Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Glo Mân
Davy Jones Meistroli'r cyfrifiadur yn 97 oed!
Mehefin 2004
Y mae Davy Jones o'r Waun yn berson arbennig iawn. Er ei fod yn 97 oed ni chollodd dim ar ei awydd i ddysgu.

Wedi gadael ysgol ym 1919 yn 12 mlwydd oed ni chafodd rhagor o addysg ffurfiol tan iddo ymuno yn 1997 â chwrs Gloywi Cymraeg o dan nawdd Coleg y Brifysgol Abertawe. Yn ddiweddarach y mae Davy wedi bod yn astudio sut i ddefnyddio'r cyfrifiadur ac erbyn hyn y mae yn anfon e-bost i'w wyres yn Y Wyddgrug ac i'w fab yng nghyfraith yn y Swistir.

Fel cydnabyddiaeth o'i lwyddiant mae Davy Jones wedi ennill Gwobr Dysgwyr HÅ·n Age Concern Cymru am 2004. Derbyniodd Eleri, ei wyres, y wobr ar ran ei thatcu mewn Seremoni Gwobrau Wythnos Addysg Oedolion yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu ar 17 Mai. Yn anffodus, oherwydd afiechyd nid oedd Davy wedi gallu derbyn ei wobr yn bersonol.

Meddai Davy, "Mae'r cyfrifiadur yn fy nghartref yn bendant wedi gwneud bywyd yn fwy cyffrous. Efallai fod rhai yn teimlo, a minnau yn 97 oed, bod fy nyfodol y tu cefn i mi, ond o gael iechyd hoffwn barhau i ddefnyddio'r cyfrifiadur i ehangu fy ngorwelion."

Llongyfarchiadau i chi Davy, yr ydym mor falch o'ch llwyddiant a rydych yn esiampl i ni i gyd. Nid yw hi fyth yn rhy hwyr i fentro ac i ddysgu.

Hywel Davies.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý