Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Glo Mân
Ray gyda Dafydd Iwan yng Nghlwb Rygbi Brynaman, 2006 Ray, ffarwél
Tachwedd 2007
Cafodd Cymru gyfan ei hysgwyd gan y newydd am farwolaeth disymwth Ray Gravell tra roedd ar ei wyliau gyda'i deulu yn Sbaen.

Rhyfedd meddwl i hyn ddigwydd ar 31 Hydref 2007, 35 o flynyddoedd i'r diwrnod y curodd crysau cochion Llanelli grysau duon Seland Newydd ar Barc y Strade.

Y diwrnod canlynol ar 1 Tachwedd fe gafwyd deyrngede lu iddo fe. Roedd hi'n ddiwrnod dathlu pen blwydd S4C yn 25 mlwydd oed. Cyfrannodd Grav gymaint i fyd y bêl hirgron ac i ddarlledu yng Nghymru, ac er iddo deithio i bellteroedd byd yn sgil y ddeubeth yma, boi ei filltir sgwâr oedd Ray.

Ffigwr eiconig
Siaradai byth a beunydd am Fynydd y Garreg ac o barch i'w bentref genedigol dewisodd yr enw "Ray o'r Mynydd" fel ei enw yn yr Orsedd. Fe oedd Ceidwad y Cledd, diolch i weledigaeth y Prifardd Dafydd Rowlands. O safbwynt yr Eisteddfod Genedlaethol roedd yn ffigwr eiconig. Ym mhob gorymdaith gwnaeth ei waith gydag urddas.

Roedd yn gymeriad llawn a lliwgar. Fe frwydrodd mor ddewr dros y chwe mis diwetha' wedi iddo dderbyn llawdriniaeth go eger o ganlyniad i glefyd y siwgr. Er iddo golli ei goes ni laddwyd ei agwedd bositif tuag at fywyd. Gwellodd yn ddigon da i ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Gaerfyrddin - y sir a garai gymaint, a braf oedd gweld ymateb y dorf i'w ymddangosiad. Roedd gan bawb air da am Grav.

Roedd yn Gymro o'i gorun i'w sawdl, yn wir roedd yn llawenhau yn ei Gymreictod ac yn rhannu hyn gydag eraill. Roedd yn gennad da i'r iaith Gymraeg ac yn Gymro cynhwysol a defnyddiol a ymhyfrydai yn niwylliant ein gwlad. Un o' i arwyr pennaf oedd Owain Glyndŵr ond y gwir yw fod dylanwad Grav wedi ei wneud ef ei hun yn arwr i lawer.

Cawr o ganolwr
Yn anterth ei yrfa fel chwaraewr rygbi roedd yn gawr o ganolwr ond o dan yr wyneb roedd yna berson sensitif a hynaws yn cuddio. Tra'n chwarae dros ei wlad roedd yn aelod hoffus o'r garfan. Fe hefyd oedd diddanwr y tîm gan wybod bob gair o bob cân a 'sgrifennodd Dafydd Iwan. Yn ddiweddarach fe ddaeth y ddau yn ffrindiau mawr, ac fe ysgrifennodd Dafydd englyn coffa iddo: Canaf i Raymond Gravell - y corwynt
Cywiraf ei anel,
Diolch a wnaf yn dawel
I wir ffrind - a, Ray, ffarwel.

Roedd ei gartref a'i deulu'n bopeth iddo. Diolchai'n gyson am deyrngarwch Mari ei wraig tra bu' n wael yn yr ysbyty a phob tro y byddai' n cyfeirio at y merched, Manon a Gwenan, roedd gwên ar ei wyneb. Mae ein cydymdeimlad â nhw' n ddidwyll.

Er ei hoffter o'i gartref roedd ganddo ail aelwyd - Parc y Strade. Yn Llywydd y Sgarlets braf oedd clywed y to ifanc yno' n sôn amdano fel ffrind da a'u hysbrydolodd i roi o'u gore. A fanno fydd y gwasanaeth angladdol. Yn wir ni fyddai'r un capel yn ddigon mawr i ddal y gynulleidfa.

Pan feddyliwn am Fynydd y Garreg fe wyddom mai fan hyn bu Ray yn chwarae' n blentyn ac roedd yn para i gerdded y llwybrau. Tristwch pellach felly oedd ei farw mewn gwlad estron. Mor briodol yw'r cwpled o un o englynion coffa Hedd Wyn: Troedio wnest ei rhedyn hi,
Hunaist ymhell ohoni.

Coffa da amdano fe ond mi fyddwn yn para i glywed ei lais am flynyddoedd yn datgan "West is Best".

  • Mwy am Ray Gravell
  • Teyrngedau i Ray Gravell

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý