Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Glo Mân
Llyfrau Adolygiad o lyfr newydd
Ionawr 2004
Er mai Pum Ysgol Ardal Cwmllynfell yw teitl llawn llyfr cynhwysfawr Hywel Gwyn Evans (Gwasg Gomer - cyh. Cyngor Sir Caefyrddin), gellid ei gymhwyso i fod yn gefndir diddorol a llawn i lawer ysgol arall yng Nghymru'r gorffennol.

Mae'n rhestru "Dyddiadau Pwysig ym Myd Addysg a Lledaenu Democratiaeth" o 1898 i 1969, ac yn nodi'n gryno hanes deddfau Addysg 1870, 1889, 1902,1918 a 1944. Bu'n pysgota'n brysur yn Llyfrau Log yr ysgolion, a chododd stôr o fanylion diddorol, gan ddefnyddio ystadegau a lluniau pwrpasol am "Ddigwyddiadau arbennig" fel ailbriodas MadamAdelina Patti, dadorchuddio'r gofeb i Watcyn Wyn ar sgwâr Cwmllynfell, a daeargryn' 1906.

Saesneg oedd iaith swyddogol yr ysgolion ymhell i mewn i'r ugeinfed ganrif, ac fel hanesydd gwir o Gymro gwelodd Hywel Gwyn Evans gymaint o Frad a berthynai i Lyfrau Gleision 1847.

"A seat of iniquity" oedd Cwmtwrch yn ôl Williams Morris, un o gomisiynwyr Arolwg y Llywodraeth! Pobl israddol hollol anwybodus oedd y Cwm lleol yng ngolwg perchenogion Seisnig Anglicanaidd y gweithfeydd haearn. Ni ofynnid am farn unrhyw weinidog ymneulltuol nac am farn unrhyw weithiwr cyffredin o Gymro.

Roedd hi "Y Frwydr am Rehoboth" rhwng yr ysgolion Brytanaidd Anenwadol ac Ysgolion y Gymdeithas Anglicanaidd Genedlaethol. Mae'r penodau "Cwricwlwm a Sylwadau'r Arolygwr ar Safon yr Addysg a "Chyflwr ac Adnoddau'r Ysgolion" yn brawf o ymchwilio manwl a gwaith di-flino ar ran yr awdur.

Mae'r rhestr "Clefydau heintus"- annwyd, brech yr ieir, bronceitis, clefyd coch, y crwp, y darfodedigaeth (neu'r diciau, dyclein, pla Gwyn, T.B.) difftheria a diffyg maeth y dwymyn doben, y frech goch, y frech wen, y ffliw, heintiau'r croen, y cwnsi a thonsileitis, y pas, ynddi'i hun yn creu darlun cymdeithasegol brawychus iawn.

Y dyddiau hyn â chynifer o'n hysgolion bach ni mewn perygl o gael eu difodi, ac yn wynebu datblygiadau ysgubol, dyma lyfr a fydd yn sicr o brofi'n ddiddorol. Os oes 'na hanesydd ifanc yn ardal Glo Man sy'n chwilio am destun ymchwil, yn sicr byddai "Pum Ysgol Ardal Dyffryn Aman" yn destun teilwng o astudiaeth.

Gellwch brynu'r llyfr mewn Swyddfa Bost, Ysgol Gynradd, neu oddi wrth yr awdur am £10.

Rhiannydd Morgan


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý