Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Glo Mân
Alun Evans Gŵr â hobi arbennig
Ebrill 2004
Maen nhw'n dweud y dylai pawb gael rhyw hobi neu ddiddordeb arbennig. Dywedir fod y gallu i ymgolli yn llwyr mewn rhywbeth am rai oriau cyn ail-ymuno yn ein byd prysur ac yn aml gwallgof ni yn beth da i unrhyw un.
Mae'r geiriadur yn diffinio hobi fel 'gweithgarwch amser hamdden sy'n difyrru' a tra bo eraill yn pysgota ac yn casglu stampiau y mae yna hobi tra gwahanol gan Alun Evans o Talbot Road, Rhydaman.

Byth ers y diwrnod hwnnw nôl yn haf 1962 pan welodd awyren o'r enw 'Short Sunderland' mewn arddangosfa yn Noc Penfro y mae Alun wedi ei gyfareddu a'i swyno gan awyrennau. Arweiniodd hyn at ddiddordeb arbennig mewn coffau pobl a laddwyd mewn damweiniau awyren yn nyffryn Aman a'r cyffiniau ac erbyn hyn mae sawl cofeb wedi ei gosod yn yr ardal trwy ei ymdrechion.

Ganwyd a magwyd Alun yn Rhydaman yn fab i Clarice a'r diweddar Dent Evans a oedd yn gapten ar dimau rygbi a chriced Rhydaman. Yn hytrach na dilyn ei dad i'r caeau rygbi a chriced, troi ei olygon tua'r awyr a wnaeth Alun a threuliodd ran helaeth o'i blentyndod yn gwylio pob math o awyrennau yn hedfan uwchben ac o gwmpas Rhydaman.

Pan yn hÅ·n penderfynodd Alun fynd ati i godi cofebion i bobl a gollodd eu bywydau tra yn hedfan dros y rhan hon o Gymru. Y cofeb cyntaf a gododd oedd ar fryn o'r enw Rhydwenfach ger Llyn-y-fan Fawr i gofio am wyth o hedfanwyr a fu farw yno un noswaith arw ym mis Medi 1943 pan ddisgynnodd eu hawyren ar ei phen i mewn i'r ddaear. Daeth yr awyren i lawr mewn llecyn anghysbell ar y Mynydd Du ar uchelder o 1,800 o droedfeddi. Trwy ymdrechion Alun codwyd cofeb yno a chynhaliwyd gwasanaeth yno gyda'r Llu Awyr yn rhoi benthyg hofrennydd i gludo perthnasau y rhai a fu farw i fyny i'r llecyn unig ar y Mynydd Du.

Yn Eglwys Brynaman mae yna gofeb arall a drefnwyd gan Alun i gofio am Americanwr a laddwyd yn Ebrill 1944 yn agos i Fferm Caeaunewydd. Y mae Alun wedi bod yn gyfrifol am ddau gofeb arall gyda un ohonynt yn Ninbych y Pysgod a'r llall ym Myddfai.. Y mae hanes diddorol tu ôl bob un o'r cofebion a cheir hanes y gofeb yn Myddfai yn y bennod 'The Sergeant at Christmas' mewn llyfr gyda'r teitl "The Bank Manager and the Holy Grail" gan Byron Rogers.

Y mae y teuluoedd a gollodd eu hanwyliaid yn y damweiniau yna i gyd wedi bod yn ddiolchgar i Alun am drefnu'r cofebion. Y mae nifer fawr ohonynt wedi dweud wrtho fod ymweld â'r gofeb wedi cau pennod yn eu bywydau gan eu bod am y tro cyntaf yn gallu ymweld â'r man lle collodd eu perthnasau eu bywydau a dod i wybod y ffeithiau y tu ôl i'r digwyddiad.

Er ei ddiddordeb mawr mewn awyrennau nid yw Alun wedi esgeuluso dim ar ei ddyletswyddau teuluol. Y mae ganddo ef a'i wraig Kathy ddau o feibion gyda Rhys yn gweithio yn J & J Motors, Cross Hands ac Owain yn cyflwyno y rhaglen newyddion i bobol ifanc 'Ffeil' ar S4C.

Fe wnaeth diddordeb mawr Alun mewn hanes wneud iddo benderfynu newid gyrfa rai blynyddoedd yn ôl ac aeth i astudio yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Graddiodd yn llwyddiannus gyda gradd B.A. mewn Hanes yn 2000 a gradd M.A mewn Hanes Lleol llynedd. Ar hyn o bryd mae'n gweithio i Wasanaeth Llyfrgell Sir Gaerfyrddin gan fynd ag un o'r faniau teithiol o gwmpas pentrefi'r Sir.

Dywed Alun na fydd yna ragor o gofebion ond mae wedi dweud hynny o'r blaen! Ei freuddwyd fawr yw adeiladu rhyw fath o hofrennydd neu awyren ei hunan. A fydd yn llwyddo i wneud hyn? Fe gawn ni weld ond mae Alun Evans wedi bod yn feistr ar gyflawni'r annisgwyl hyd yn hyn.

Guto Llywelyn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý