhwng Cwmaman a chriw o Gernyw. Dywedodd fod ganddo ddau gan a hanner o bunnoedd i'w rhoi yn wobr i'r enillwyr, ond welodd neb liw ei arian ar ddiwedd y noson.

Ar ôl cyrraedd Roscoff am wyth o'r gloch y bore, roedd gennym dair awr o daith ar ein bws i'r Hotel Oceania yn Quimper, lle'r oeddem yn sefyll am yr wythnos. Treuliwyd gweddill y dydd yn crwydro o gwmpas y ddinas hardd hon a adeiladwyd o gylch yr afon a redai drwy'r canol.

Ar y dydd Mercher, gwnaethom ymweld â Concameau a Locronan, llefydd hynod o hardd ar lan y môr. Yna, yn uchafbwynt i'r wythnos, fe'n croesawyd gan ein gefeilliaid Llydawaidd i ginio traddodiadol ar y nos Iau yn Pouldergat. Cafwyd noson fendigedig o adloniant gydag aelodau o Lleisiau'r Cwm yn cyfrannu'n helaeth iawn, a chafwyd unawdau gan Rhian ac hefyd eitem ar y delyn gan Catrin (gyda diolch o galon i Jayne am ddod â'i thelyn gyda hi ar ein taith).

Cyfranodd Catrin yn helaeth drwy fod yn gyfeilydd ac anghofiwn ni fyth yr unawd alaw werin ganddi. Diolch o galon i Catrin am ei hymroddiad fel ein cyfeilydd ac arweinyddes fedrus dros ben. Cafodd yr iâr fach wen ei phlufio fwy nag unwaith yn y modd mwyaf dramatig o dan arweiniad Mari ac Andrea. Yfwyd ambell wydriad o win i ddathlu'r achlysur.

Bu'r môr yn eithaf stormus ar adegau yn ystod y croesiad nôl o Roscoff i Plymouth ond er gwaethaf yr olion salwch fan hyn a fan co, roedd pawb mewn hwyliau arbennig o dda wrth i ni gyrraedd nôl ym Mhont Abraham am ddau o'r gloch ar y bore Sadwrn ar ôl wythnos fythgofiadwy.

Edrychwn ymlaen at groesawu ein ffrindiau Llydewig yn ôl i'r cwm yn y Gwanwyn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý