Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Glo Mân
Rhai o'r plant yn y noson agoriadol Noson i ddathlu agor aelwyd
Gorffennaf/Awst 2008
Mae noson agoriadol wedi ei chynnal wrth i Aelwyd Amanw ym Mrynaman agor ei drysau am y tro cyntaf mewn saith mis.

Mae Aelwyd Amanw ar gael unwaith eto at ddefnydd pobl Brynaman a'r cylch. Bu ar gau ers Tachwedd diwethaf er mwyn i'r gwaith o ehangu ac adnewyddu fynd yn ei flaen a rhaid dweud bod y lle yn awr yn bleser i'w weld - neu'r tu mewn o leiaf.

Mae gwaith enfawr wedi ei gwblhau - diolch i grantiau a dderbyniwyd gan Gronfa 1 WREN, Cronfa Adnewyddu Ardal, Y Gist Gymunedol, Cymunedau'n Gyntaf a Chyngor Cymuned Cwarter Bach.

Mae Pwyllgor yr Aelwyd yn arbennig o ddiolchgar ac yn gwerthfawrogi cefnogaeth bob un o'r uchod gan na fyddai wedi bod yn bosib ariannu'r gwaith.

Yn ddiamau byddai'r adeilad wedi gorfod cau a hynny yn dristwch i lawer iawn o bobl sy'n gwneud defnydd cyson o'r lle nawr heb sôn am y llu sydd ag atgofion melys iawn o'r dyddiau a fu.

Rhaid diolch hefyd i gwmni TRJ am waith arbennig ac am Iwyddo i gael cwart allan o bob peint lle bo'r arian yn y cwestiwn!

Ar nos Lun, 30 o Fehefin cynhaliwyd noson agored yn yr aelwyd er mwyn rhoi cyfle i'r bobi leol weld y lle ar ei newydd wedd ac roedd hi'n hyfryd gweld y lle'n llawn o blant a phobl o bob oed yn ymfalchïo yn y gweddnewidiad.

Cafodd pawb bleser mawr o weld nifer dda o'r plant sy'n mynd i'r dosbarthiadau dawns a gynhelir yno yn perfformio yn ystod y noson.

Dyna Ran 1 o'r cynllun wedi ei chwblhau, ymlaen yn awr at Ran 2 sef y gwaith ar y tu allan - a'r gwaith o godi arian unwaith eto i dalu amdano! Pan ddaw hwnnw i ben bydd lle diogel ar gael ar gyfer gweithgareddau o dan do neu yn yr awyr agored.

Wedi'r holl waith mae pwrs yr aelwyd nawr yn eithaf gwag a bydd rhaid gweithio'n brysur i gynnal gweithgareddau er mwyn rhoi golwg iachach arno. Gobeithio'n fawr y gwnaiff pobl Brynaman helpu gyda'r gwaith hwn.

Bydd yr agoriad swyddogol yn ddiweddarach yn y flwyddyn - yn y gobaith y bydd arian wedi dod i gwblhau'r prosiect cyfan, mewn ag allan, erbyn hynny.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý